Mae gan gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus (PSM) le unigryw yng nghymdeithas y DU. Mae'n darparu newyddion dibynadwy a chywir, cynnwys sy'n adlewyrchu'r DU gyfan ac yn dod â chynulleidfaoedd at ei gilydd. Fodd bynnag, wrth i'r gynulleidfa barhau i symud ar-lein, mae risgiau difrifol i raddfa darpariaeth cynnwys PSM yn y dyfodol yng ngoleuni'r heriau ariannol sy'n wynebu dalledwyr gwasanaeth cyhoeddus.
Mae llawer o'r argymhellion a wnaethom yn ein hadolygiad diwethaf o PSM – sgrin fach: trafodaeth fawr – wedi cael eu mabwysiadu yn Neddf Cyfryngau 2024. Rydym yn croesawu'r diwygiad rheoleiddiol hanfodol hwn, ond mae'r newid parhaus yn golygu ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i asesu pa ddiwygio pellach y gallai fod ei angen i amddiffyn cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus hanfodol ar gyfer cynulleidfaoedd y DU.
Mae’r ddogfen hon yn nodi’r cylch gorchwyl ar gyfer ein hadolygiad nesaf o gyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Bydd cam cyntaf yr adolygiad yn esbonio sut mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyflawni ar gyfer cynulleidfaoedd y DU dros y pum mlynedd diwethaf ac yn archwilio’r heriau i’w darpariaeth dros y degawd nesaf a thu hwnt. Bydd yr ail gam yn ystyried cyfleoedd i gefnogi cynaliadwyedd cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol ac argaeledd newyddion cywir o ansawdd uchel y gall cynulleidfaoedd ymddiried ynddo.