Mae cynhyrchu teledu tu allan i Lundain yn rhan hanfodol o'r sector darlledu yn y DU. Mae'n helpu i wasgaru ac i annog buddsoddiad a chyfleoedd gwaith yn y sector ledled y DU. Mae hefyd o fudd i gynulleidfaoedd drwy sicrhau amrywiaeth o raglenni a safbwyntiau golygyddol.
I helpu hyrwyddo cynhyrchu teledu yn y gwledydd a'r rhanbarthau, mae Ofcom yn gosod cwotâu ar ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ('PSB's'; BBC, gwasanaethau Sianel 3, Channel 4 a Channel 5), i sicrhau bod cyfran addas o'u rhaglenni rhwydwaith yn cael eu creu tu allan i'r M25.
Mae gan y BBC a gwasanaethau Sianel 3 gwotâu hefyd i ddarlledu rhaglenni lleol yn cynnwys newyddion rhanbarthol, ar draws gwahanol rannau o'r DU ('rhaglennu rhanbarthol'), a dylai cyfran addas o'r rhain gael eu cynhyrchu yn yr ardal leol.
I helpu'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gyflawni'r anghenion hyn, rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau. Mae'r canllawiau hyn yn esbonio:
- ein diffiniadau ni o gynyrchiadau a rhaglennu rhanbarthol
- sut rydyn ni'n disgwyl i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i gydymffurfio â'u cwotâu
- sut y dylid dyrannu cynyrchiadau i ardaloedd daearyddol penodol
- sut rydyn ni'n monitro cydymffurfiaeth gyda'r rhwymedigaethau hyn
Darllenwch ein canllawiau ar gyfer teitlau a ddarlledwyd cyn 2021.
Darllenwch ein canllawiau ar gyfer teitlau a ddarlledwyd o 2021.
Adolygiad o'r canllawiau
Yn 2017, gwnaethon ni lansio adolygiad o'r canllawiau i sicrhau eu bod yn parhau'n effeithiol yn y tirwedd cynhyrchu rhaglenni heddiw.
Datganiad: Adolygiad o'r Canllawiau ar gyfer Cynyrchiadau a Rhaglenni Rhanbarthol (Mehefin 2019)
Cais am dystiolaeth: Adolygiad o'r Canllawiau ar gyfer Cynyrchiadau teledu a Rhaglenni Rhanbarthol (Mawrth 2018)
Pob blwyddyn rydyn ni'n cyhoeddi Cofrestr teitlau rhaglenni a gynhyrchwyd y tu allan i Lundain sy'n rhoi manylion y rhaglenni mae'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus wedi cyfri fel rhan o'u cwotâu cynhyrchu rhanbarthol.
Am wybodaeth ynghylch cynyrchiadau a rhaglennu darlledu gwasanaeth cyhoeddus, a sut maent yn cydymffurfio i'w hymrwymiadau ewch i'r Adroddiadau Cydymffurfio Blynyddol PSB
Ymdrinnir â chwynion ynghylch cydymffurfiaeth darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus gyda'u hymrwymiadau cynhyrchu a rhaglennu yn Amodau cyffredinol ar gyfer archwilio torri rheolau trwyddedau darlledu .
Mae gennym set arall o ganllawiau sy'n berthnasol i'r BBC. Rhain yw ein Canllawiau ar gyfer gorfodi anghenion yng Nghytundeb y BBC a chydymffurfio gyda gweithredoedd gorfodi Ofcom
Darllenwch sut i wneud cwyn sy'n ymwneud â chynyrchiadau a rhaglennu rhanbarthol