Rheolau ar ddefnyddio offer radio

Cyhoeddwyd: 10 Gorffennaf 2023

Er mwyn atal ymyriant rhwng defnyddwyr, mae'r defnydd o donnau radio wedi'i reoleiddio gan gyfreithiau cenedlaethol. Mae'r dudalen hon yn esbonio'r rheolau sy'n berthnasol, gan gynnwys defnydd sydd wedi'i eithrio rhag trwydded a dyfeisiau fel offer rhwystro a throswyr.

Rydym yn cydbwyso anghenion a buddiannau gwahanol ddefnyddwyr sbectrwm

Mae Adran 3 Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn nodi un o brif ddyletswyddau Ofcom. Mae'n dweud, wrth gyflawni ein swyddogaethau, ei bod yn ofynnol i ni sicrhau'r defnydd gorau posib o'r sbectrwm ar gyfer telegraffiaeth ddi-wifr. Mae hefyd yn dweud bod yn rhaid i ni ystyried y gwahanol anghenion a buddiannau, o ran y defnydd o'r sbectrwm ar gyfer telegraffiaeth ddi-wifr, pawb sydd efallai eisiau ei ddefnyddio.

Y Ddeddf fwyaf perthnasol mewn perthynas â gorfodi yw Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006 (WTA). Mae Adran 3 yn dweud, wrth gyflawni ein swyddogaethau sbectrwm, bod yn rhaid i ni ystyried, ymhlith pethau eraill, i ba raddau y mae'r sbectrwm ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer telegraffiaeth ddi-wifr a'r galw am y fath ddefnydd. Mae'n rhaid hefyd i ni ystyried dymunoldeb hyrwyddo rheolaeth a defnydd effeithlon o'r sbectrwm sydd ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer telegraffiaeth ddi-wifr.

Un peth y mae'r dyletswyddau hyn yn ei adlewyrchu yw bod llawer o wahanol ddefnyddiau a defnyddwyr o'r sbectrwm. Mae gan y ffordd y maent yn defnyddio'r sbectrwm y potensial i ymyrryd â'i gilydd.

Mae ein dyletswyddau statudol yn ei gwneud yn ofynnol i ni gydbwyso anghenion a buddiannau gwahanol defnyddwyr a defnyddiau o'r sbectrwm. Yn bwysig, nid oes unrhyw un o'r dyletswyddau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddileu'r holl ymyriant a gwarantu defnydd o'r sbectrwm heb ymyriant i unrhyw ddefnyddiwr penodol.

Rydym yn trwyddedu'r defnydd o sbectrwm i atal ymyriant

Mae'r WTA hefyd yn nodi nifer o swyddogaethau y mae'n rhaid i ni eu cyflawni a'r pwerau a roddir i ni er mwyn gwneud hynny (a phan fyddwn yn cyflawni'r swyddogaethau hyn ac yn arfer y pwerau hyn, mae'n rhaid i ni gydymffurfio â'r dyletswyddau a ddisgrifir uchod). Mae'r swyddogaethau a'r pwerau hyn hefyd yn adlewyrchu'r potensial i ddefnyddiau gwahanol o'r sbectrwm ymyrryd â'i gilydd ac maent yn sefydlu cynllun statudol ar gyfer rheoli'r mater hwnnw.

Yn benodol, mae adran 8 yn sefydlu cynllun ar gyfer trwyddedu'r defnydd o sbectrwm. Mae'n rhaid i ddefnyddwyr naill ai ddal trwydded ar gyfer eu defnydd o sbectrwm, sydd wedi'i dyroddi gan Ofcom, neu fod wedi'u heithrio rhag yr angen am ddal trwydded o dan reoliadau a wnaed gennym.

Mae'r trwyddedau a'r eithriadau hyn yn cynnwys amodau sy'n rheoleiddio sut, pryd a lle y gall person ddefnyddio'r sbectrwm.

Mae defnyddio'r sbectrwm heb drwydded neu fudd eithriad, neu sy'n torri amodau trwydded neu eithriad, yn drosedd ac mae gan Ofcom bwerau gorfodi o dan adrannau 35, 39 a 41. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u dylunio'n glir i reoli'r potensial am wrthdaro rhwng defnyddwyr a defnyddiau o sbectrwm.

Mae yna ddarpariaethau penodol hefyd all gael eu defnyddio pan geir problemau ymyriant sydd wedi'u hachosi gan offer. O dan adran 54, gall Ofcom wneud rheoliadau sy'n pennu gofynion i sicrhau nad yw cyfarpar yn achosi ymyriant amhriodol i delegraffiaeth ddi-wifr pan gaiff ei ddefnyddio. O dan adran 55, gallwn gyflwyno hysbysiadau gwahardd i atal person rhag defnyddio offer sy'n achosi mathau penodol o ymyriant amhriodol. Mae methu â chydymffurfio yn drosedd o dan adran 58.

Un o'r rheoliadau y mae Ofcom wedi'u gwneud o dan adran 54 yw Rheoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Rheoli Ymyriant o Offer) 2016. Yn fras iawn, mae'r rhain yn berthnasol i rai mathau o gyfarpar ac yn rhoi'r pŵer i Ofcom gyflwyno hysbysiad gwahardd yn erbyn y defnydd o'r fath gyfarpar sy'n achosi ymyriant amhriodol.

Hefyd, mae Adran 4 y WTA yn rhoi swyddogaeth i Ofcom sydd hefyd yn adlewyrchu'r gwrthdaro posib rhwng defnyddwyr a defnyddiau o sbectrwm. Mae'n dweud bod yn rhaid i ni ddarparu gwasanaeth o gyngor a chymorth i bobl sy'n cwyno i ni am ymyriant â'r sbectrwm. Unwaith eto, fodd bynnag, nid yw'n ei gwneud yn ofynnol i Ofcom sicrhau neu warantu y bydd unrhyw ddefnydd neu ddefnyddiwr penodol o sbectrwm yn rhydd rhag ymyriant.

Mae'r WTA yn cynnwys diffiniadau penodol o "ymyriant" ac ymyriant "amhriodol" a "niweidiol". Mae'r rheini'n eithaf manwl, ond mae'r cyntaf yn ymdrin â sefyllfaoedd lle mae ynni neu signalau electromagnetig yn achosi i'r cyfan neu ran o gyfathrebiad di-wifr cyfan gael ei gyfaddawdu. Mae'r fath ymyriant yn "amhriodol" ac yn "niweidiol" os yw'n peryglu gwasanaethau llywio neu ddiogelwch bywyd neu'n ddiraddio, yn rhwystro neu'n ymyrryd dro ar ôl tro â thrawsyriadau telegraffiaeth ddi-wifr cyfreithlon.

Mae ymyriant fel arfer yn cael ei achosi gan:

  • ddefnyddio cyfarpar radio heb ei drwyddedu;
  • aflonyddwch electromagnetig o gyfarpar neu osodiadau; neu
  • nam neu ddiffyg yn yr orsaf neu gyfarpar yr effeithir arnynt.

Mae sefydlu a chynnal rhai mathau o delegraffiaeth ddi-wifr yn agored i ffenomenâu naturiol, er enghraifft mae'r amleddau cyfathrebiadau radio a elwir yn "Amledd Uchel" yn amrywio'n unol â ffactorau cymhleth gan gynnwys golau'r haul a chyflwr yr atmosffer, a all flocio signalau.

You must have a licence to use radio equipment (with some exceptions)

Mae'r defnydd o offer radio wedi'i reoleiddio gan y gyfraith. Mae'n anghyfreithlon sefydlu, gosod neu ddefnyddio offer cyfathrebiadau radio ac eithrio o dan ac yn unol â thrwydded gan Ofcom neu o dan reoliad eithriad trwydded, a'r gosb fwyaf yn sgil euogfarn yw carchar a dirwy ddiderfyn.

Mae Ofcom yn cyhoeddi trwyddedau i ddefnyddio sbectrwm. Mae mwy o wybodaeth ynghylch gwneud cais am drwydded neu adnewyddu trwydded ar gael ar ein gwefan.

Mae llawer o ddefnydd cyffredin o radio, fel wi-fi, ffonau di-wifr a larymau ceir wedi'u heithrio rhag gofyniad trwyddedu. Gallwch hefyd ddarllen mwy am ddefnydd di-drwydded.

Darllen y rheolau perthnasol

Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006 yw'r brif ddeddfwriaeth ar reoleiddio sbectrwm radio yn y DU ac mae'n darparu'r pwerau ymchwilio a gorfodi sydd ar gael i Ofcom.

Mae Deddf Cyfathrebiadau 2003 yn darparu pwerau, swyddogaethau a chyfrifoldebau rheoleiddio i Ofcom ar sbectrwm a materion eraill ac yn darparu'r fframwaith statudol cyffredinol y mae Ofcom yn gweithredu oddi mewn iddo.

Mae Rheoliadau Offer Radio 2017 Rhif SI. 1206 yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gweithgynhyrchwyr, mewnforwyr a dosbarthwyr i sicrhau bod offer radio ar gael ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Mae Rheoliadau Cydnawsedd Electromagnetig 2016 OS 1091 yn nodi'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni cyn y gellir rhoi cyfarpar trydanol ar werth (ac yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gosodiadau sefydlog) ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Ni all Ofcom ddarparu cyngor cyfreithiol penodol. Os oes gennych unrhyw bryderon, dylech geisio arweiniad penodol.

Rheolau a throseddau eraill

Mae defnyddio'r sbectrwm heb drwydded neu fudd eithriad, neu sy'n torri amodau trwydded neu eithriad, yn drosedd ac mae gan Ofcom bwerau gorfodi o dan adrannau 35, 39 a 41 Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006. Mae'r darpariaethau hyn wedi'u dylunio i reoli'r potensial am wrthdaro rhwng defnyddwyr a defnyddiau o sbectrwm.

Mae'n anghyfreithlon, oni bai ei fod wedi'i awdurdodi, i ddefnyddio unrhyw gyfarpar at ddibenion ymyrryd â thelegraffiaeth ddi-wifr. Am fanylion llawn, gweler adran 68(1) Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006.

Y gosb fwyaf yw hyd at ddwy flynedd o garchar a/neu ddirwy ddiderfyn.

Mae offer rhwystro'n unrhyw offer sydd wedi'i ddylunio, ei adeiladu, ei addasu, neu y bwriedir ei ddefnyddio i rwystro neu wanhau derbyniad telegraffiaeth ddi-wifr.

Sut mae offer rhwystro'n gweithio

Mae offer rhwystro fel arfer yn gweithio trwy allyrru pelydriad electromagnetig ar amledd, dwyster dros bellter bach i orlwytho derbynnydd, gan rwystro neu ddirywio derbyniad y trosglwyddiad 'dymunol'. Nid yw offer rhwystro sy'n gweithio yn y fath ffordd yn cael ei ddosbarthu'n 'offer radio’.

Bydd person yn cyflawni trosedd os bydd, heb awdurdod, yn defnyddio cyfarpar at ddiben ymyrryd yn fwriadol â telegraffiaeth ddi-wifr. Gellir cosbi hyn drwy hyd at ddwy flynedd o garchar a dirwy ddiderfyn.

Awdurdodi'r defnydd o offer rhwystro

Nid yw Ofcom yn awdurdodi nac yn trwyddedu'r defnydd o offer rhwystro.

Mae gwahanol ddeddfau'n caniatáu'r defnydd o offer rhwystro mewn rhai achosion arbennig, fel mewn carchardai a chan yr heddlu ac asiantaethau eraill.

Gwerthu a meddu ar offer rhwystro

Mae offer rhwystro (fel y disgrifir uchod) yn destun y Rheoliadau Cydnawsedd Electromagnetig 2016 (EMC). Mae'r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i offer beidio ag effeithio ar weithrediad cyfathrebiadau radio.

Mae'r rheoliadau EMC yn ei gwneud hi'n drosedd i ddarparu offer nad yw'n cydymffurfio: ‘Mae cynnyrch wedi'i ddarparu ar y farchnad pan gaiff ei gyflenwi i'w ddosbarthu, ei dreulio neu ei ddefnyddio yn ystod gweithgaredd masnachol, boed yn gyfnewid am dâl neu'n rhad ac am ddim.’

Gall person sy'n gweithgynhyrchu, yn mewnforio neu'n dosbarthu offer nad yw'n cydymffurfio fod yn gyfreithiol gyfrifol ac, ar ôl euogfarn, yn agored i gosb ariannol diderfyn a/neu dri mis o garchar.

Mae tîm Cydymffurfiaeth Sbectrwm Ofcom yn cynnal ymchwiliadau ac yn defnyddio ein pwerau gorfodi i fynd i'r afael â gwerthu offer rhwystro. Dyma sut rydym yn cyflawni ein dyletswydd i orfodi'r rheoliadau EMC, a chyflawni ein rôl diogelu a rheoli sbectrwm ehangach.

Yr heddlu ac asiantaethau eraill

Gall cynrychiolwyr o'r heddlu neu asiantaethau eraill gysylltu ag Ofcom am gyngor a chymorth mewn cysylltiad ag offer rhwystro. Byddwn fel arfer yn cynorthwyo wrth adnabod ffynhonnell yr ymyriant. Dylid cyfeirio achosion at y Ganolfan Rheoli Sbectrwm (SMC).

Trwyddedu arloesi a threialu

Weithiau mae Ofcom yn cyhoeddi trwyddedau arloesi a threialu i awdurdodi defnyddio sbectrwm ar gyfer ymchwil, profi neu arddangos. Gall arbrofion awdurdodedig gynnwys 'hunan-ymyriant' bwriadol o fewn amgylchedd y prawf, er enghraifft i brofi adeiladwaith neu effeithiolrwydd dyfais rhwystro neu ddefnyddio ymyriant a gynhyrchir i berfformio profion treiddiad neu gydnerthedd ar offer arall.

Yn yr achosion hynny, rhaid i brofion fod yn ddigon anghysbell, wedi'u cysgodi neu'n bŵer isel fel nad oes unrhyw debygolrwydd o ymyriant y tu allan i'r ardal brawf.

Gall unrhyw un sy'n rhyng-gipio cyfathrebiadau yn y DU yn fwriadol a heb yr awdurdodiad angenrheidiol fod yn cyflawni trosedd. Mae'r adran hon yn esbonio ein safbwynt ar dderbyn darllediadau radio gan bobl neu grwpiau heb awdurdod.

Derbyniad radio cyffredinol a sganwyr

Yn gyffredinol, mae'r defnydd o dderbynyddion radio wedi'i eithrio rhag gofyniad i gael trwydded oni bai ei fod hefyd yn gallu trosglwyddo. Mae'n gyfreithlon i ddarparu derbynyddion radio sy'n cydymffurfio ar y farchnad yn y Deyrnas Unedig.

Mae sganiwr radio yn dderbynnydd a all diwnio, neu sganio, i ddau neu fwy o amleddau arwahanol yn awtomatig. Efallai y bydd yn stopio sganio pan fydd yn dod o hyd i drosglwyddiad parhaus ac yn parhau i sganio pan fydd y trosglwyddiadau ar yr amledd hwnnw'n stopio. Yn gyffredinol, mae sganwyr yn cwmpasu'r bandiau radio nad ydynt yn ymwneud â darlledu rhwng 30 a 951 MHz gan ddefnyddio FM, ond mae yna sganwyr sy'n derbyn ar rannau eraill o'r sbectrwm radio ac yn defnyddio mathau modiwleiddio eraill gan gynnwys trosglwyddiadau llais, fideo neu ddata.

Fel arfer, dim ond ar gyfer 'derbyniad cyffredinol' fel gorsafoedd darlledu trwyddedig a radio hobi y gellir defnyddio derbynyddion a sganwyr.

Ni all Ofcom ddarparu arweiniad penodol ar faterion cyfreithiol sy'n gysylltiedig â defnyddio cyfarpar derbyn ac, os oes amheuaeth, argymhellir ceisio cyngor cyfreithiol penodol.

Derbyniad heb awdurdod

Mae dwy drosedd yn ymwneud â derbyniad heb awdurdod: rhyng-gipio a datgelu. Gweler adran 48 Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006.

Rhyng-gipio

Mae'n drosedd i berson heb awdurdod ddefnyddio cyfarpar telegraffiaeth ddi-wifr gyda'r bwriad o ddod o hyd i wybodaeth ynghylch cynnwys, anfonwr neu dderbynnydd unrhyw neges boed wedi'i hanfon trwy delegraffiaeth ddi-wifr ai beidio, nad yw'r person sy'n defnyddio'r cyfarpar na pherson y mae'n gweithredu ar ei ran yn dderbynnydd bwriadedig y neges honno.

Mae Deddf Pwerau Ymchwilio 2016 yn caniatáu i nifer o wahanol sefydliadau ryng-gipio cyfathrebiadau a mathau eraill o fonitro.

Datgelu

Mae'n drosedd i rywun, ac eithrio o dan awdurdod person dynodedig, ddatgelu unrhyw wybodaeth ynghylch cynnwys, anfonwr neu dderbynnydd unrhyw neges y cyfeirir ato uchod. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol pan fo'r datgeliad yn ystod achosion cyfreithiol neu at ddibenion unrhyw adroddiad o'r trafodion hynny. At hynny, nid yw'n berthnasol lle byddai'r wybodaeth wedi dod i sylw'r person heb fod y person hwnnw nac unrhyw un arall yn defnyddio cyfarpar telegraffiaeth ddi-wifr.

Mae hyn yn golygu ei bod yn anghyfreithlon datgelu unrhyw beth a glywir mewn trosglwyddiad y mae person wedi gwrando arno i drydydd parti heb awdurdodiad.

Y gosb fwyaf yw hyd at ddwy flynedd o garchar a/neu ddirwy ddiderfyn.

Mae troswyr ffôn symudol (neu ffôn cellog) -- a elwir hefyd yn chyddwyr neu fwyhawyr -- yn chwyddo signalau rhwng ffôn symudol a gorsafoedd sylfaen y gweithredwyr rhwydwaith. Gallant wella signal symudol y defnyddiwr mewn rhai amgylchiadau.

Rheolau ynghylch defnyddio troswyr

Mae troswyr symudol yn cael eu hystyried yn offer radio ac mae eu defnydd yn y DU wedi'i reoleiddio gan Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006. Mae'n anghyfreithlon gosod neu ddefnyddio'r math hwn o offer radio oni bai:

  • y gwneir hynny o dan ac yn unol â thrwydded telegraffiaeth ddi-wifr benodol a roddwyd gan Ofcom; neu
  • fod yr offer, ei osodiad a'i ddefnydd yn cydymffurfio â rheoliadau a wnaed gan Ofcom sy'n ei eithrio rhag y gofyniad am drwydded.

Oni bai bod un o'r amodau uchod wedi'i fodloni, byddai gosod a defnyddio troswr didrwydded yn rhoi'r defnyddiwr mewn perygl o gael ei erlyn o dan Ddeddf 2006. Os cânt eu canfod yn euog, gall defnyddwyr wynebu dirwy ddiderfyn a hyd at flwyddyn yn y carchar.

Ym mis Hydref 2020, penderfynodd Ofcom na ddylai fod angen trwydded ar ddau gategori o droswyr i'w defnyddio'n gyfreithlon mwyach. Y ddau gategori yw:

  • troswyr ffôn symudol statig sydd i'w defnyddio dan do (pan fyddant yn cydymffurfio â gofynion penodol); a
  • throswyr ffôn symudol cynnydd isel sydd i'w defnyddio mewn cerbydau (unwaith eto pan fyddant yn cydymffurfio â gofynion penodol).

Ym mis Medi 2021, penderfynodd Ofcom i ymestyn amrediad y troswyr sefydlog dan do sydd ar gael i bobl eu prynu a'u gosod dan do heb orfod cael eu trwyddedu, gan gynnwys:

  • troswyr sy'n benodol i ddarparwr; a
  • throswyr all weithredu gyda gweithredwyr lluosog.

Ym mis Mai 2022, gwnaeth Ofcom y rheoliadau sy'n caniatáu gosod a defnyddio'r dyfeisiau hyn, ar yr amod eu bod yn bodloni'r safonau technegol a'r amodau defnyddio gofynnol a bennir gan Ofcom.   Rheoliadau Telegraffiaeth Ddi-wifr (Troswyr Symudol) (Eithriad) 2022 yw'r rheoliadau hyn. Bydd yn parhau'n anghyfreithlon i ddefnyddio troswyr nad ydynt yn bodloni'r safonau hyn.

Troswyr sy'n cydymffurfio

Mae Ofcom wedi cyhoeddi rhestr o droswyr yr ydym ar ddeall eu bod yn cyflawni gofynion technegol ein cyfundrefn eithriad trwydded.   Nid yw'r rhain yn droswyr yr ydym yn eu hyrwyddo neu'n eu cymeradwyo, dim ond y rhai sydd wedi cael eu profi yn erbyn ein gofynion gan dŷ prawf achrededig.

Os yw gweithgynhyrchwr neu werthwr yn dymuno cynnwys un neu fwy o'i droswyr ar ein rhestr, bydd yn rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth i ni fod y ddyfais yn bodloni'r safonau technegol gofynnol. Gall wneud hyn drwy drefnu (ar ei draul ei hun) i'r ddyfais gael ei hasesu gan dŷ profi achrededig, gan ddefnyddio safon brofi wirfoddol a gynhyrchir gan Ofcom.

Os bydd profion yn cadarnhau bod y ddyfais yn bodloni ein gofynion technegol, gall y gweithgynhyrchwr neu'r gwerthwr wedyn gyflwyno'r dystiolaeth gan y tŷ profi i Ofcom yn marketsurveillance@ofcom.org.uk. Yn amodol ar ein cadarnhad, byddwn wedyn yn rhestru'r ddyfais ar ein gwefan.

Mae'n rhaid i'r holl gyfarpar radio a roddir ar y farchnad neu a roddir mewn gwasanaeth yn y DU fodloni gofynion Rheoliadau Cyfarpar Radio 2017 Rh.SI 1206.

Ffemtocelloedd a throswyr clyfar

Mae'r dyfeisiau hyn ychydig yn wahanol i'r troswyr y cyfeirir atynt uchod.

Ffemtocelloedd yw trawsyryddion gorsaf sylfaen bach y gall defnyddiwr eu gosod a'u cysylltu â rhwydwaith y gweithredwr symudol lletyol drwy gysylltiad band eang sefydlog. Rheolir "Troswyr Clyfar", fel y'u gelwir, gan y rhwydwaith symudol drwy ei sbectrwm trawsyrru heb gysylltiad ffisegol sefydlog. Mae rhai gweithredwyr rhwydwaith symudol yn cynnig gwasanaethau gan ddefnyddio'r dyfeisiau hyn a allai ddarparu gwell cyfraddau data a darpariaeth mewn adeiladau.

Er y gellir gosod y fath ddyfeisiau mewn safleoedd defnyddwyr, un o nodweddion allweddol y rhain yw eu bod yn cael eu monitro a'u rheoli gan y rhwydwaith lletyol. Mae hyn er mwyn sicrhau eu bod yn gweithredu dim ond o fewn telerau ac amodau trwyddedau gweithredwyr y rhwydwaith y maent wedi'u hawdurdodi oddi tanynt. Mae'n golygu nad oes angen ei drwydded ei hun (neu eithriad trwydded) ar y defnyddiwr terfynol i ddefnyddio ffemtocell neu droswr clyfar a reolir gan eu gweithredwr rhwydwaith.

Ar gyfer safleoedd mwy, efallai y bydd datrysiadau eraill fel darparwr celloedd bach a reolir neu system antena dosbarthedig ar gael. Fe'ch cynghorir i gysylltu â'ch darparwr rhwydwaith yn y lle cyntaf, i drafod eich gofynion penodol.

Os ydych yn gweithgynhyrchu, yn mewnforio neu'n cyflenwi unrhyw gyfarpar radio neu drydanol, rydych yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol cyn y gellir ei rhoi ar y farchnad neu ei rhoi mewn gwasanaeth yn y Deyrnas Unedig.

O 1 Ionawr 2021, ac ar ôl diwedd y cyfnod pontio Brexit, mae rheolau newydd yn berthnasol sy'n amrywio gan ddibynnu a yw nwyddau wedi'u rhoi ar y farchnad o'r dyddiad hwn ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon.

Mae'r prosesau'n debyg mewn sawl ffordd, ond mae rhai newidiadau sylweddol – nodir y canllawiau diweddaraf ar gyfer gweithgynhyrchwyr, mewnforwyr a chyflenwyr isod.

Y Rheoliadau Offer Radio

Mae Ofcom yn awdurdod gorfodi ar gyfer darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Offer Radio 2017.

Mae'r gyfundrefn yn pennu gofynion hanfodol ar gyfer diogelwch a chydnawsedd electromagnetig, a'r defnydd effeithiol ac effeithlon o'r sbectrwm radio. Mae'n berthnasol i'r holl gynnyrch sy'n defnyddio'r sbectrwm radio, yn amodol ar eithriadau penodol.

Mae'r rheoliadau'n nodi rhwymedigaethau gweithgynhyrchwyr, cynrychiolwyr awdurdodedig, mewnforwyr, dosbarthwyr a gweithredwyr economaidd.

Mae'n ddyletswydd ar Ofcom i orfodi'r rheoliadau hyn fel y bo angen i ddiogelu a rheoli'r sbectrwm radio. Gallai offer nad yw'n cydymffurfio achosi ymyriant ddifrifol i ddefnyddwyr sbectrwm awdurdodedig. Gall Ofcom ddyroddi hysbysiadau i atal gwerthu ac atafaelu offer a gall ddwyn erlyniadau troseddol os oes ganddi sail resymol dros amau bod rheoliad perthnasol wedi'i dorri.

Y gosb fwyaf am dorri'r rheoliadau hyn yw tri mis o garchar a/neu ddirwy ddiderfyn. At hynny, gall y llysoedd orchymyn fforffedu stociau offer.

Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi cyhoeddi canllawiau i Reoliadau Offer Radio 2017. Mae'r canllawiau'n esbonio sut y gall busnesau sy'n rhoi offer radio ar y farchnad ym Mhrydain Fawr ac ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon wneud hynny. Ceir canllawiau hefyd i egluro Rheoliad 14, sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithgynhyrchwyr gynnwys gwybodaeth am becynnu offer radio gan nodi lle mae cyfyngiadau ar roi mewn gwasanaeth neu ofynion ar gyfer awdurdodi defnydd.

I roi gwybod am ddrwgdybiaeth ynghylch offer nad yw'n cydymffurfio, gyrrwch e-bost i marketsurveillance@ofcom.org.uk

Y Rheoliadau Cydnawsedd Electromagnetig

Mae Ofcom yn awdurdod gorfodi ar gyfer darpariaethau sydd wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cydnawsedd Electromagnetig 2016.

Mae'r gyfundrefn yn sicrhau nad yw offer trydanol ac electronig yn cynhyrchu nac yn cael ei effeithio gan, aflonyddwch electromagnetig.

Mae'r rheoliadau'n nodi rhwymedigaethau gweithgynhyrchwyr, cynrychiolwyr awdurdodedig, mewnforwyr, dosbarthwyr a gweithredwyr economaidd.

Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi cyhoeddi canllawiau ar Reoliadau Cydnawsedd Electromagnetig 2016.

Mae'n ddyletswydd ar Ofcom i orfodi'r rheoliadau hyn fel y bo angen i ddiogelu a rheoli'r sbectrwm radio. Gallai offer nad yw'n cydymffurfio achosi ymyriant ddifrifol i ddefnyddwyr sbectrwm awdurdodedig. Gall Ofcom ddyroddi hysbysiadau i atal gwerthu ac atafaelu offer a gall ddwyn erlyniadau troseddol os oes ganddi sail resymol dros amau bod rheoliad perthnasol wedi'i dorri.

I roi gwybod am ddrwgdybiaeth ynghylch offer nad yw'n cydymffurfio, gyrrwch e-bost i marketsurveillance@ofcom.org.uk

Gosod nwyddau wedi'u gweithgynhyrchu ar y farchnad ym Mhrydain Fawr

Mae'r nod UKCA (UK Conformity Assessed) yn nod cynnyrch newydd yn y DU a ddefnyddir ar gyfer nwyddau a roddwyd ar y farchnad ym Mhrydain Fawr (Cymru, Lloegr a'r Alban) o 1 Ionawr 2023. Mae'n cwmpasu'r rhan fwyaf o nwyddau a oedd yn flaenorol â'r nod CE.

Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi cyhoeddi canllawiau sy'n esbonio pryd a sut i ddefnyddio'r nod UKCA.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ar bob un o'r uchod, cysylltwch â enquiries@beis.gov.uk

Mae gweithredu gorsaf radio heb drwydded, a elwir weithiau'n 'pirate radio,' yn anghyfreithlon.

Mae darlledwyr anghyfreithlon yn defnyddio offer a allai achosi ymyriant ac sydd â'r potensial i amharu ar gyfathrebu gwasanaethau hanfodol fel rheoli traffig awyr.

Mae'r trosglwyddyddion yn aml yn cael eu cynhyrchu'n fyrfyfyr, wedi'u dylunio'n wael a'u cael trwy'r farchnad ddu. Maent yn aml yn cael eu gosod ar blociau uchel o fflatiau. Mae'r gosodiadau hyn fel arfer ynberyglus a gallant beri risg i iechyd a diogelwch y cyhoedd. Gall y gost o ddileu'r gosodiadau hyn redeg i filoedd o bunnoedd.

Bu achosion lle mae'r rhai sy'n ymwneud â gorsafoedd radio anghyfreithlon yn gysylltiedig â throseddau difrifol, gan gynnwys bygythiadau ac ymosodiadau ar swyddogion gorfodi, gofalwyr a thrigolion. Mae cyrchoedd ar orsafoedd radio anghyfreithlon wedi datgelu cyffuriau ac arfau, gan gynnwys gynnau.

Crynodeb o droseddau

Mae unrhyw un sy'n ymwneud â darlledu anghyfreithlon yn cyflawni trosedd a gallai wynebu hyd at ddwy flynedd o garchar, dirwy ddiderfyn neu'r ddau. Gweler adrannau 36 i 38 Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006.

Efallai eich bod yn cyflawni trosedd os ydych chi'n gwybod, neu os oes gennych sail resymol dros gredu, bod darllediadau heb awdurdod yn cael eu gwneud, a'ch bod chi'n:

  • cadw gorsaf/offer i gael ei defnyddio;
  • caniatáu i'ch safle gael ei ddefnyddio;
  • hysbysebu;
  • hyrwyddo;
  • darparu cynnwys;
  • neu fel arall yn galluogi'r darlledu, gan gynnwys rheoli neu ddarparu unrhyw wasanaeth a fydd yn hwyluso'r gweithrediad.

Cyfrifoldebau'r person sy'n gyfrifol am y safle

Mae'n drosedd i rywun ganiatáu'r defnydd o'u safle ar gyfer darlledu anghyfreithlon yn fwriadol. Mae hefyd yn drosedd i rywun sydd â sail resymol dros gredu bod darlledu anghyfreithlon yn digwydd o'u hadeiladau beidio â chymryd camau rhesymol i'w atal.

Sut rydym yn ymdrin â darlledu anghyfreithlon

Mae gan Ofcom bwerau i ymchwilio i orsafoedd darlledu heb drwydded ac erlyn y rhai sy'n gysylltiedig â nhw. Gallwn fynd i mewn i safleoedd a'u chwilio ac atafaelu tystiolaeth, gan gynnwys unrhyw gyfarpar sy'n gysylltiedig â'r gosodiad darlledu anghyfreithlon.

Pan fyddwn yn derbyn adroddiadau am ymyriant niweidiol a achosir gan orsafoedd darlledu anghyfreithlon, bydd Ofcom yn cynnig cyngor a chymorth a, lle bo'n briodol, byddwn yn ymchwilio. Rydym yn cymryd cwynion am ymyriant i wasanaethau brys neu wasanaethau hollbwysig yn arbennig o ddifrifol.

Trwyddedu DAB ar raddfa fach

Mae DAB ar raddfa fach yn dechnoleg arloesol sy’n rhoi llwybr rhad i ddarlledu gwasanaethau masnachol, cymunedol a cherddoriaeth arbenigol ar radio digidol daearol mewn ardal ddaearyddol gweddol fach.

Gallwch wneud cais am drwydded DAB ar raddfa fach ar ein gwefan.

I gael rhagor o gyngor am gymryd rhan neu wneud cais am drwydded radio gymunedol, gweler radio cymunedol neu cysylltwch â'n tîm radio cymunedol.

Opsiwn arall yw darlledu (neu 'weddarlledu') ar y rhyngrwyd nad oes angen trwydded gan Ofcom i'w wneud.

Rhoi gwybod am ddarlledu anghyfreithlon

Dywedwch wrthym os oes gennych reswm dros gredu bod darlledu anghyfreithlon yn digwydd.

Rate this page

Thank you for your feedback.

We read all feedback but are not able to respond. If you have a specific query you should see other ways to contact us.

Was this page helpful?
Yn ôl i'r brig