Cyhoeddwyd: 7 Medi 2022
Ymgynghori yn cau: 5 Hydref 2022
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)
Mae Ofcom wedi cael ceisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu Cwpan Pêl-droed Dynion y Byd FIFA 2022 (“Cwpan y Byd 2022”) yn fyw yn ar eu sianeli hwy yn unig. Cynhelir y gystadleuaeth yn Qatar rhwng dydd Sul 20 Tachwedd a dydd Sul 18 Rhagfyr 2022.
Gan fod Cystadleuaeth Rowndiau Terfynol Cwpan y Byd FIFA wedi’i ddynodi’n ddigwyddiad rhestredig at ddibenion Deddf Darlledu 1996, mae angen caniatâd Ofcom i ddangos darllediadau teledu byw ohoni ar eu sianeli hwy yn unig.
Mae Ofcom yn bwriadu rhoi’r caniatâd hwn dros dro, yn amodol ar ystyried unrhyw bryderon a godir mewn ymateb i’r ymgynghoriad hwn.
Ymateb i'r ymgynghoriad hwn
Anfonwch ymatebion drwy ddefnyddio'r Ffurflen-ymateb-i-ymgynghoriad-FIFA (ODT, 16.85 KB)