Diweddariad a gyhoeddwyd 3 Gorffennaf 2019
Roedd adolygiad Ofcom o gynnwys plant yn canolbwyntio ar sut mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU yn darparu amrywiaeth o raglenni i blant ar adeg lle mae arferion cynulleidfaoedd yn newid a lle mae plant yn gwylio mwy a mwy o fideos ar-lein ac ar-alw.
Bwriad yr adolygiad oedd asesu sut y gallwn ddefnyddio'r pŵer newydd yn Neddf yr Economi Ddigidol 2017, sy’n rhoi’r pŵer i Ofcom gyhoeddi meini prawf ar gyfer y ddarpariaeth rhaglenni plant, ac, os yw’n briodol, osod amodau perthnasol (e.e. cwotâu) ar gyfer y sianeli gwasanaeth cyhoeddus trwyddedig (gwasanaethau Channel 3, Channel 4 a Channel 5).
Aethom ati i gynnal adolygiad o raglenni plant ar y teledu ac ar-lein y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol a chyhoeddwyd ein canfyddiadau ym mis Gorffennaf 2018. Fe wnaethom nodi tri phrif faes sy’n peri pryder ynghylch lefel y rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau, ac fe wnaethom ofyn i ITV, Channel 4 a Channel 5 ymateb erbyn diwedd Mawrth 2019. Rhannodd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol eu cynlluniau ag Ofcom cyn 31 Mawrth 2019, gan ddarparu ymatebion ysgrifenedig pan gwblhawyd y cynlluniau terfynol.
Yma, rydym yn darparu ein hymateb i’r cynlluniau hyn, gan grynhoi ein barn am y cynlluniau a’r camau nesaf. Yn ogystal, darperir yr ymatebion gwreiddiol gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus masnachol, ond mae’r wybodaeth fasnachol gyfrinachol wedi cael ei chuddio.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Manylion cyswllt
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA