Cyhoeddwyd:
29 Rhagfyr 2023
Heddiw yw pen-blwydd swyddogol Ofcom yn 20 oed. Dechreuodd ein gwaith fel y rheoleiddiwr cyfathrebu yn ffurfiol ar 29 Rhagfyr 2003.
Bu i ni gymryd drosodd y gwaith a wnaed yn flaenorol gan y Comisiwn Safonau Darlledu, y Comisiwn Teledu Annibynnol, Y Swyddfa Rheoliadau Telathrebu (Oftel), yr Awdurdod Radio a'r Asiantaeth Radiogyfathrebu, ac rydym yn dal i weithio'n galed i sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb.
Mae llawer iawn wedi digwydd dros yr 20 mlynedd o'n bodolaeth, felly dyma grynodeb o rai o'r uchafbwyntiau a'r datblygiadau blaenllaw.
- Gwnaethom roi'r ddirwy fwyaf o'n 20 mlynedd yn 2018, sef cosb ariannol o £50m i’r Post Brenhinol am dorri cyfraith cystadleuaeth. Pan fyddwn yn rhoi dirwy fel hon, telir yr arian i Drysorlys EF.
- Y rhaglen deledu y cawsom y mwyaf o gwynion amdani dros yr 20 mlynedd diwethaf oedd pennod o Good Morning Britain, a ddarlledwyd ym mis Mawrth 2021. Cawsom 54,453 o gwynion am sylwadau a wnaed am Ddug a Duges Sussex
- Mae'n deg dweud bod ffonau symudol wedi gweld newidiadau aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn 2003 er enghraifft, ystyriwyd bod y Nokia 3300 ar flaen y gad. Wrth gamu ymlaen i 2023, yr iPhone 15 neu'r Samsung Galaxy S23 sydd fwy tebygol o fod yn nwylo'r rhai sy'n frwd dros dechnoleg..
- Un o agweddau mwyaf adnabyddus ein gwaith yw ein rôl ar draws safonau darlledu. Mae’r Côd Darlledu, a gyhoeddwyd yn 2005, yn rhan annatod o hyn. Roedd hwn yn disgrifio’r rheolau y mae’n rhaid i ddarlledwyr eu dilyn – ac mae’r rheolau hynny'n dal mewn grym heddiw. Gwnaethom hefyd gwblhau ein hadolygiad cyntaf o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a ragwelodd sut y byddai gwylio’n symud i ffwrdd o deledu traddodiadol, gan ddweud bod ‘technolegau digidol newydd yn debygol o gael effaith helaeth ar y ffordd yr ydym yn gwylio teledu’.
- Rydym wedi gweld datblygiadau mawrion mewn cyflymder band eang ers 2003. Bryd hynny, roedd cwsmeriaid band eang cartref yn gallu cael cyflymder o tua 500 Kbit/e. Erbyn hyn, mae'r cyflymder hynny wedi esgyn i gyflymder lawrlwytho cyfartalog o 69.4 Mbit/e.
- Efallai mai teledu manylder uwch yw'r norm nawr, ond fe’i cyflwynwyd i deledu daearol yn y DU yn 2010. Gwnaeth Ofcom chwarae rôl yn hyn o beth, gan weithio i aildrefnu’r sbectrwm a ddefnyddir i ddarlledu teledu digidol a chyflwyno safonau darlledu technegol newydd.
- Mae DAB ar raddfa fach, a lansiwyd yn 2020, yn dechnoleg radio flaengar sy’n darparu ffordd gost isel i wasanaethau bach ddarlledu i gynulleidfaoedd lleol. Ac ni fyddai wedi dod i'r amlwg heb waith un o'n cydweithwyr yn Ofcom, yr uwch arbenigwr darlledu Rash Mustapha. Ymchwiliodd Rash i’r dechnoleg a datblygodd offer prototeip. Gwnaeth hyn godi digon o ddiddordeb i Lywodraeth y DU ddarparu cyllid ar gyfer treialon. Pasiwyd deddfwriaeth yn ddiweddarach i sefydlu fframwaith ar gyfer trwyddedu gwasanaethau DAB ar raddfa fach. Oherwydd hyn, Rash oedd un o’r bobl gyntaf i gael ei sefydlu yn y 'Digital Radio Hall of Fame', ac fe'i cydnabuwyd yn ffurfiol hefyd gan gorff y diwydiant, Digital Radio UK.
- Yn 2017 dechreuodd Ofcom fel rheoleiddiwr allanol cyntaf y BBC, ar ôl i siarter newydd y BBC gael ei lansio ar 1 Ionawr y flwyddyn honno. Cyn hynny, Ymddiriedolaeth y BBC oedd yn gyfrifol am reoleiddio'r darlledwr.
- Yn 2023 gwelwyd newid nodedig i flychau post, yn sgil coroni Brenin Charles III. Rhoddwyd y seiffr 'CRIII' cyntaf ar flwch postio ar Ynys Manaw. Hwn oedd y newid cyntaf ers 1952, pan gyflwynwyd y seiffr 'EIIR' i nodi coroni'r Frenhines Elizabeth II.
- Y digwyddiad mwyaf y mae Ofcom wedi gweithio arno oedd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. Oherwydd graddfa enfawr y gemau a phresenoldeb cannoedd o ddarlledwyr rhyngwladol roedd angen maint enfawr o gynllunio a chefnogaeth. Yn ogystal â gweithio cyn y digwyddiad, roedd ein cydweithwyr ar gael 24 awr y dydd am chwe wythnos y gemau, a bu i ni gydweithio'n agos gyda'n cyd-reoleiddwyr Ewropeaidd. Helpodd y profiad hwn hefyd i ni baratoi ar gyfer gwaith tebyg yn ystod gemau’r Gymanwlad yn Glasgow 2014 a Birmingham yn 2022.
- Ac yn 2023 chwaraeodd Ofcom rôl hanfodol wrth sicrhau yr aeth y Gystadleuaeth Caneuon Eurovision rhagddo'n ddidrafferth. Wedi’i chynnal yn Lerpwl – y tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal yn y DU ers 1998 – darlledwyd y gystadleuaeth i gynulleidfa ryngwladol o 162 miliwn o wylwyr.
- Y gân rhif un yn siartiau'r DU ar ddyddiad lansio Ofcom oedd Mad World, gan Michael Andrews gyda Gary Jules – cymerwyd y gân o drac sain y ffilm Donnie Darko. Y gân ar frig y siartiau adeg pen-blwydd Ofcom yn 20 oed yw Last Christmas gan Wham!, sydd wedi cyrraedd y safle uchaf yn syfrdanol 39 mlynedd ar ôl iddi gael ei ryddhau am y tro cyntaf.
- Yn 2003 y sioe deledu a wyliwyd fwyaf yn y DU oedd pennod o Coronation Street lle cyfaddefodd y dihiryn Richard Hillman i’w droseddau – bu iddi gyrraedd cynulleidfa o 19.4 miliwn. Yn 2023 y sioe â'r niferoedd gwylio uchaf oedd Coroni'r Brenin Charles III a'r Frenhines Camilla, gyda chynulleidfa gyfartalog o 12.8 miliwn.
- Mae'r 20 mlynedd diwethaf wedi gweld datblygiadau enfawr mewn technoleg symudol. Er enghraifft, lansiwyd y rhwydwaith 3G masnachol cyntaf yn 2003, ond yn 2023 mae darparwyr yn paratoi i ddiffodd y rhwydwaith hwnnw i greu lle ar gyfer technolegau newydd a datblygol fel 4G a 5G.
- Yn 2011 fe wnaethom ymgymryd â rheoleiddio'r post, yr oedd Postcomm yn gyfrifol amdano'n flaenorol. Rydym yn monitro’r farchnad bost yn y DU, gan ein helpu i ddeall pa mor dda y mae’r Post Brenhinol yn perfformio fel busnes; newidiadau yn y marchnadoedd parseli a llythyrau; a phrofiadau cwsmeriaid o'r marchnadoedd post. Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi prif ganfyddiadau ein gwaith monitro.
- Yn 2021 fe wnaethom gyhoeddi ein ymchwil ddiweddaraf i agweddau pobl at iaith dramgwyddus ar y teledu a'r radio, gan ddangos sut mae agweddau wedi newid dros y blynyddoedd ers 2003 pan ddechreuom ar ein gwaith yn y maes hwn. Dangosodd ein canfyddiadau fod gan bobl bryderon cyfyngedig am iaith gref, cyhyd â'i bod yn cael ei darlledu ar ôl y trothwy a bod digon o rybuddion yn cael eu rhoi. Fodd bynnag, dywedodd cynulleidfaoedd fod ganddynt bryderon mwy difrifol am iaith wahaniaethol ar deledu a radio – yn enwedig o ran hil.
- Er yr oedd teledu realiti yn gymharol ifanc yn y DU yn 2003, mae wedi cynyddu'n aruthrol mewn poblogrwydd ac o ran y sylw a roddir iddo dros yr 20 mlynedd diwethaf. Diolch i Ofcom, mae pobl sy'n cymryd rhan mewn sioeau teledu realiti bellach yn cael eu hamddiffyn yn well gan reolau a gyflwynwyd yn 2020.
- Dechreuodd y broses pum mlynedd o ddiffodd signalau teledu analog er mwyn eu disodli â theledu digidol yn 2007. Ar 16 Hydref y flwyddyn honno, Copeland yn Cumbria oedd yr ardal gyntaf i gael ei newid drosodd. Y noson honno, diffoddwyd y trosglwyddiad BBC2 analog, gan ryddhau sbectrwm i ddechrau darlledu sianeli digidol ond gan ganiatáu i sianeli eraill barhau i ddarlledu mewn analog cyn i'r newid llawn ddigwydd ychydig wythnosau'n ddiweddarach. Roedd teledu digidol yn cynnig mwy o ddewis i wylwyr, ac roedd sbectrwm gwerthfawr ar gael at ddefnyddiau eraill gan gynnwys 4G.
- Mae nifer y blychau ffôn ar draws y DU wedi gostwng o tua 90,000 yn 2003 i 18,000 yn 2023. Yn 2022 fe wnaethom gyflwyno mesurau newydd i ddiogelu blychau ffôn, gan sicrhau bod ffonau talu mewn ardaloedd â signal symudol gwael neu gyfraddau damweiniau uchel yn cael eu gwarchod ar gyfer y bobl sydd eu hangen.
- Pan wnaethom ddod i fodolaeth yn 2003 roeddem yn gweithredu'n bennaf o'n swyddfa yn Llundain, ac rydym yno o hyd. Ond dros ein 20 mlynedd o fodoli rydym hefyd wedi sefydlu swyddfeydd yng ngwledydd y DU, sy'n hanfodol o ystyried bod ein gwaith yn cynrychioli pobl a busnesau ym mhob cwr o'r DU. Fe wnaethom agor swyddfeydd yn Belfast a Chaerdydd yn 2004, ac wedyn ein swyddfa yng Nghaeredin yn 2016. Mae gennym hefyd ganolfannau rhanbarthol yn Birmingham, Baldock a Warrington, a swyddfa ym Manceinion a agorwyd yn swyddogol yn 2021.