A smart TV with apps visible on-screen

Ofcom yn galw am system Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus cryfach sy'n deilwng i'r oes ddigidol

Cyhoeddwyd: 15 Gorffennaf 2021
  • Mae angen moderneiddio deddfwriaeth rhaglennu gwasanaeth cyhoeddus er mwyn goroesi yn y byd ar-lein
  • Dylid ehangu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i greu cyfleoedd newydd ar gyfer cynhyrchwyr cynnwys newydd

Heddiw mae Ofcom yn argymell ailwampio deddfau'n radicalaidd er mwyn sicrhau bod Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus yn goroesi ac yn ffynnu yn yr oes ddigidol.

Mae ein hargymhellion i Lywodraeth y DU yn nodi diwedd Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr – adolygiad manwl o ddyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Mae'r adroddiad yn galw am adnewyddu'r system cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i sicrhau y gall ffynnu dros y ddeng mlynedd nesaf a'r tu hwnt.

Yn ystod yr adolygiad, bu i ni siarad â chynulleidfaoedd o bob oedran a chefndir ym mhob cwr o'r DU, a chwrdd â darlledwyr, gwasanaethau ffrydio, academyddion a dadansoddwyr gartref a thramor. Derbyniodd ein hymgynghoriad dros 100 o ymatebion, a bu consensws ar ddau fater hanfodol - pwysigrwydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus i wylwyr yn y DU, a'r angen taer am ddiweddaru'r system i sicrhau ei chynaladwyedd yn y dyfodol.

Mae cynnwys gwasanaeth cyhoeddus yn bwysig i bobl a chymdeithas...ond mae o dan fygythiad cynyddol

Mae ein hadolygiad yn esbonio'n glir bod rhaglennu gwasanaeth cyhoeddus yn cael ei werthfawrogi'n fawr o hyd gan gynulleidfaoedd yn y DU, a bod y pandemig wedi cadarnhau ei rôl mewn cymdeithas.

Mae canfyddiadau ein hymchwil yn pwysleisio'r pwysigrwydd arbennig y mae gwylwyr yn ei weld mewn newyddion cywir sy'n uchel ei ansawdd a'i barch. Mae'n datgelu angerdd dros operâu sebon, drama a chwaraeon byw, sy'n dod â ni at ein gilydd, yn ogystal â rhaglenni sy'n adlewyrchu amrywiaeth gwledydd a rhanbarthau'r DU. Mae Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus hefyd yn ganolog i economi greadigol y DU, gyda thua £3bn yn cael ei wario bob blwyddyn ar gomisiynau newydd ar draws amrywiaeth eang o genres.

ssbd-statement-graphic-cym

Ond gyda chystadleuaeth fyd-eang yn dwysáu, nid yw gwylwyr bellach wedi'u rhwymo gan amserlenni teledu a gallant dewis a dethol cynnwys o amrywiaeth o ddarparwyr a llwyfannau ar-lein. Gyda'r newidiadau hyn mewn golwg, mae diwydiant darlledu'r DU yn wynebu ei her fwyaf erioed.

Newid sylweddol mewn cynlluniau digidol y darlledwyr - ac ailwampiad o’r ddeddfwriaeth

Er mwyn sicrhau dyfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, mae'n rhaid i ddarlledwyr gyflymu eu cynlluniau digidol er mwyn iddynt gynnal cysylltiad cryf â chynulleidfaoedd, ac mae angen diweddaru'r system reoleiddio ar frys hefyd.

Heddiw, felly, rydym yn argymell i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i:

  • Foderneiddio'r amcanion cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Dylai deddfwriaeth newydd ddiogelu a chryfhau nodweddion pwysicaf cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus: amrywiaeth eang o raglenni sy'n adlewyrchu bob rhan o'r DU, a'r gallu i ennyn  diddordeb yr ystod ehangaf bosib o gynulleidfaoedd. Dylai fod amcan newydd i gefnogi economi greadigol y DU hefyd.
  • Diweddaru rheolau argaeledd ac amlygrwydd i gynnwys llwyfannau digidol.Mae darlledwyr a llwyfannau teledu cysylltiedig yn ei chael yn anodd ddod i gytundebau masnachol, gan olygu ei fod yn anos i gynulleidfaoedd ddarganfod cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ar lwyfannau digidol o'i gymharu â theledu traddodiadol. Felly mae angen rheolau newydd i fynnu bod darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnig eu gwasanaethau ar-alw i lwyfannau teledu poblogaidd. Yn ei dro, dylai fod yn ofynnol i lwyfannau ddarparu cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a rhoi amlygrwydd priodol iddo. Dylid rhoi pwerau monitro a gorfodi i Ofcom, gan gynnwys y gallu i ddatrys anghydfodau masnachol.
  • Diweddaru rheolau cynhyrchu ar gyfer cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.Er mwyn i ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus gyrraedd yr holl gynulleidfaoedd, mae angen iddynt fedru comisiynu cynnwys y gallant ei gyflwyno'n hyblyg - ar-lein ac ar deledu darlledu. Felly, rydym yn argymell y dylai rheolau comisiynu sydd wedi'u dylunio i gefnogi cynyrchiadau annibynnol fod yn berthnasol i'r holl gynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, ni waeth p'un a gaiff ei gomisiynu ar gyfer teledu darlledu neu ar-lein. Byddai hyn yn cynnwys rhaglenni a ddangosir dim ond ar wasanaethau ar-lein.
  • Diweddaru'r rheolau ar gyfer darparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus.Mae angen moderneiddio trwyddedau darlledu i ymdrin â chynnwys a gynhyrchir ar draws teledu darlledu ac ar-lein. Dylid rhoi hyblygrwydd hefyd i ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus arloesi ac ymateb i newidiadau technolegol ac yn y farchnad. Dylai cwotâu barhau i sicrhau rhaglennu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus pwysig, fel newyddion, ac i ddiogelu ansawdd teledu darlledu traddodiadol ar gyfer y cynulleidfaoedd hynny sy'n parhau i ddibynnu arnynt. Dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus amlinellu cynlluniau clir i gyflwyno yn erbyn eu hamcanion ac adrodd yn flynyddol ar eu perfformiad, gydag Ofcom yn eu dal i gyfrif.

Trawsnewid a chydweithio er mwyn cystadlu

Nid yw newid deddfwriaethol i'r fframwaith presennol yn ddigon ar ei ben ei hun i gynnal buddion hanfodol cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus; mae angen dulliau radicalaidd pellach:

  • Mae'n rhaid i ddarparwyr  cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus ffurfio partneriaethau strategol mwy uchelgeisiol. Gallai perthnasoedd dyfnach rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a chwmnïau eraill - yn enwedig ar lwyfannau ac ym maes dosbarthu - helpu nhw i gystadlu'n fwy effeithiol â rhanddeiliaid byd-eang a chyrraedd cynulleidfaoedd ehangach. Er enghraifft, yn ddiweddar mae Channel 4 a Sky wedi ehangu eu partneriaeth a fu'n bodoli eisoes i ymdrin â chynnwys, technoleg ac arloesedd.
  • Dylid annog cwmnïau eraill i gynhyrchu rhaglennu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Dylai Llywodraeth y DU ystyried sut i annog darparwyr newydd i helpu cyflwyno cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol. Gallai hynny olygu harneisio'r amrywiaeth eang o raglennu newyddion, drama a chelfyddydau gwreiddiol o safon uchel sydd wedi'i leoli yn y DU a gynigir gan ddarparwyr masnachol presennol, fel Sky neu Discovery. Neu annog darparwyr newydd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus neu gynnwys debyg - er enghraifft ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol - i dargedu cynulleidfaoedd nad ydynt yn ymwneud â darlledwyr ar lwyfannau teledu traddodiadol. Dylai deddfwriaeth wedi'i diweddaru ganiatáu i ddarparwyr cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus cydweddol gael eu hychwanegu at y fframwaith rheoleiddio er mwyn mwyafu hyblygrwydd yn y dyfodol.
  • Ysgogiadau economaidd i ehangu darparu cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Dylai Llywodraeth y DU asesu'r achos dros gymorth ariannol i ychwanegu gwerth ar gyfer cynulleidfaoedd mewn ardaloedd penodol - fel rhaglennu rhanbarthol. Gellir gwneud hyn trwy amrywiaeth o ysgogiadau fel cyllid cystadleuol neu ostyngiadau treth.

Mae'r byd cyfan yn edmygu ein sector creadigol, ond mae cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn wynebu bygythiad triphlyg - o gwmnïau byd-eang mawr, gwylwyr sy'n troi at wasanaethau ar-lein a phwysau cynyddol ar gyllid. Er mwyn i ni gadw cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus a'u cynnwys rhagorol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen i newid ddigwydd - yn gyflym.

Dyna pam rydyn ni'n argymell y diwygiadau mwyaf i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus mewn ugain mlynedd. Mae ein cynllun gweithredu'n disgrifio sut gall y diwydiant, Llywodraeth y DU ac Ofcom adeiladu system gryfach o cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus gyda'i gilydd a all ffynnu yn yr oes ddigidol.

Fonesig Melanie Dawes, Prif Weithredwr Ofcom
Yn ôl i'r brig