Ymgynghoriad: Canllawiau diwygiedig ar gyfer Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus ar Godau Ymarfer Comisiynu

Cyhoeddwyd: 27 Ionawr 2025
Ymgynghori yn cau: 10 Mawrth 2025
Statws: Agor

Mae cynyrchiadau annibynnol yn elfen bwysig o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (‘PSM’). Maent yn gwneud cyfraniad hanfodol at yr amrywiaeth eang o gynnwys creadigol ac o ansawdd uchel sydd ar gael gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i ddiwallu anghenion a buddiannau cynulleidfaoedd ar draws y DU. Mae’r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cefnogi ac yn dibynnu ar y sector cynhyrchu annibynnol yn y DU i gynhyrchu cynnwys cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus sy’n diwallu anghenion newidiol cynulleidfaoedd ac sy’n cynrychioli amrywiaeth y DU. 

Mae’n rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gael Cod i'w ddilyn wrth gomisiynu cynyrchiadau annibynnol a rhaid i'r Cod adlewyrchu Canllawiau Ofcom. 

O ganlyniad i newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Cyfryngau 2024 i ddiweddaru’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, ein bwriad yw diwygio’r canllawiau hyn. Mae’r newidiadau rydym yn eu cynnig yn rhoi mwy o hyblygrwydd a rhyddid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus o ran sut maent yn cyflawni eu cwotâu ar gyfer cynyrchiadau annibynnol, drwy eu galluogi i ddefnyddio eu chwaraewyr ar-alw i fodloni cwotâu ar gyfer cynyrchiadau annibynnol.

Mewn ymateb i fesur tryloywder newydd y Ddeddf Cyfryngau, rydym yn cynnig gwneud darpariaeth yn ein Canllawiau i sicrhau bod cynhyrchwyr annibynnol yn ymwybodol o God y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus cyn negodi contract comisiynu gyda’r darlledwr hwnnw.

Gan nad ydym wedi diwygio ein Canllawiau ers 2007, rydym hefyd yn cynnig newidiadau pellach i ddiweddaru’r iaith, ac i adlewyrchu datblygiadau yn y farchnad ac arferion comisiynu presennol.

Rydym yn gwahodd sylwadau gan randdeiliaid ar y newidiadau hyn, fel y nodir yn yr ymgynghoriad, erbyn 10 Mawrth 2025.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad.

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Tîm Polisi Cynnwys/Content Policy Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig