Newid llinell dir

Cyhoeddwyd: 27 Chwefror 2017
Diweddarwyd diwethaf: 2 Hydref 2024

Mae'r cyfnod pan mai dim ond un neu ddau o ddarparwyr allai gynnig ffôn yn eich cartref wedi hen fynd heibio.

Nawr gallwch chi ddewis o blith nifer fawr o gwmnïau, a gellir prynu gwasanaethau ffôn fel gwasanaethau annibynnol neu fel rhan o fargeinion wedi eu bwndelu ochr yn ochr â gwasanaethau eraill, fel teledu, band eang a gwasanaethau symudol.

Mae’r canllaw hwn yn egluro beth sydd angen i chi ei wneud os ydych chi eisiau newid eich llinell dir i ddarparwr newydd.

Newid Un Cam

O fis Medi 2024 ymlaen, bydd proses newid newydd ar gyfer yr holl wasanaethau band eang a llinell dir o’r enw ‘Newid Un Cam’ yn cael ei defnyddio. Bydd y broses hon yn haws, yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy i gwsmeriaid.

O dan y broses hon, does dim rhaid i chi siarad â’ch darparwr presennol. Yn lle hynny, gall eich darparwr newydd drefnu’r trosglwyddiad ar eich rhan. Yn syml, bydd angen i chi roi ychydig o fanylion iddyn nhw gan gynnwys eich cyfeiriad ac enw eich darparwr presennol.

Bydd y manylion hyn yn cael eu cyfateb â chofnodion eich darparwr presennol, a byddant yn anfon unrhyw wybodaeth bwysig atoch chi ar unwaith i’w hystyried wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â’r newid. Gall hyn gynnwys ffioedd terfynu cynnar neu effaith y newid ar unrhyw wasanaethau eraill rydych chi’n eu cael ar hyn o bryd. Os byddwch chi’n penderfynu bwrw ymlaen â’r newid, bydd y darparwr newydd yn trefnu hyn ar gyfer y dyddiad newid rydych chi’n ei ffafrio.

one-touch-switch-overview-cym

Ar ddiwrnod y newid, ar ôl cadarnhau bod eich gwasanaeth newydd yn gweithio’n iawn, bydd eich darparwr newydd yn rhoi gwybod i’ch hen ddarparwr i roi’r gorau i’ch gwasanaeth presennol ac ni ddylech chi orfod talu am unrhyw daliadau cyfnod rhybudd y tu hwnt i’r dyddiad hwn. Ni ddylai unrhyw wasanaeth gael ei golli am fwy nag un diwrnod gwaith yn ystod newid.

O dan ein rheolau newydd, bydd yn rhaid i ddarparwyr hefyd eich digolledu mewn ffordd hawdd ac amserol os bydd pethau’n mynd o chwith, er enghraifft, os na fydd gennych chi wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith, neu os byddant yn colli unrhyw apwyntiadau gwasanaeth neu osod. Rydyn ni’n disgwyl i ddarparwyr dalu iawndal o’r fath o fewn 30 diwrnod i gwblhau newid hwyr, neu ddyddiad unrhyw apwyntiad a fethwyd.

Gallwch gadw eich rhif ffôn presennol ar y llinell dir pan fyddwch chi'n newid darparwr. Gelwir hyn yn ‘cludo rhif’. Os ydych chi am gadw eich rhif, rhowch wybod i'ch darparwr newydd. Gallwch wneud cais i gadw eich hen rif ffôn am ddim hyd yn oed os ydych chi eisoes wedi canslo eich gwasanaeth blaenorol (ar yr amod eich bod yn gwneud cais o fewn mis i ganslo). Ond, efallai na fyddwch chi’n gallu cadw rhif ffôn presennol eich llinell dir os ydych chi'n newid darparwr llinell dir yr un pryd â symud i gartref newydd.

Os ydych chi'n newid eich meddwl, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch darparwr newydd i ganslo’ch cais i newid.

Newid bwndel

Os ydych chi’n newid darparwr ar gyfer bwndel o wasanaethau llinell dir a band eang ar yr un pryd, byddwch chi fel arfer yn dilyn y broses a ddisgrifir uchod.

Pan fyddwch chi wedi gofyn am gadw’ch rhif ffôn presennol, a bod modd gwneud hynny, does dim angen i chi roi gwybod i'ch hen ddarparwr eich bod chi'n symud at ddarparwr llinell dir newydd.

Ond, efallai y bydd angen i chi roi gwybod iddyn nhw er mwyn canslo gwasanaethau eraill rydych chi hefyd yn eu newid fel rhan o fwndel - yn enwedig os yw'r newid yn golygu canslo gwasanaeth teledu. Bydd eich hen ddarparwr yn rhoi gwybodaeth i chi am eich opsiynau o ran y gwasanaethau hyn yn y wybodaeth y byddant yn ei hanfon atoch ynglŷn â’r newid.

Ffioedd terfynu cynnar a’r cyfnod newid meddwl

Os ydych chi eisiau newid darparwr cyn i gyfnod eich contract sylfaenol ddod i ben, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd terfynu’n gynnar. Os ydych chi’n defnyddio proses newid un cam, bydd eich darparwr presennol yn rhoi gwybod i chi’n awtomatig am unrhyw ffioedd terfynu.

A chofiwch, mae gennych chi’r hawl i ganslo eich archeb o fewn 14 diwrnod calendr (y cyfnod ‘newid meddwl’). Fodd bynnag, os yw eich gwasanaeth eisoes wedi dechrau, efallai y codir tâl arnoch am gyfran o’r gwasanaeth rydych chi eisoes wedi’i ddefnyddio pan fyddwch chi’n canslo a/neu unrhyw gostau gosod.

Rheoli eich newid dros eich hun

Efallai y byddwch yn dewis gofyn i'ch darparwr newydd beidio â rheoli'r newid ar eich rhan, er enghraifft os byddai'n well gennych gael cyfnod o orgyffwrdd rhwng y darparwr newydd a chanslo eich hen wasanaeth. Yn yr achos hwn, byddai angen i chi archebu'r gwasanaeth gyda'ch darparwr newydd a chysylltu â'ch hen ddarparwr ar wahân i ganslo'ch contract presennol ar yr adeg briodol. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol na fyddai'r broses newid un cam yn berthnasol yn yr achos hwn.

Sgorio’r dudalen hon

Diolch am eich adborth.

Rydym yn darllen yr holl adborth ond ni allwn ymateb. Os oes gennych ymholiad penodol dylech weld ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?
Yn ôl i'r brig