Cyhoeddwyd: 8 Gorffennaf 2020
Ymgynghori yn cau: 16 Medi 2020
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)
Mae gwasanaethau dal i fyny ac ar-alw yn gynyddol boblogaidd, ond yn aml nid yw'r gwasanaethau hyn yn gwbl hygyrch i bobl gyda nam ar y clyw a'r golwg, oherwydd dydyn nhw ddim yn darparu nodweddion fel is-deitlau, disgrifiadau sain ac arwyddo.
Yn 2018, gwnaeth Ofcom argymhellion i Lywodraeth y DU am reoliadau newydd i wella hygyrchedd gwasanaethau fideo ar-alw ("ODPS"). Yn dilyn cais swyddogol gan y Llywodraeth, rydyn ni nawr yn ymgynghori ar fanylion pellach, yn edrych ar sut byddai'r rheoliadau yn gweithio yn ymarferol gan gynnwys eithriadau.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgyngoriadau .
Rydyn ni hefyd yn croesawu ymatebion yn Iaith Arwyddion Prydain (BSL).