Three people in a meeting room in conversation

Cynnydd cyson mewn swyddi darlledu wedi'u lleoli y tu allan i Lundain

Cyhoeddwyd: 4 Rhagfyr 2024

Mae bron i hanner y gweithwyr ar draws sector darlledu'r DU bellach wedi'u lleoli y tu allan i Lundain, yn ôl astudiaeth ddiweddaraf Ofcom ar wead y diwydiant teledu a radio.

Mae wythfed adroddiad cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant blynyddol Ofcom ym maes darlledu yn dangos bod 48% o rolau darlledu bellach wedi'u lleoli y tu allan i Lundain yn y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau - cynnydd o 46% yn 2023. Mae'r gyfran ychydig yn uwch mewn teledu (49%) nag ym maes radio (46%).

Ond mae adroddiad heddiw hefyd yn rhoi darlun cymysg, gan ddatgelu meysydd penodol lle mae'r cynnydd tuag at weithlu mwy cynrychioliadol wedi arafu.

Tangynrychiolaeth ar lefelau uwch

Roedd rhai grwpiau’n cael eu tangynrychioli’n barhaus, yn enwedig mewn rolau uwch, gwneud penderfyniadau a rolau golygyddol.

Er bod cynrychiolaeth dda o fenywod ar draws y diwydiant yn gyffredinol (50%), er gwaethaf cynnydd bach mewn dyrchafiadau, maent yn dal i gael eu tangynrychioli ar lefel uwch (43%). Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer radio (ac eithrio’r BBC), gyda menywod yn cyfrif am draean (33%) yn unig o’r rheini mewn rolau uwch reoli, a dim ond 36% mewn swyddi comisiynu neu raglennu.

Yn yr un modd, mae pobl o grwpriau lleiafrifoedd ethnig ond yn cyfrif am 11% o'r rhai mewn rolau uwch ar draws y diwydiant, tra bod tangynrychiolaeth barhaus o bobl anabl ar draws pob lefel swydd (11%) a hyd yn oed yn fwy felly ar lefel uwch (9%).

Mae ein data hefyd yn awgrymu tangynrychiolaeth barhaus o bobl dosbarth gweithiol ar draws y diwydiant - 27% yn erbyn meincnod poblogaeth waith o 39%. Mae bylchau data cyson hefyd yn y maes hwn o ystyried mai dim ond gwybodaeth am gefndir economaidd-gymdeithasol 50% o weithlu’r diwydiant sydd gennym o hyd. Disgwyliwn i fwy o ddarlledwyr flaenoriaethu casglu’r data hwn mewn pryd ar gyfer adroddiad y flwyddyn nesaf.

Talent yn mynd a dod

Mae tystiolaeth o 'dalent yn mynd a dod' lle mae cyfraddau cadw gweithwyr yn parhau i fod yn is na'r cyfartaledd ymhlith rhai grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae ein data yn awgrymu mwy o newid ymhlith menywod a’r rhai o grwpiau lleiafrifoedd ethnig sy’n gweithio ym maes darlledu.

Er enghraifft, er bod cyfran uwch o'r rhai sy'n ymuno â'r diwydiant darlledu yn dod o grŵp lleiafrifoedd ethnig (26%), maent hefyd yn cyfrif am gyfran uwch o'r rhai sy'n gadael eu swyddi (23%).

Ymdrechion traws-ddiwydiant ac atebolrwydd unigol

Mae gweithlu amrywiol a chynrychioliadol yn hanfodol ar gyfer diwydiant darlledu cynaliadwy. Mae ein hymchwil yn dangos bod gwylwyr a gwrandawyr yn gwerthfawrogi rhaglenni cywir, dilys a dibynadwy sy’n siarad â chynulleidfaoedd amrywiol, o amryw o gefndiroedd ledled y DU.

Mae gan Ofcom ddyletswyddau i hyrwyddo cyfle cyfartal ar gyfer cyflogaeth gan y darlledwyr rydym yn eu rheoleiddio. Mae ein hadroddiad yn amlygu’r angen i ddarlledwyr barhau i weld cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hollbwysig i’w busnesau. Rydym yn cael ein calonogi gan nifer o fentrau diwydiant diweddar – megis partneriaeth ScreenSkills gyda’r Rhwydwaith Amrywiaeth Creadigol, ac Uned Mesuar Effaith Gŵyl Deledu Caeredin – a byddwn yn parhau i gefnogi ymdrechion cydweithredol traws-ddiwydiant.

Er mwyn gweld cynnydd rydym hefyd yn cydnabod bod rhaid i ddarlledwyr unigol fod yn atebol am newid o fewn eu sefydliadau eu hunain, a byddwn yn edrych ar y cynnydd a wnaed yn adroddiad y flwyddyn nesaf.

Yn ôl i'r brig