Outside a polling station in Wales

Helpu i ddiystyru twyllwybodaeth ynghylch yr Etholiad Cyffredinol

Cyhoeddwyd: 19 Mehefin 2024

Cyn yr Etholiad Cyffredinol sydd ar y gweill, rydyn ni’n cefnogi’r fenter gymdeithasol Shout Out UK, i helpu pobl sy’n pleidleisio am y tro cyntaf a phleidleiswyr iau i adnabod a mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth wleidyddol.

Nod yr ymgyrch ‘Diystyru’ yw rhoi sgiliau i bobl i’w helpu i wneud synnwyr o’r wybodaeth maen nhw’n ei gweld ar-lein cyn yr etholiad, er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth o ran eu pleidlais. Bydd yn helpu i gynyddu eu hymwybyddiaeth o dactegau sy’n bodoli eisoes ac sy’n dod i’r amlwg o ran camwybodaeth / twyllwybodaeth, ac yn gwella eu gallu i’w goresgyn.

Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at pum prif faes y dylai pleidleiswyr eu cadw mewn cof:

  • Twyllwybodaeth / camwybodaeth
  • Ffugiadau dwfn mewn delweddau, sain a fideos
  • Cyfrifon bot
  • Siambrau adlais
  • Camdrafod data

Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at fathau o gynnwys sy’n perthyn i’r categorïau hyn y gallai pobl ei weld ar-lein. Mae’n nodi sut gall y cynnwys yma fod yn niweidiol ac yn esbonio sut gall pobl eu hadnabod a’u diystyru.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ar X,  Instagram, TikTok a YouTube.

Mae Shout Out UK yn fenter gymdeithasol. Ei nod yw helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn deall sut mae llywodraethau’n gweithredu drwy ymwybyddiaeth wleidyddol, a gweithio i’w diogelu rhag twyllwybodaeth a chamwybodaeth drwy ymwybyddiaeth o’r cyfryngau. Yn y gorffennol, mae wedi cyflawni ymgyrchoedd ymwybyddiaeth ddigidol a oedd yn targedu cymunedau sydd wedi’u gwthio i’r cyrion neu wedi’u tangynrychioli, gan gynnwys pobl ifanc.

Mae gan Ofcom eisoes ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o’r cyfryngau ac mae ganddo ddyletswyddau newydd yn y maes hwn o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein, sy’n ymwneud â ‘chynnwys o bwysigrwydd democrataidd’ a chamwybodaeth / twyllwybodaeth.  

Yn ôl i'r brig