Safonau cynnwys

Cyhoeddwyd: 3 Tachwedd 2023

Mae'r Siarter yn rhoi'r cyfrifoldeb i Ofcom dros reoleiddio safonau cynnwys rhaglenni teledu, radio ac ar-alwad y BBC.

Mae Cod Darlledu Ofcom yn cynnwys y rheolau y mae’n rhaid i’r BBC eu dilyn er mwyn diogelu gwylwyr a gwrandawyr y BBC yn briodol. Mae rheolau’r Cod ynghylch didueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy (Adran 5), etholiadau a refferenda (Adran 6), cyfeiriadau masnachol ar y teledu (Adran 9) a chysylltiadau masnachol ar y radio (Adran 10) yn berthnasol i'r BBC am y tro cyntaf yn unol â'r Siarter newydd.

Adolygiad o sut rydym yn rheoleiddo'r BBC

Wrth i ni gyrraedd canol cyfnod presennol Siarter y BBC, rydym wedi bod yn adolygu perfformiad y BBC a sut byddwn yn ei rheoleiddio yn y dyfodol.

Mae Ofcom yn glir bod angen i'r BBC wneud ei phroses gwyno yn symlach ac yn haws i bobl ei defnyddio. Rhaid iddi hefyd fod yn fwy tryloyw ac agored am ei phenderfyniadau.

Er mwyn helpu i fynd i'r afael â phryderon cynulleidfaoedd, rydym wedi diweddaru ein penderfyniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y BBC.  Mae hyn bellach yn cyfarwyddo'r BBC i gyhoeddi'r rhesymeg y tu ôl i unrhyw benderfyniad cam olaf i beidio â chadarnhau cwynion am ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy.

Rheolau yng nghyswllt darllediadau etholiadol pleidiau a refferenda (PDF, 206.9 KB)

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r hyn sy’n ofynnol gan y BBC mewn perthynas â darllediadau etholiadol pleidiau a refferenda.

Deunydd Ar-lein y BBC

Mae Ofcom wedi cyhoeddi trefniant gyda'r BBC ynghylch sut fyddwn ni'n ystyried ac yn rhoi barn am ddeunydd ar-lein y BBC. 

Gweithdrefnau ar gyfer trin cwynion cysylltiedig â deunydd ar-lein y BBC

Mae’r ddogfen hon yn datgan y gweithdrefnau y bydd Ofcom yn eu dilyn fel rheol wrth drin cwynion am gynnwys ar-lein y BBC, a sut byddwn yn darparu barn ar a yw’r BBC wedi cadw at ganllawiau golygyddol perthnasol ar gyfer ei ddeunydd ar-lein.

Gweithdrefnau wrth ymdrin â chwynion, ymchwiliadau a sancsiynau ar Deledu, radio a gwasanaethau fideo-ar-alwad

Mae’r ddogfen hon yn nodi’r gweithdrefnau y bydd Ofcom fel arfer yn eu dilyn pan fydd yn delio â chwynion am raglenni teledu, radio ac ar-alwad y BBC, a sut byddwn yn cynnal ymchwiliadau a sancsiynau.

Mae’r ddogfen hon yn disgrifio’r protocol ar gyfer cyfathrebu rhwng y BBC ac Ofcom mewn achosion sy’n dod o dan weithdrefnau’r BBC ar gyfer (1) ymchwiliadau a gychwynnwyd ganddynt hwy eu hunain (PDF, 170.6 KB) o dor-rheolau posib o safonau golygyddol a (2) achosion trywydd cyflym.

Mae'r Siarter newydd yn rhoi'r cyfrifoldeb i Ofcom dros reoleiddio safonau cynnwys rhaglenni teledu, radio ac ar-alwad y BBC.

Mae'r dudalen hon yn dwyn ynghyd ymgynghoriadau, datganiadau rheoleiddio, datganiadau i’r wasg a gwybodaeth ddefnyddiol arall sy’n ymwneud ag Ofcom a’r BBC. Mae’n delio â'r cyfnod rhwng mis Medi 2016, pan gyhoeddwyd y Siarter a'r Cytundeb drafft, a 3 Ebrill 2017 pan fydd y gwaith rheoleiddio yn cychwyn.

Yn ôl i'r brig