Datganiad: Trwyddedu teledu lleol - Penderfyniad i beidio â hysbysebu nac ail-hysbysebu rhai trwyddedau teledu lleol

Cyhoeddwyd: 20 Ebrill 2018
Ymgynghori yn cau: 1 Mehefin 2018
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Fe wnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ar 20 Ebrill 2018 ynghylch ein penderfyniad dros dro i beidio â hysbysebu nac ail-hysbysebu rhai trwyddedu teledu lleol ar gyfer 13 o ardaloedd penodol, neu ardaloedd amgen, lle nad oes trwydded wedi cael ei dyfarnu hyd yn hyn.

Ar ôl ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym yn cadarnhau ein penderfyniad dros dro. Rydym yn credu y byddai parhau i fynnu bod y rhwydwaith trawsyrru teledu lleol yn cael ei ymestyn i’r lleoliadau hyn neu i ardaloedd amgen, yn unol â'r bwriad blaenorol, yn cael effaith niweidiol ar hyfywedd economaidd y sector teledu lleol yn ei gyfanrwydd.  Bydd y penderfyniad hwn yn rhyddhau Comux, y sawl sy’n gyfrifol am y seilwaith trawsyrru ar gyfer teledu lleol, o’i rwymedigaeth bresennol i adeiladu’r seilwaith trawsyrru yn y lleoliadau hyn.


Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Leen Petré
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig