children on laptop Social

Gwefannau pornograffig yn dechrau cyflwyno mesurau sicrwydd oedran

Cyhoeddwyd: 3 Ebrill 2025

Mae darparwyr pornograffi ar-lein yn rhoi mesurau sicrwydd oedran effeithiol iawn ar waith ar draws miloedd o wefannau, i ymateb i raglen orfodi Ofcom yn y maes hwn.

Yn gynharach eleni, ysgrifennodd Ofcom at gannoedd o ddarparwyr sydd, gyda’i gilydd, yn gyfrifol am filoedd o wefannau sy’n cyhoeddi eu cynnwys pornograffig eu hunain, gan roi gwybod iddynt am eu rhwymedigaethau newydd o dan Ran 5 o’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein i roi mesurau sicrwydd oedran effeithiol iawn ar waith er mwyn atal plant rhag cael gafael ar y deunydd hwn.

Hyd yma, rydym wedi cael ymgysylltiad cadarnhaol ar draws y sector ac mae nifer o ddarparwyr wedi rhoi mesurau sicrwydd oedran effeithiol iawn ar waith i ymateb i’n rhaglen orfodi. Rydym wrthi’n adolygu cynlluniau cydymffurfio ac amserlenni gweithredu ar gyfer gwasanaethau eraill sydd o fewn cwmpas y dyletswyddau hyn.

Rydym hefyd yn asesu mesurau sicrwydd oedran darparwyr sydd heb ymateb, ac mae nifer o wasanaethau wedi cael eu cyfeirio at ein tîm gorfodi, a fydd yn ystyried yn ystod yr wythnosau nesaf a yw camau gorfodi ffurfiol yn briodol.

Bydd manylion unrhyw ymchwiliadau newydd yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Erbyn mis Gorffennaf 2025, bydd angen i bob gwasanaeth sy’n caniatáu pornograffi – gan gynnwys gwefannau sy’n caniatáu cynnwys pornograffig a gynhyrchir gan ddefnyddwyr (‘gwasanaethau Rhan 3’) – gael gwiriadau oedran effeithiol iawn i ddiogelu plant rhag cael gafael ar y deunydd hwn.

Yn ôl i'r brig