Drone op hero

Sicrhau bod sbectrwm 978 MHz ar gael i ddronau

Cyhoeddwyd: 11 Mawrth 2025

Mae Ofcom wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd heddiw â’r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) ar ddefnyddio sbectrwm 978 MHz ar gyfer dyfeisiau diogelwch ar ddronau.

Mae'r dyfeisiau diogelwch hyn (Trosdderbynwyr Mynediad Cyffredinol) yn gwneud awyrennau eraill yn ymwybodol o safle drôn. Mae’n rhaid eu cael at rai dibenion pwysig, er enghraifft galluogi arloesedd ac effeithlonrwydd wrth reoli seilwaith critigol. Gyda’r offer hwn, gall dronau, er enghraifft, archwilio tyrbinau gwynt a llinellau pŵer i weld a oes angen eu trwsio.

Bydd yr awdurdodiad newydd hwn yn cael ei ymgorffori yn ein trwydded dronau bresennol o heddiw ymlaen. Nid oes angen trwydded Ofcom ar y rhan fwyaf o ddronau i ddefnyddwyr gan eu bod fel arfer yn defnyddio sbectrwm sydd wedi’i eithrio o drwydded. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o ddefnyddwyr masnachol neu uwch, yn enwedig y rhai sydd eisiau defnyddio dronau yn bell, angen trwydded gan Ofcom ac mae’n debyg gan y CAA. 

Mae’r sbectrwm 978 MHz yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dronau yn rhyngwladol, ac yn y DU mae’r amleddau hyn wedi cael eu rhannu rhwng defnydd awyrenegol a microffonau radio pŵer isel wrth wneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig (PMSE) ers 2016.

O heddiw ymlaen, ni fyddwn yn trwyddedu sbectrwm 978 MHz ar gyfer defnyddwyr PMSE mewn lleoliadau awyr agored, ond gallant barhau i’w ddefnyddio dan do, ac rydym yn ehangu’r ystod o amleddau eraill sydd ar gael i ddefnyddwyr PMSE dan do ac yn yr awyr agored (gan gynnwys 1015-1016 MHz, 1044-1045 MHz, 1075-1076 MHz a, 1104-1105 MHz). O ganlyniad, bydd gan ddefnyddwyr PMSE fwy o sbectrwm nag o’r blaen. 

Gyda’r trefniant newydd hwn, rydym o’r farn mai bach iawn yw’r risg o ymyriant a dyma’r defnydd mwyaf effeithlon a phriodol o sbectrwm sy’n galluogi pob parti i ddefnyddio dyfeisiau di-wifr.

Yn ôl i'r brig