Ymchwiliad i gydymffurfiad BT a'i rwymedigaethau fel darparwr gwasanaeth band eang cyffredinol

Cyhoeddwyd: 29 Tachwedd 2021
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Ar gau

Ymchwiliad i

British Telecommunications plc (BT)

Achos wedi’i agor

15 Hydref 2020

Achos ar gau

1 Ionawr 2018

Crynodeb

Bydd yr ymchwiliad hwn yn ystyried a yw BT yn cydymffurfio â'i rwymedigaethau i ddarparu gwasanaeth band eang cyffredinol yn unol â'r amodau rheoleiddio a bennwyd ar ei gyfer ar 6 Mehefin 2019.

Darpariaeth(au) cyfreithiol perthnasol

Amodau Gwasanaeth Cyffredinol ar gyfer BT

Heddiw, rydym wedi cau ein hymchwiliad i gydymffurfiaeth BT â'i rwymedigaethau i ddarparu gwasanaeth cyffredinol band eang yn unol ag amodau rheoleiddio perthnasol. Mae hyn yn dilyn ein cyhoeddiad ym mis Gorffennaf 2021 ein bod wedi gohirio'r ymchwiliad gan fod BT wedi cynnig sicrhad mewn perthynas â'r materion fu'n destun ymchwiliad, a diwedd ymgynghoriad Ofcom ar newidiadau arfaethedig i'r amodau rheoleiddio perthnasol.

O ganlyniad i'r sicrhad y mae wedi'i roi i Ofcom, mae BT bellach wedi newid ei ddull o gyfrifo costau dros ben pan nad yw'r costau dros ben sy'n ymwneud â chysylltiad penodol mewn clwstwr o safleoedd yn fwy na £5,000 (ac eithrio TAW). Yn benodol, bydd BT yn awr yn darparu cysylltiadau i gwsmeriaid cymwys sy'n cytuno i dalu eu cyfran o unrhyw gostau dros ben perthnasol. Yn flaenorol, byddai BT ond yn darparu cysylltiad o'r fath pan oedd cwsmeriaid mewn clwstwr penodol yn talu'r holl gostau ychwanegol ar y cyd. Rydym wedi'n bodloni bod BT wedi gweithredu'r newid hwn yn llawn ac rydym o'r farn y bydd hyn, i raddau helaeth, yn ymdrin â'r pryderon am niwed i ddefnyddwyr a'n harweiniodd i agor yr ymchwiliad hwn.

Yn unol â'i sicrhad, mae BT hefyd wedi cymhwyso'r dull newydd hwn yn ôl-weithredol i sicrhau bod unrhyw ddyfynbrisiau cwsmer neu daliadau cost dros ben presennol yn elwa o'r newid. Yn seiliedig ar dystiolaeth a ddarparwyd gan BT, rydym yn fodlon bod y rhain yn cydymffurfio â'r fethodoleg berthnasol.

Ar wahân i'r ymchwiliad hwn, mae Ofcom wedi cyhoeddi ei phenderfyniad yn ddiweddar i weithredu rhai newidiadau i'r amodau rheoleiddio sy'n gysylltiedig â'r gwasanaeth Band Eang Cyffredinol. Mae'r newidiadau'n golygu y gall BT aros yn awr nes bod ganddo gytundeb i adennill cyfanswm y costau dros ben cyn dechrau adeiladu, lle mae'r costau gormodol sy'n gysylltiedig â chysylltiad penodol yn fwy na £5,000 (ac eithrio TAW).

O ganlyniad i'r ffactorau hyn, mae Ofcom yn fodlon bod yr ymddygiad a arweiniodd at agor yr ymchwiliad wedi dod i ben. Nid yw Ofcom o'r farn ei bod yn briodol parhau â'i hymchwiliad ac felly mae wedi ei gau heb unrhyw ganfyddiadau o ran cydymffurfiaeth BT â'r rhwymedigaethau rheoleiddio perthnasol. Bydd Ofcom yn parhau i fonitro darpariaeth band eang BT fel gwasanaeth cyffredinol, er mwyn sicrhau ei fod yn gweddu i'r amodau gwasanaeth cyffredinol fel y'u diwygiwyd.

Rydym wedi penderfynu gohirio ein hymchwiliad, gan fod BT wedi darparu sicrwydd y bydd yn cymryd camau i liniaru'r niwed i gwsmeriaid rydym wedi'i nodi.

Roedd ymagwedd BT at gyfrifo costau dros ben yn golygu nad yw wedi rhannu costau seilwaith a rennir yn y ffordd roeddem yn ei disgwyl, sydd wedi arwain at ofyn i rai cwsmeriaid dalu costau dros ben sy'n sylweddol uwch. Rydym wedi nodi risg sylweddol o niwed i gwsmeriaid sy'n gysylltiedig ag ymagwedd BT, lle nad oedd costau dros ben cysylltiad yn sylweddol uwch na £3,400 (heb gynnwys TAW).

O ganlyniad i'n hymchwiliad, mae BT yn awr wedi cytuno i ddefnyddio ein hymagwedd ni at gyfrifo dyfynbrisiau costau dros ben, lle nad yw costau dros ben yn sylweddol uwch na £3,400. Mae BT hefyd wedi cytuno i ad-dalu cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt ac i ailgyhoeddi dyfynbrisiau y mae wedi'u darparu'n flaenorol. I raddau helaeth rydym yn ystyried y dylai hyn ymdrin â'r pryderon am niwed i ddefnyddwyr a achosodd i ni agor yr ymchwiliad hwn ac, o ganlyniad i hynny, rydym yn gohirio'r ymchwiliad i alluogi BT i weithredu'r mesurau sicrwydd hyn.

Byddwn yn parhau i fonitro cynnydd BT yn erbyn y mesurau sicrwydd a ddarperir ac, yn amodol ar gynnydd boddhaol gan BT a chanlyniad yr ymgynghoriad gan Ofcom a nodir isod, rydym yn disgwyl dod â'r ymchwiliad i ben maes o law. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach dros y misoedd nesaf.

Hefyd heddiw, rydym wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar addasiadau arfaethedig i'r Amodau Gwasanaeth Cyffredinol. Mae'r cynnig hwn yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus o'r dystiolaeth sydd wedi'i chwain gan BT yn ystod yr ymchwiliad, data a ddelir gan Ofcom, a gwybodaeth a rannwyd gan gwsmeriaid y Rhwymedigaeth Gwasanaeth cyffredinol a phartïon eraill sydd â diddordeb. Dangosodd hyn, pan fydd cost cysylltiad yn uchel iawn, a bod costau dros ben yn sylweddol uwch na £3,400, fod risg o effaith anghymesur ar gost cyllido'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol.

Rydym wedi cynnig y byddai'n briodol i wneud newid technegol bach i'n rheolau i alluogi BT, o dan yr amgylchiadau hyn, i adennill costau dros ben cyn cychwyn y gwaith adeiladu er mwyn lliniaru'r risg hon.

Er y bydd nifer o gwsmeriaid yn elwa o dderbyn dyfynbrisiau is yn y dyfodol, bydd safleoedd hefyd lle bydd y costau darpariaeth yn parhau i fod yn uchel iawn. Mae'r cwsmeriaid hyn yn annhebygol o elwa o'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol heb ystyried yr ymagwedd a gymerir at gostau a rennir, ac ni fydd y newid yn ymagwedd BT yn ymdrin â'r achosion hyn. Byddwn yn parhau i gydweithio â'r diwydiant a Llywodraeth y DU i ymchwilio i ddatrysiadau technoleg a chyllid amgen er mwyn i safleoedd sy'n wynebu costau dros ben uchel iawn dderbyn cysylltiad band eang digonol.

Mae ein hymchwiliad yn parhau ac ar hyn o bryd rydym yn ystyried ein camau nesaf. Byddwn yn darparu diweddariadau pellach dros yr haf.

Rydym wedi derbyn gwybodaeth bellach gan BT yr ydym yn ei hystyried. Rydym yn disgwyl gwneud penderfyniad dros dro erbyn diwedd mis Mai.

A ninnau wedi cwblhau ein proses cywain gwybodaeth gychwynnol, mae Ofcom wedi penderfynu symud ymlaen at gam penderfyniad dros dro ein hymchwiliad. Rydym yn cywain tystiolaeth ychwanegol ac yn disgwyl darparu diweddariad erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae Ofcom wedi agor ymchwiliad heddiw mewn perthynas â chydymffurfiad BT â'i rwymedigaethau fel darparwr gwasanaeth cyffredinol band eang.

Ym mis Mawrth 2018, fe wnaeth Llywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth ar ‘rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol’ (USO) band eang, a fydd yn rhoi hawl i gartrefi a busnesau cymwys ofyn am gysylltiad band eang digonol.

Mae Ofcom wedi gweithio i weithredu'r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol mor effeithlon â phosib. Ar ôl ymgynghori, roeddem wedi dynodi BT yn Ddarparwr Gwasanaeth Cyffredinol ac fe wnaethom osod amodau rheoleiddio a oedd yn nodi sut mae’n rhaid iddo ddarparu cysylltiadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol i ddefnyddwyr cymwys.

O dan y ddeddfwriaeth, mae cwsmeriaid yn cael gofyn am gysylltiad rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol gan BT os nad ydynt yn gallu cael gwasanaethau band eang fforddiadwy ar hyn o bryd sy’n gallu cynnig cyflymder llwytho i lawr o 10 Mdid yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mdid yr eiliad o leiaf (ymysg paramedrau technegol eraill).  Wrth dderbyn cais o'r fath, mae’n rhaid i BT asesu costau darparu’r cysylltiad hwnnw ac, os yw hyn yn llai na £3,400, mae’n rhaid i BT ddarparu’r cysylltiad. Pan fydd y costau a aseswyd yn fwy na’r swm hwnnw, rhaid i BT hefyd ddarparu’r cysylltiad os yw’r cwsmer yn fodlon talu’r costau ychwanegol.

Mae amodau Ofcom yn nodi sut y dylai BT asesu costau darparu cysylltiad. Yn benodol, fel sy’n ofynnol dan y ddeddfwriaeth, rhaid i BT ystyried y gallai costau gael eu rhannu ymysg cwsmeriaid eraill a allai ddefnyddio’r un seilwaith. Rhaid i BT ddefnyddio’r fethodoleg hon i gyfrifo costau pob cysylltiad y gofynnir amdano.

Er y gallai cost rhai o’r cysylltiadau fod yn uchel oherwydd bod nifer o’r eiddo hyn yn anghysbell, rydym yn poeni efallai nad yw BT yn cydymffurfio â’r amodau rheoleiddio’n gywir pan fydd yn asesu’r costau ychwanegol ar gyfer cysylltiad. Gallai hyn olygu bod dyfynbris rhai cwsmeriaid am gysylltiad yn uwch na'r angen.

Bydd Ofcom nawr yn cywain tystiolaeth, ac rydym yn disgwyl penderfynu ar y camau nesaf cyn diwedd y flwyddyn.


Cyswllt

Y tîm gorfodi (enforcement@ofcom.org.uk)

Cyfeirnod yr achos

CW/01256/10/20

Yn ôl i'r brig