Dyfarnu grantiau 2022-23 Rownd 1

Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Cyfarfu Panel Cronfa Radio Cymunedol Ofcom ('y Panel') ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2022 i ystyried ceisiadau yn y rownd gyllido gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022-23.

Bu i'r Panel ystyried pob cais a dyfarnu cyllid yn seiliedig ar yr wybodaeth a ddarparwyd, a chan gyfeirio at nodiadau arweiniad y Gronfa Radio Cymunedol ('y Gronfa'). Ar gyfer pob cais am grant, penderfynodd y Panel a oedd am roi dyfarniad llawn, dyfarniad rhannol neu beidio â dyfarnu unrhyw gyllid o gwbl.

Yn y cyfarfod:

  • ystyriwyd 47 o geisiadau am grant
  • y cyfanswm cyllid y gofynnwyd amdano yn y ceisiadau hyn oedd £757,370
  • dyfarnwyd grantiau i 18 o ymgeiswyr, cyfanswm o £242,395 ac
  • ni ddyfarnwyd grant i 29 o ymgeiswyr.

Amrywiodd y grantiau a ddyfarnwyd o £4,320 hyd at £18,955 ar gyfer swyddi unigol, gyda swm cyfartalog o £13,466. Ceir crynodeb o'r dyfarniadau ar ddiwedd y datganiad hwn.

Gofyn am adborth cyn ailgyflwyno cynigion

Nid yw'r Panel yn darparu adborth unigol fel mater o drefn. Efallai y bydd rhywfaint o adborth ar lafar ar gael, os yw gorsafoedd am gysylltu ag Ofcom. Fodd bynnag, byddai'r Panel yn awgrymu i orsafoedd ofyn am adborth os byddant yn ailgyflwyno ceisiadau am yr un swydd neu brosiect yn y dyfodol.

Darllen y nodiadau arweiniad

Cyflwynodd sawl gorsaf geisiadau am grantiau ar gyfer eitemau fel treuliau gwirfoddolwyr, gwariant cyfalaf a chostau marchnata er i'r arweiniad nodi'n glir nad yw'r Gronfa'n cefnogi ceisiadau o'r fath.

Darparu tystiolaeth i gefnogi eich cais

Mae'r Panel yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarperir gan bob ymgeisydd. Darparodd nifer fach o orsafoedd ychydig iawn o wybodaeth i gefnogi eu cais ac o ganlyniad, buont yn aflwyddiannus

Byddai'r Panel hefyd yn croesawu gwybodaeth am sut mae gorsafoedd yn bwriadu mesur llwyddiant. Er enghraifft, dylai ymgeiswyr sy'n gofyn am gyllid ar gyfer gwerthu hysbysebu ddisgrifio'r refeniw tebygol y maent yn rhagweld y caiff ei gynhyrchu trwy werthu hysbysebu.

Darparu'r holl wybodaeth y gofynnir amdani

Dylai ymgeiswyr ddarparu'r wybodaeth ategol y gofynnir amdani, megis gwybodaeth ariannol berthnasol neu ddisgrifiad swydd os yn gwneud cais am gyllid ar gyfer swydd.  Dylai ymgeiswyr gyfeirio at y nodiadau arweiniad am ragor o fanylion ynghylch yr hyn y dylid ei ddarparu.

Pennu cyflogau realistig

Pennodd rhai gorsafoedd gyflogau uchel ar gyfer swyddi codi arian amser llawn a oedd yn anghymesur ag incwm yr orsaf ac yn annhebygol o fod yn gynaliadwy y tu hwnt i gyfnod y grant. I'r gwrthwyneb, pennodd rhai gorsafoedd gyflogau isel iawn gyda nifer bach o oriau ac roedd y Panel yn cadw mewn cof yr adborth gan ymgeiswyr blaenorol eu bod weithiau'n ei chael hi'n anodd denu ymgeiswyr i'r rôl pan oedd y cyflog yn rhy isel.

Ymchwilio i ddulliau newydd o gynhyrchu refeniw

Croesawodd y Panel geisiadau yn y rownd hon gan orsafoedd a oedd yn ceisio mynd ar drywydd dulliau newydd o gynhyrchu refeniw, megis pecynnau marchnata dididol. Bu'n ddymunol hefyd iddynt ddarparu cyllid ar gyfer arolwg sy'n anelu at ddangos effaith a gwerth radio cymunedol; teimlai'r Panel y byddai hyn yn adnodd gwerthfawr i'r sector cyfan o ran darparu gwybodaeth i ddarpar hysbysebwyr, noddwyr a phartneriaid.

Darparu ffocws clir ar gyfer swyddi

Ffafriodd y Panel geisiadau am swyddi yr oedd eu disgrifiadau swydd yn dangos. Roedd ceisiadau aflwyddiannus yn cynnwys y rhai lle'r oedd gan ddeiliad y swydd ystod eang o gyfrifoldebau gan gynnwys rheoli gwirfoddolwyr, rhaglennu a hyd yn oed cyflwyno rhaglenni dyddiol, ochr yn ochr â datblygu refeniw.  Roedd y rhain yn aml yn geisiadau ar gyfer swyddi Rheolwr Gorsaf.  Roedd y Panel yn annhebygol o ffafrio'r fath geisiadau gan nad oedd deiliad y swydd yn debygol o fedru neilltuo digon o amser i gynhyrchu incwm, gan wneud y buddsoddiad yn anghynaliadwy.

Cyflwynodd nifer fach o orsafoedd geisiadau dryslyd fu'n awgrymu y gellir hollti swyddi'n ddwy ran neu eu cyfuno â rolau eraill. Roedd y ceisiadau hyn yn aflwyddiannus gan nad oedd yn glir beth fyddai'r Gronfa'n ei gefnogi.

Contractiwr neu gyflogai?

Mae ymgeiswyr yn parhau i ddweud y gellir dyfarnu rolau i gontractwyr hunangyflogedig sy'n anfonebu ar sail fisol.  Nid yw'r Panel yn cyflogi'r rhai y dyfernir cyllid iddynt yn uniongyrchol, felly nid yw o fewn ei gylch gwaith i benderfynu a yw deiliaid swyddi yn hunangyflogedig at ddibenion treth.  Mae'r Panel yn atgoffa ymgeiswyr bod rheolau Cyllid a Thollau EM ynghylch gweithio oddi ar y gyflogres wedi newid.  Os nodir bod ymgeiswyr yn torri rheolau oddi ar y gyflogres, nid yw'r Gronfa'n atebol i ddigolledu unrhyw ddiffyg o ganlyniad i orfod ad-dalu Treth Incwm neu Gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae arweiniad llawn i ymgeiswyr yn y dyfodol ar gael ar wefan GOV.UK.

Enw'r orsafDibenSwm
TD1 Radio Rheolwr Datblygu Busnes £15,000
Bro Radio Cyfarwyddwr Gweithrediadau £16,581
Drive 105 FM Sefydliad Codi Arian Allanol £4,320
NLive Adrodd am Effaith (Cais ar y cyd) £8,706
Academy FM Folkestone Prentis Cynorthwy-ydd Gwerthiannau £8,654
Purbeck Coast FM Rheolwr Cynaladwyedd a Datblygu £12,338
Radio Seerah Cydlynydd Datblygu Codi Ariam a Busnes £14,820
Rajo Radio Rheolwr Gorsaf Cynorthwyol £14,380
Bishop FM Rheolwr Gwirfoddolwyr £18,440
Dales Radio Rheolwr Masnachol £13,200
Glastonbury FM Rheolwr Cynaladwyedd yr Orsaf £18,955
Hot Radio Rheolwr Masnachol Cyfryngau Cymdeithasol £10,218
Legacy 90.1FM Cydlynydd Prosiect Cymunedol a Chodi Arian £15,937
Oldham Community Radio Rheolwr Partneriaethau Cymunedol £12,000
Radio Faza Rheolwr Codi Arian £10,812
Radio Plus Prif Weithredwr (Cynnydd mewn oriau) £15,000
Rinse FM Swyddog Codi Arian a Chyllid £15,887
Salford City Radio Rheolwr Cyllid a Datblygu Prosiectau £17,147
Yn ôl i'r brig