Fel rhan o Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, rydym am edrych yn fanylach ar y berthynas sy’n bodoli heddiw rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a’r sector cynhyrchu.
Cafodd y rheolau a’r canllawiau rheoleiddio presennol eu llunio pan oedd y sector a’r ffordd roedd cynulleidfaoedd yn defnyddio cynnwys yn wahanol iawn. Ein nod yw deall effaith rheoleiddio ar y berthynas wrth iddi addasu i newidiadau yn amodau’r farchnad. Yn benodol, rydym yn gofyn am dystiolaeth ynghylch a fydd angen newid unrhyw reolau er budd gwylwyr, i gefnogi cynaladwyedd ariannol cynhyrchwyr a chomisiynwyr yn well, a sicrhau amrywiaeth ac apêl y sector.
Fel sail i’n hargymhellion i lywodraeth y DU, rydym yn gofyn am dystiolaeth a gwybodaeth gan randdeiliaid am effeithiolrwydd yr agweddau craidd ar reoleiddio sy’n berthnasol i’r maes hwn nawr ac yn y dyfodol.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (RTF, 11.6 MB)