Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom ('y Panel') ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2022 i ystyried ceisiadau yn y rownd gyllido gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23.
Bu i'r Panel ystyried pob cais a dyfarnu cyllid yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd, a chan gyfeirio at nodiadau arweiniad y Gronfa Radio Cymunedol ('y Gronfa'). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid o gwbl.
Yn y cyfarfod:
- ystyriwyd 47 o geisiadau am grant
- y cyfanswm cyllid y gofynnwyd amdano yn y ceisiadau hyn oedd £757,370
- dyfarnwyd grantiau i 18 o ymgeiswyr, cyfanswm o £242,395 ac
- ni ddyfarnwyd grant i 29 o ymgeiswyr.
Amrywiodd y grantiau a ddyfarnwyd o £4,320 hyd at £18,955 ar gyfer swyddi unigol, gyda swm cyfartalog o £13,466. Ceir crynodeb o'r dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad hwn.
Gofyn am adborth cyn ailgyflwyno cynigion
Nid yw'r Panel yn darparu adborth unigol fel mater o drefn. Efallai y bydd rhywfaint o adborth ar lafar ar gael, os yw gorsafoedd am gysylltu ag Ofcom. Fodd bynnag, byddai'r Panel yn awgrymu i orsafoedd ofyn am adborth os byddant yn ailgyflwyno ceisiadau am yr un swydd neu brosiect yn y dyfodol.
Darllen y nodiadau arweiniad
Cyflwynodd sawl gorsaf geisiadau am grantiau ar gyfer eitemau fel treuliau gwirfoddolwyr, gwariant cyfalaf a chostau marchnata er i'r arweiniad nodi'n glir nad yw'r Gronfa'n cefnogi ceisiadau o'r fath.
Darparu tystiolaeth i gefnogi eich cais
Mae'r Panel yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarperir gan bob ymgeisydd. Darparodd nifer fach o orsafoedd ychydig iawn o wybodaeth i gefnogi eu cais ac o ganlyniad, buont yn aflwyddiannus
Byddai'r Panel hefyd yn croesawu gwybodaeth am sut mae gorsafoedd yn bwriadu mesur llwyddiant. Er enghraifft, dylai ymgeiswyr sy'n gofyn am gyllid ar gyfer gwerthu hysbysebu ddisgrifio'r refeniw tebygol y maent yn rhagweld y caiff ei gynhyrchu trwy werthu hysbysebu.
Darparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani
Dylai ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth ategol y gofynnir amdani, megis gwybodaeth ariannol berthnasol neu ddisgrifiad swydd os yn gwneud cais am gyllid ar gyfer swydd. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y nodiadau arweiniad am ragor o fanylion ynghylch yr hyn y dylid ei ddarparu.
Pennu cyflogau realistig
Pennodd rhai gorsafoedd gyflogau uchel ar gyfer swyddi codi arian amser llawn a oedd yn anghymesur ag incwm yr orsaf ac yn annhebygol o fod yn gynaliadwy y tu hwnt i gyfnod y grant. I'r gwrthwyneb, pennodd rhai gorsafoedd gyflogau isel iawn gyda nifer bach o oriau ac roedd y Panel yn cadw mewn cof yr adborth gan ymgeiswyr blaenorol eu bod weithiau'n ei chael hi'n anodd denu ymgeiswyr i'r rôl pan oedd y cyflog yn rhy isel.
Ymchwilio i ddulliau newydd o gynhyrchu refeniw
Croesawodd y Panel geisiadau yn y rownd hon gan orsafoedd a oedd yn ceisio mynd ar drywydd dulliau newydd o gynhyrchu refeniw, megis pecynnau marchnata dididol. Bu'n ddymunol hefyd iddynt ddarparu cyllid ar gyfer arolwg sy'n anelu at ddangos effaith a gwerth radio cymunedol; teimlai'r Panel y byddai hyn yn adnodd gwerthfawr i'r sector cyfan o ran darparu gwybodaeth i ddarpar hysbysebwyr, noddwyr a phartneriaid.
Darparu ffocws clir ar gyfer swyddi
Ffafriodd y Panel geisiadau am swyddi yr oedd eu disgrifiadau swydd yn dangos. Roedd ceisiadau aflwyddiannus yn cynnwys y rhai lle'r oedd gan ddeiliad y swydd ystod eang o gyfrifoldebau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, rhaglennu a hyd yn oed cyflwyno rhaglenni dyddiol, ochr yn ochr â datblygu refeniw. Roedd y rhain yn aml yn geisiadau ar gyfer swyddi Rheolwr Gorsaf. Roedd y Panel yn annhebygol o ffafrio'r fath geisiadau gan nad oedd deiliad y swydd yn debygol o fedru neilltuo digon o amser i gynhyrchu incwm, gan wneud y buddsoddiad yn anghynaliadwy.
Cyflwynodd nifer fach o orsafoedd geisiadau dryslyd fu'n awgrymu y gellir hollti swyddi'n ddwy ran neu eu cyfuno â rolau eraill. Roedd y ceisiadau hyn yn aflwyddiannus gan nad oedd yn glir beth fyddai'r Gronfa'n ei gefnogi.
Contractiwr neu gyflogai?
Mae ymgeiswyr yn parhau i ddweud y gellir dyfarnu rolau i gontractwyr hunangyflogedig sy'n anfonebu ar sail fisol. Nid yw'r Panel yn cyflogi'r rhai y dyfernir cyllid iddynt yn uniongyrchol, felly nid yw o fewn ei gylch gwaith i benderfynu a yw deiliaid swyddi yn hunangyflogedig at ddibenion treth. Mae'r Panel yn atgoffa ymgeiswyr bod rheolau Cyllid a Thollau EM ynghylch gweithio oddi ar y gyflogres wedi newid. Os nodir bod ymgeiswyr yn torri rheolau oddi ar y gyflogres, nid yw'r Gronfa'n atebol i ddigolledu unrhyw ddiffyg o ganlyniad i orfod ad-dalu Treth Incwm neu Gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae arweiniad llawn i ymgeiswyr yn y dyfodol ar gael ar wefan GOV.UK.
Enw'r orsaf | Diben | Swm |
---|---|---|
TD1 Radio | Rheolwr Datblygu Busnes | £15,000 |
Bro Radio | Cyfarwyddwr Gweithrediadau | £16,581 |
Drive 105 FM | Sefydliad Codi Arian Allanol | £4,320 |
NLive | Adrodd am Effaith (Cais ar y cyd) | £8,706 |
Academy FM Folkestone | Prentis Cynorthwy-ydd Gwerthiannau | £8,654 |
Purbeck Coast FM | Rheolwr Cynaladwyedd a Datblygu | £12,338 |
Radio Seerah | Cydlynydd Datblygu Codi Ariam a Busnes | £14,820 |
Rajo Radio | Rheolwr Gorsaf Cynorthwyol | £14,380 |
Bishop FM | Rheolwr Gwirfoddolwyr | £18,440 |
Dales Radio | Rheolwr Masnachol | £13,200 |
Glastonbury FM | Rheolwr Cynaladwyedd yr Orsaf | £18,955 |
Hot Radio | Rheolwr Masnachol Cyfryngau Cymdeithasol | £10,218 |
Legacy 90.1FM | Cydlynydd Prosiect Cymunedol a Chodi Arian | £15,937 |
Oldham Community Radio | Rheolwr Partneriaethau Cymunedol | £12,000 |
Radio Faza | Rheolwr Codi Arian | £10,812 |
Radio Plus | Prif Weithredwr (Cynnydd mewn oriau) | £15,000 |
Rinse FM | Swyddog Codi Arian a Chyllid | £15,887 |
Salford City Radio | Rheolwr Cyllid a Datblygu Prosiectau | £17,147 |