Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau

Woman in home setting using laptop

Mae ymwybyddiaeth o'r cyfryngau yn ymwneud â phobl a llwyfannau. Mae’n ymwneud â sut rydyn ni’n cysylltu â’n gilydd, sut rydyn ni’n hysbysu ac yn addysgu ein hunain, a sut rydyn ni’n trefnu apwyntiadau meddygol ac yn gwirio balansau banc. Mae gennym ni lawer o wahanol lwyfannau a llefydd i fynd iddyn nhw erbyn hyn. Dydyn ni ddim yn mynd ar-lein
ddim mwy, rydyn ni ar-lein drwy’r amser.

Dyletswyddau Ofcom

Mae gan Ofcom ddyletswyddau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ers 2003, fel y nodir yn adran 11 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Mae gennym ddyletswydd hefyd i wneud trefniadau i gynnal ymchwil i faterion sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o'r cyfryngau fel y nodir yn adran 14(6)(a) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003. Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ychwanegu eglurder a phenodolrwydd i’n dyletswyddau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau.

Ein dull gweithredu

Rydyn ni’n cyflawni ein dyletswyddau drwy rannu ein canfyddiadau ein hunain, yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil, a thrwy annog y gymuned ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ehangach i ddatblygu a threialu gweithgareddau a mentrau i’n cefnogi. Mae’r gwaith hwn yn adeiladu ar gorff sylweddol o ymchwil Ofcom i arferion cyfryngau, agweddau a dealltwriaeth feirniadol y DU.

Mae ein hymchwil hirsefydlog i’r defnydd o gyfryngau ac agweddau oedolion a phlant yn y DU, yn ogystal â’n hadroddiadau ansoddol a hydredol y cyfryngau ym mywyd, yn darparu tystiolaeth ar y sgiliau gwerthuso beirniadol, a gwybodaeth a dealltwriaeth ar-lein ymysg defnyddwyr y rhyngrwyd yn y DU.

Rydyn ni’n defnyddio dull ‘beth sy’n gweithio’ i wella gwybodaeth a sgiliau pobl o ran ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ac rydyn ni’n defnyddio ymchwil weithredol i brofi agwerthuso modelau gwahanol. Rydyn ni wedi cychwyn ymgyrchoedd a threialon peilot i gefnogi oedolion hŷn, pobl sy’n byw gydag anabledd, plant 10-14 oed a chymunedau sy’n wynebu anfantais ariannol, ac rydyn ni’n profi modelau ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ a’r ardal leol i nodi’r arferion gorau wrth lunio a darparu ymyriadau.

Ein nod yw rhoi cipolwg i randdeiliaid sy’n gweithio ar lythrennedd yn y cyfryngau o’r gwaith hwn a’n prosiectau eraill, fel ein papurau trafod ar dechnoleg yn y dyfodol ac AI cynhyrchiol, ac offer fel ein pecyn gwerthuso

Rhaid i’r hyn sy’n digwydd ar lwyfannau wrth iddyn nhw gael eu defnyddio fod yn rhan o’r ateb i fynd i’r afael â’r heriau sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth o’r cyfryngau yn y DU. Er mwyn annog llwyfannau o bob maint i ystyried sut gallan nhw hyrwyddo llythrennedd yn y cyfryngau, rydyn ni wedi creu cyfres o Egwyddorion Dylunio Arferion Gorau ar gyfer Llythrennedd yn y Cyfryngau

Mae ein dull gweithredu’n canolbwyntio ar gydweithio, ac rydyn ni’n gwneud hyn drwy ein Panel Cynghori Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau, ein gweithgorau ymchwil a gwerthuso, a’n rhanddeiliaid Rhwydwaith Gwneud Synnwyr o’r Cyfryngau.

Yn ôl i'r brig