Ymgynghoriad: Cynllun Gwaith Ofcom 2023/24

Cyhoeddwyd: 14 Rhagfyr 2022
Ymgynghori yn cau: 8 Chwefror 2023
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Wrth i ni edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod, mae ein rôl fel rheoleiddiwr cyfathrebu cydgyfeiriol – ar draws telathrebu, darlledu, y post, sbectrwm a gwasanaethau ar-lein – yn bwysicach nag erioed. Dyma sut mae pobl yn profi cyfathrebiadau heddiw: ar yr un pryd fel defnyddwyr, cynulleidfaoedd, defnyddwyr a dinasyddion. Yn yr un modd yn union ag y mae'r ffiniau'n pylu rhwng gweithgarwch ar-lein ac oddi ar-lein, mae'r aflonyddwch digidol sy'n ail-lunio cyfathrebiadau a chynnwys heddiw hefyd yn ddall i ffiniau traddodiadol y sector.

Dros y blynyddoedd i ddod, mae ein cylch gwaith yn ehangu. Rydym wedi ymgymryd â dyletswyddau newydd ym meysydd llwyfannau rhannu fideos a diogelwch telathrebiadau, a bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein yn rhoi tasg newydd bwysig i ni o greu bywyd mwy diogel ar-lein. Wrth i ni ymgymryd â'r dyletswyddau newydd hyn, mae'r cynllun gwaith hwn yn nodi ein gweithgarwch arfaethedig i gyflawni ein cenhadaeth o sicrhau bod cyfathrebiadau’n gweithio i bawb yn ystod y flwyddyn i ddod.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Plan of Work team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig