Countdown to a safer life online HERO (1336 × 560px)

Cyfri’r dyddiau nes y bydd hi’n fwy diogel ar-lein

Cyhoeddwyd: 17 Hydref 2024
  • Diweddariad gan Ofcom ar weithredu Deddf Diogelwch Ar-lein y DU
  • O fis Rhagfyr ymlaen, rhaid i gwmnïau technoleg ddechrau gweithredu

Ddau fis cyn i’r cyfreithiau diogelwch ar-lein ddod i rym, mae Ofcom yn rhybuddio cwmnïau technoleg y gallent wynebu camau gorfodi os nad ydynt yn cydymffurfio â’r dyletswyddau newydd pan ddaw’r amser.

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi diweddariad ar ei waith o ran rhoi’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein ar waith ac wedi nodi beth i’w ddisgwyl dros y flwyddyn nesaf.

Gweithredu’r Ddeddf

Cafodd Deddf Diogelwch Ar-lein ei phasio ym mis Hydref 2023. Pan fydd ar waith yn llawn, bydd yn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar y llwyfannau sydd ar gael yn y DU. Cyn y gallwn orfodi’r dyletswyddau hyn, mae’n rhaid i ni ymgynghori’n gyhoeddus ar godau ymarfer a chanllawiau. 

Mewn cwta chwe mis, fe wnaethom ymgynghori ar ein codau a’n canllawiau o ran niwed anghyfreithlon, dilysu oedran pornograffi a diogelwch plant, gan gyflwyno ein cyngor i’r Llywodraeth ar y trothwyon a fyddai’n penderfynu pa pa wasanaethau y dylid eu ‘categoreiddio’ a bod yn destun dyletswyddau ychwanegol.[1] 

Rydym hefyd wedi bod yn siarad â llawer o gwmnïau technoleg – gan gynnwys rhai o’r llwyfannau mwyaf a’r llwyfannau llai – am eu dulliau gweithredu presennol a’r hyn y bydd angen iddyn nhw ei wneud y flwyddyn nesaf.

Mae newid eisoes ar waith…

Mae Ofcom eisoes wedi sicrhau mesurau diogelu gwell gan lwyfannau rhannu fideos yn y DU, gan gynnwys OnlyFans a safleoedd eraill i oedolion gan gyflwyno dull dilysu oedran; mae BitChute wedi mireinio ei brosesau cymedroli cynnwys a riportio gan ddefnyddwyr; a Twitch wedi cyflwyno mesurau i atal plant rhag gweld fideos niweidiol.

Mae Meta a Snapchat wedi gwneud newidiadau a gynigwyd gennym yn ein hymgynghoriad ar niwed anghyfreithlon i ddiogelu plant rhag cael eu hudo i berthynas amhriodol. Mae hyn yn cynnwys Instagram, Facebook a Snapchat yn cyflwyno newidiadau i helpu i atal dieithriaid rhag cysylltu â phlant; a ‘Teen Accounts’ Instagram i gyfyngu ar bwy sy’n gallu cysylltu â phobl ifanc yn eu harddegau a beth maen nhw’n gallu ei weld. 

Mae’r rhain yn gamau cadarnhaol, ond bydd yn rhaid i lawer o lwyfannau wneud llawer mwy pan ddaw’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein i rym.

...ond mae mwy i’w wneud y flwyddyn nesaf

Mae’r Senedd wedi gosod dyddiad terfyn i gwblhau ein codau a’n canllawiau ar niwed anghyfreithlon a diogelwch plant erbyn mis Ebrill 2025. Ein bwriad yw cwblhau ein canllawiau a’n codau ar niwed anghyfreithlon cyn y dyddiad hwn. Dyma’r amserlen ddisgwyliedig (a all newid) o ran y cerrig milltir allweddol dros y flwyddyn nesaf – yn cynnwys:[2]

  • Rhagfyr 2024: Ofcom yn cyhoeddi’r argraffiad cyntaf o’r canllawiau a’r codau ar niwed anghyfreithlon. Bydd gan lwyfannau dri mis i gwblhau eu hasesiad risg ar niwed anghyfreithlon.
  • Ionawr 2025: Ofcom yn cwblhau’r canllawiau ar asesiadau mynediad plant a’r canllawiau ar sicrwydd oedran i ddarparwyr pornograffi. Bydd gan lwyfannau dri mis i asesu a yw plant yn debygol o ddefnyddio eu gwasanaeth.
  • Chwefror 2025: Ofcom yn ymgynghori ar ganllawiau arfer gorau ar ddiogelu menywod a merched ar-lein. Mae hyn yn gynharach nag a gynlluniwyd yn flaenorol.
  • Mawrth 2025: Llwyfannau yn gorfod cwblhau eu hasesiadau risg ar niwed anghyfreithlon a rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith. 
  • Ebrill 2025: Llwyfannau yn gorfod cwblhau asesiadau mynediad plant. Ofcom yn cwblhau’r canllawiau a’r codau ar ddiogelwch plant. Bydd gan gwmnïau dri mis i gwblhau eu hasesiad risg ar gyfer plant.
  • Gwanwyn 2025: Ofcom yn ymgynghori ar fesurau ychwanegol ar gyfer ail argraffiad y codau a’r canllawiau.
  • Gorffennaf 2025: Llwyfannau yn gorfod cwblhau eu hasesiadau risg ar gyfer plant a sicrhau eu bod yn rhoi mesurau diogelwch priodol ar waith.

Byddwn yn adolygu rhai o’r asesiadau risg i sicrhau eu bod yn addas ac yn ddigonol, yn unol â’n canllawiau, ac yn gofyn am welliannau os ydym yn credu nad yw cwmnïau wedi lliniaru’n ddigonol y risgiau a wynebant.

Yn barod i gymryd camau gorfodi

Mae gan Ofcom y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn llwyfannau sy’n methu â chydymffurfio â’u dyletswyddau newydd, gan gynnwys rhoi dirwyon sylweddol lle bo hynny’n briodol. Yn yr achosion mwyaf difrifol, gall Ofcom wneud cais am orchymyn llys i rwystro mynediad at y gwasanaeth yn y DU, neu gyfyngu mynediad at hysbysebwyr neu ddarparwyr taliadau.

Rydym yn barod i gymryd camau cadarn os na fydd cwmnïau technoleg yn rhoi ar waith y mesurau a fydd yn cael yr effaith fwyaf o ran diogelu defnyddwyr, yn enwedig plant, rhag niwed difrifol megis pethau fel cam-drin plant yn rhywiol, pornograffi a thwyll. 

Dywedodd y Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom: 

“Mae’r amser i siarad wedi dod i ben. O fis Rhagfyr, bydd y gyfraith yn mynnu bod cwmnïau technoleg yn dechrau cymryd camau. Mae hynny’n golygu y bydd 2025 yn flwyddyn hollbwysig o ran sicrhau bywyd mwy diogel ar-lein.

“Rydyn ni eisoes wedi ymgysylltu’n adeiladol â rhai llwyfannau ac wedi gweld newidiadau cadarnhaol yn cael eu cyflwyno mewn da bryd, ond mae ein disgwyliadau’n mynd i fod yn uchel, a byddwn yn llym iawn gyda’r rheini sy’n methu.”

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

  1. Bydd gan wasanaethau wedi’u categoreiddio rwymedigaethau ychwanegol dan y Ddeddf, fel rhoi mwy o adnoddau i ddefnyddwyr reoli’r hyn maent yn ei weld, sicrhau amddiffyniad ar gyfer cynnwys newyddiadurol a chyhoeddwyr newyddion, atal hysbysebion twyllodrus, cynhyrchu adroddiadau tryloywder, a gweithredu telerau gwasanaeth yn gyson. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, rydym yn aros i’r Llywodraeth gadarnhau’r trothwyon ar gyfer categoreiddio. Ar ôl cadarnhau’r rhain, byddwn yn llunio’r gofrestr o wasanaethau wedi’u categoreiddio. Rydym yn disgwyl y bydd yr adroddiadau tryloywder cyntaf yn cael eu cyhoeddi gan wasanaethau yn 2025 a bydd dyletswyddau eraill yn dod i rym yn 2026. 
  2. Dyma’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein:

Dyma’r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer gweithredu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein

Cynnwys cysylltiedig

Yn ôl i'r brig