![Microphone (web)](/siteassets/resources/images/-news-centre/thumbnail-images/about-ofcom/microphone-web.png?width=1920&height=577&quality=80)
Ymunodd Melissa Tatton ag Ofcom fis Medi diwethaf fel Cyfarwyddwr Grŵp Corfforaethol Dros Dro ac fel aelod o'r Uwch Dîm Rheoli, gan adrodd i Brif Weithredwr Ofcom, y Fonesig Melanie Dawes. Mae Ofcom heddiw yn cadarnhau bod Melissa wedi'i phenodi'n Brif Swyddog Gweithredu ar sail barhaol.
Mae gwaith y Grŵp Corfforaethol yn canolbwyntio ar gyflawni ein Cynllun Gwaith a darparu cymorth i swyddogaethau polisi allweddol Ofcom. Bydd Melissa hefyd yn helpu Ofcom i dyfu a datblygu wrth ymateb i'n dyletswyddau newydd mewn perthynas â Niwed Ar-lein a Diogelwch Telathrebu.
Bydd hi’n parhau i gadeirio'r Bwrdd Gweithrediadau, yn cyd-gadeirio Bwrdd y Rhaglen Niwed Ar-lein ac yn gweithredu fel Noddwr Rhywedd yr UDRh.
Cyn ymuno ag Ofcom, treuliodd Melissa 30 mlynedd yn CThEM lle'r oedd ganddi nifer o swyddi arweinyddiaeth uwch. Yn fwyaf diweddar, arweiniodd hi ymateb COVID yr Adran ac mae hi wedi gweithredu cynllun pwysig i gadw swyddi. Gweithredodd hefyd fel Prif Swyddog Gweithredol yr Asiantaeth Brisio, a reolodd hyd at £60bn o asedau ar ran llywodraeth y DU. Cafodd Melissa ei gwneud yn Gomander Gorchymyn yr Ymerodraeth Brydeinig ym mis Mehefin 2016.
Contact the media team
If you are a journalist wishing to contact Ofcom's media team:
Call: +44 (0) 300 123 1795 (journalists only)
Send us your enquiry (journalists only)
If you are a member of the public wanting advice or to complain to Ofcom: