Dyfarnu grantiau 2021-22 Rownd 2

Cyhoeddwyd: 17 Chwefror 2022
Diweddarwyd diwethaf: 17 Chwefror 2024

Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom ('y Panel') ddydd Gwener 4 Chwefror 2022 i ystyried ceisiadau yn yr ail rownd gyllido ar gyfer 2021-22.

Bu i'r Panel ystyried pob cais a dyfarnu cyllid yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd, a chan gyfeirio at nodiadau arweiniad y Gronfa Radio Cymunedol ('y Gronfa'). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid o gwbl.

Yn y cyfarfod:

  • ystyriwyd 69 o geisiadau am grant
  • y cyfanswm cyllid y gofynnwyd amdano yn y ceisiadau hyn oedd £1,029,650
  • dyfarnwyd grantiau i 26 o ymgeiswyr, cyfanswm o £390,689 ac
  • ni ddyfarnwyd grant i 43 o ymgeiswyr.

Amrywiodd y grantiau a ddyfarnwyd o £6,384 hyd at £22,166 ar gyfer swyddi unigol, gyda swm cyfartalog o £15,027. Ceir crynodeb o'r dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad hwn.

Mae'r Panel yn ystyried, gymaint ag sy’n bosib, y dylai grantiau gan y Gronfa helpu i ddatblygu sefydlogrwydd ariannol a chynaladwyedd yn y dyfodol. Felly, roedd cynigion i hyrwyddo sefydlogrwydd ariannol hir dymor a swyddi a allai ddatblygu i fod yn hunangynhaliol wedi'u ffafrio gan y Panel dros geisiadau am rolau cymorth eraill.

Mewn perthynas â'r ceisiadau a ystyriwyd yn y rownd gyllido hon, hoffai'r Panel wneud y pwyntiau a ganlyn:

Adborth

Nid yw'r Panel yn darparu adborth unigol fel mater o drefn. Efallai y bydd rhywfaint o adborth ar lafar ar gael, os yw gorsafoedd am gysylltu ag Ofcom. Fodd bynnag, byddai'r Panel yn awgrymu i orsafoedd ofyn am adborth os byddant yn ailgyflwyno ceisiadau am yr un swydd neu brosiect yn y dyfodol.

Darllen y nodiadau arweiniad

Cyflwynodd sawl gorsaf geisiadau am gyllid arian parod brys, er i'r arweiniad egluro na fyddai'r fath grantiau yn cael eu hystyried yn y Rownd hon.

Darparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani

Dylai ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth ategol y gofynnir amdani, megis gwybodaeth ariannol berthnasol neu ddisgrifiad swydd os yn gwneud cais am gyllid ar gyfer swydd.  Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y nodiadau arweiniad am ragor o fanylion ynghylch yr hyn y dylid ei ddarparu.

Eglurder ynghylch sefyllfa ariannol yr orsaf

Roedd rhai ceisiadau'n cynnwys gwybodaeth ariannol a oedd i'w gweld yn dangos cronfeydd wrth gefn mawr neu incwm sylweddol. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol y gallai'r diffyg eglurder hwn o bosib beri anfantais i'w cais, gan y gall roi argraff gamarweiniol o'u cyflwr ariannol.

Arian cyfatebol

Gwnaeth sawl gorsaf geisiadau i'r Gronfa am swyddi yr oeddent yn bwriadu eu cyllido'n rhannol eu hunain, yr oedd ganddynt cyllid cyfatebol yn ei le ar eu cyfer neu'n ceisio cyllid cyfatebol ar eu cyfer.  Croesawodd y Panel y dull hwn gan ei fod yn dangos buddsoddiad gan gyllidwyr eraill, neu gan y gorsafoedd radio eu hunain.

Ffocws clir ar gyfer swyddi

Ffafriodd y Panel geisiadau am swyddi yr oedd eu disgrifiadau swydd yn dangos ffocws ac yr oedd digon o adnoddau ar gael iddynt fod yn llwyddiannus.  Roedd ceisiadau aflwyddiannus yn cynnwys y rhai lle'r oedd gan ddeiliad y swydd ystod eang o gyfrifoldebau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, rhaglennu a hyd yn oed cyflwyno rhaglenni dyddiol, ochr yn ochr â datblygu refeniw.  Roedd y rhain yn aml yn geisiadau a ddisgrifiwyd fel swyddi Rheolwr Gorsaf.  Roedd y Panel yn annhebygol o ffafrio'r fath geisiadau gan nad oedd deiliad y swydd yn debygol o fedru neilltuo digon o amser i gynhyrchu incwm, gan wneud y buddsoddiad yn anghynaliadwy. Yn yr un modd, mae'r Panel yn rhybuddio yn erbyn ceisiadau sy'n rhy fach, gan y gall fod yn aneglur sut y caiff rolau eu cyflawni'n gynaliadwy os cânt eu hariannu am nifer fach o oriau yn unig.

Croesawodd y Panel ddisgrifiadau swydd gyda thargedau clir a chynlluniau gwaith wedi'u strwythuro'n dda.

Dangosodd lleiafrif o geisiadau anghysondeb rhwng disgrifiadau swydd a'r hyn a ysgrifennwyd ar y ffurflen gais.

Gwirio'r symiau

Roedd sawl cais yn peri dryswch i'r Panel gan nad oedd y cyfrifiadau ariannol yn adio ynghyd.

Contractiwr neu gyflogai?

Mae ymgeiswyr yn parhau i ddweud y gellir dyfarnu rolau i gontractwyr hunangyflogedig sy'n anfonebu ar sail fisol.  Nid yw'r Panel yn cyflogi'r rhai y dyfernir cyllid iddynt yn uniongyrchol, felly nid yw o fewn ei gylch gwaith i benderfynu a yw deiliaid swyddi yn hunangyflogedig at ddibenion treth.  Mae'r Panel yn atgoffa ymgeiswyr bod rheolau Cyllid a Thollau EM ynghylch gweithio oddi ar y gyflogres wedi newid.  Os nodir bod ymgeiswyr yn torri rheolau oddi ar y gyflogres, nid yw'r Gronfa'n atebol i ddigolledu unrhyw ddiffyg o ganlyniad i orfod ad-dalu Treth Incwm neu Gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae arweiniad  llawn i ymgeiswyr yn y dyfodol ar gael yn https://www.gov.uk/guidance/check-employment-status-for-tax.

Enw'r orsaf

Diben

Swm

101.8 WCR FM

Cydlynydd Hyfforddi Gwirfoddolwyr

£12,864

ABC FM, Blast 106, IUR FM (joint bid)

Swyddog Noddi

£13,500

Blackburn's B102.2

Rheolwr Datblygu Busnes

£19,616

B Radio (Farnborough)

Rheolwr Datblygu Busnes

£19,520

Cando FM

Rheolwr Cynaladwyedd a Datblygu Busnes

£18,018

Chelmsford Community Radio

Swyddog Allgymorth Cymunedol a Chymorth Codi Arian

£22,166

Coast FM (Coleraine)

Rheolwr Gwerthiannau

£9,808

Croydon FM

Codwr Arian

£14,000

East Devon Radio

Swyddog Allgymorth a Chodi Arian

£14,792

Future Radio

Rheolwr Cynaladwyedd a Phrosiectau

£8,000

Gaydio Brighton

Gweithredydd Gwerthiannau

£14,445

K107fm

Codwr Arian

£12,770

Pride Radio

Cydlynydd Partneriaethau

£14,560

Radio2Funky

Swyddog Datblygu Busnes

£6,731

Radio MAC

Rheolwr Marchnata ac Ymgysylltu'r Orsaf

£16,940

Revolution Radio

Rheolwr Datblygu Busnes

£20,238

RWS FM 103.3

Rheolwr Datblygu Busnes

£13,750

Select Radio

Cydlynydd Codi Arian a Datblygu Busnes

£18,823

Skylark

Rheolwr Busnes a Datblygu

£12,480

Somer Valley FM

Rheolwr Gorsaf

£11,074

Sunshine 1049

Swyddog Rhoddion Rheolaidd

£9,805

SWU.FM

Rheolwr Datblygu Busnes

£12,350

Ujima Radio

Rheolwr Datblygu Rhaglenni

£16,250

West Kent RadioGweithredydd Gwerthiannau ac Arian Grant£17,480
Winchester RadioRheolwr Busnes Cymunedol a Chynaladwyedd£20,933
Zetland FMRheolwr Datblygu Busnes£19,776
Yn ôl i'r brig