
- Roedd Fenix International Limited wedi methu rhoi gwybodaeth gywir i Ofcom am ei fesurau sicrwydd oedran ar gyfer OnlyFans
Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy o £1.05 miliwn i ddarparwr OnlyFans, Fenix International Limited, am fethu ag ymateb yn gywir i geisiadau ffurfiol am wybodaeth am ei fesurau sicrwydd oedran ar y llwyfan.
Mae casglu gwybodaeth gywir gan gwmnïau sy’n cael eu rheoleiddio yn hanfodol i’n gwaith fel rheoleiddiwr. Mae’n rhaid i gwmnïau, yn ôl y gyfraith, ymateb i bob cais statudol gan Ofcom am wybodaeth a hynny mewn ffordd gywir, gyflawn ac amserol.
Yn yr achos hwn, ym mis Mehefin 2022 a mis Mehefin 2023, gofynnodd Ofcom am wybodaeth gan Fenix am y mesurau sicrwydd oedran a oedd ar waith ganddo ar gyfer OnlyFans. Roedd hyn yn cynnwys gofyn sut roedd y llwyfan yn cynnal gwiriadau oedran ac, yn benodol, gofyn am effeithiolrwydd technoleg amcangyfrif oedran yr wyneb trydydd parti OnlyFans.
Roedd y ceisiadau hyn yn rhan o ymarfer casglu gwybodaeth gan Ofcom – gan ddefnyddio ei bwerau o dan reoliadau a oedd yn rhagflaenu’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein – i fonitro sut roedd llwyfannau rhannu fideos yn cadw plant yn ddiogel ar-lein. Cafodd yr wybodaeth ei chyhoeddi mewn adroddiad ar flwyddyn gyntaf Ofcom o reoleiddio llwyfannau rhannu fideos ym mis Hydref 2022.
Ymateb Fenix
Fel rhan o’i gyflwyniad, dywedodd Fenix ei fod wedi gosod ei ‘oed herio’ ar gyfer y dechnoleg amcangyfrif oedran wyneb trydydd parti yr oedd yn ei defnyddio ar OnlyFans yn 23 oed.
Mae’r dechnoleg yn gweithio drwy fynnu bod darpar ddefnyddiwr yn llwytho hunlun byw i fyny, ac mae’r dechnoleg wedyn yn defnyddio’r hunlun i amcangyfrif ei oedran. Os yw’r adnodd yn amcangyfrif bod oedran y darpar ddefnyddiwr yn uwch na’r oed herio, gall fwrw ymlaen i greu cyfrif ar lwyfan OnlyFans. Mae’n rhaid i unrhyw ddefnyddiwr nad yw’r dechnoleg yn amcangyfrif ei fod yn hŷn na’r oed herio gadarnhau ei fod dros 18 oed drwy ail ddull.[1]
Nodi a rhoi gwybod am wall
Ar 4 Ionawr 2024, dysgodd Fenix gan ei ddarparwr technoleg fod yr oed herio ar gyfer OnlyFans wedi’i osod mewn gwirionedd i 20 oed, nid 23 oed. Cadarnhaodd Fenix yn ddiweddarach ei fod wedi’i osod i 20 oed ers 1 Tachwedd 2021. Ar ôl dysgu hyn, dewisodd Fenix godi’r oed herio i 23 oed ar 16 Ionawr 2025, ond yna ei newid eto i 21 oed ar 19 Ionawr 2025. Rhoddodd Fenix wybod i Ofcom am y gwall am y tro cyntaf ar 22 Ionawr 2024.
O ystyried y datgeliad hwn ac ar ôl ymgysylltu â’r cwmni i egluro effaith y tor-amod posibl, lansiodd Ofcom ymchwiliad ar 1 Mai 2024 i adolygu a oedd Fenix wedi methu â chydymffurfio â’i ddyletswyddau i ddarparu gwybodaeth gyflawn a chywir i’r rheoleiddiwr.
Canfyddiadau ein hymchwiliad
Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth, daeth ein hymchwiliad i’r casgliad bod Fenix wedi torri ei ddyletswyddau i ddarparu gwybodaeth gywir a chyflawn i Ofcom mewn ymateb i ddau gais am wybodaeth statudol.
Mae Ofcom yn disgwyl bod gwiriadau cadarn ar waith i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chwestiynu, ei chroeswirio a’i hadolygu’n briodol drwy sianeli priodol, cyn iddi gael ei chyflwyno mewn ymateb i gais ffurfiol am wybodaeth.
Cododd ein hymchwiliad nifer o bryderon, gan gynnwys y ffaith ei fod wedi cymryd dros 16 mis i'r cwmni ddarganfod ei fod wedi rhoi gwybodaeth anghywir i Ofcom. Rydym yn credu y byddai prosesau cadarn i wirio ffeithiau wedi arwain at ganfod bod gwybodaeth anghywir wedi’i chyflwyno yn gynt.
Cosb ariannol
O ganlyniad i'r methiannau hyn, mae Ofcom wedi rhoi cosb ariannol o £1.05 miliwn i Fenix, a fydd yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys EF. Mae hyn yn cynnwys gostyngiad o 30% oddi ar y gosb y byddem fel arall wedi’i rhoi, o ganlyniad i arbed adnoddau, gan fod Fenix wedi derbyn ein canfyddiadau ac wedi setlo’r achos.
Rydym yn credu bod y gosb yn briodol ac yn gymesur â’r tramgwydd, yng ngoleuni’r ystyriaethau canlynol:
- Mae Fenix yn gwmni mawr gyda llawer o adnoddau, sy’n ymwybodol iawn o’i rwymedigaethau rheoleiddiol. O’r herwydd, dylai fod wedi cymryd camau i sicrhau bod y data a ddarparwyd yn cael ei adolygu a’i ddilysu’n briodol drwy sianeli llywodraethu priodol cyn cael ei gyflwyno i Ofcom.
- Roedd yr anghywirdeb mewn data yn tanseilio ein gallu i gyflawni ein swyddogaeth reoleiddio, gan ei fod wedi arwain at Ofcom yn cyhoeddi data anghywir. Hefyd, achosodd waith ychwanegol i ni gan ein bod wedi gorfod cyhoeddi nodyn o gywiriad ar gyfer y gwall.
- Ar ôl i Fenix ganfod y gwall, cymerodd dros bythefnos i’r cwmni roi gwybod i Ofcom am y mater. Er ein bod yn cydnabod bod Fenix wedi rhoi gwybod i ni am y mater ei hun yn y pen draw, rydym yn disgwyl i gwmnïau roi gwybod i ni am unrhyw achosion posibl o dorri amodau cyn gynted â phosibl, ac ni ddigwyddodd hynny yn yr achos hwn.
Dywedodd Suzanne Cater, Cyfarwyddwr Gorfodaeth Ofcom:
Pan fyddwn yn defnyddio ein pwerau statudol i ofyn am wybodaeth gan lwyfannau, mae’r gyfraith yn mynnu eu bod yn sicrhau bod yr wybodaeth yn gyflawn, yn gywir ac yn cael ei darparu i ni ar amser.
Mae cael gwybodaeth gywir a chyflawn yn hanfodol er mwyn i Ofcom wneud ei waith fel rheoleiddiwr a deall a monitro sut mae llwyfannau’n gweithredu. Byddwn yn disgwyl safonau uchel gan lwyfannau ac ni fyddwn yn oedi cyn cymryd camau gorfodi pan fyddwn yn canfod methiannau.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
- Diben oed herio yw rhoi cyfrif am wall posibl wrth amcangyfrif oedran lle mae rhywun yn cael ei ystyried, yn anghywir, i fod yn hŷn nag ydyw. Mae’n debyg i’r dull a ddefnyddir i werthu alcohol, sy’n cael ei ddefnyddio’n eang, er enghraifft mewn safleoedd trwyddedig, siopau ac archfarchnadoedd.