Datganiad a gyhoeddwyd 20 Mai 2022
Mae gan Local TV Limited ("Local TV") nifer o drwyddedau gwasanaeth rhaglenni teledu digidol lleol ar draws y DU. Mae'n rhaid i'r gwasanaethau a ddarperir o dan y trwyddedau hyn fodloni rhwymedigaethau cynnwys penodol a nodir yn y drwydded, a elwir yn 'ymrwymiadau rhaglennu’.
Mae Local TV Limited wedi gwneud cais i Ofcom am newid yr ymrwymiadau rhaglennu mewn saith o'i drwyddedau, fel a ganlyn:
- Birmingham TV
- Bristol TV
- Cardiff TV
- Leeds TV
- Liverpool TV
- Tyne and Wear TV
- Teesside TV
Rydym wedi penderfynu, ym mhob achos, fod y newidiadau y mae Local TV Limited yn gofyn amdanynt yn gyfystyr â gwyriad oddi wrth gymeriad y gwasanaeth trwyddedig. Mae'r hysbysiad hwn yn nodi manylion cynigion Local TV ac yn gwahodd cynrychiolaeth gan bobl y gallai'r newidiadau hyn effeithio arnynt.
Mae gennym farn gychwynnol ynghylch y ceisiadau. Rydym o'r farn i'w caniatáu am y rhesymau a amlinellir yn y ddogfen hon. Fodd bynnag, rydym yn ceisio barn ar y ceisiadau cyn i ni wneud penderfyniadau terfynol.