Heddiw rydym wedi cyhoeddi bod dwy raglen deledu gyda Gordon Ramsay ynddynt wedi torri ein rheolau darlledu, gan iddynt gynnwys iaith sarhaus a chael eu dangos cyn y trothwy 9pm.
Roedd pennod o Gordon Ramsay’s 24 Hours to Hell and Back, a ddarlledwyd cyn y trothwy ar Channel 4, am 12.10 ar 10 Awst, yn cynnwys achosion o'r iaith fwyaf tramgwyddus.
Roedd pennod o Ramsay's Kitchen Nightmares USA, a ddarlledwyd am 4pm ar E4 Extra ar 7 Gorffennaf, yn cynnwys 39 achos o iaith dramgwyddus, cyn y trothwy ac nid oedd unrhyw rybuddion cyn y rhaglen neu ymddiheuriadau ar ôl iddi gael ei dangos.
Roedd y ddau ddigwyddiad hyn yn groes i'r Cod Darlledu.
I weld mwy o wybodaeth am y penderfyniadau hyn ac eraill, gweler rhifyn diweddaraf ein Bwletin Darlledu.
Pam rydyn ni'n ymchwilio i agweddau at iaith dramgwyddus
Mae Ofcom yn cynnal ymchwil i agweddau pobl at iaith dramgwyddus ar y teledu a'r radio.
Mae'r ymchwil hon yn helpu ni i ddeall sut mae pobl yn teimlo am yr iaith y maent efallai'n dod ar ei thraws mewn rhaglenni y maent yn eu gwylio neu'n gwrando arnynt. Mae'n gallu cefnogi darlledwyr wrth iddynt gynllunio eu cynnwys ac yn ein helpu ni pan fydd angen i ni wneud penderfyniadau ynghylch cynnwys mewn rhaglenni a allai fod yn dramgwyddus.
Un o agweddau pwysig yr ymchwil yw ei fod yn golygu nad yw ein penderfyniadau'n seiliedig ar ein barn ni am iaith dramgwyddus, a'u bod yn hytrach yn seiliedig ar yr hyn mae pobl yn ei ddweud wrthym am sut maen nhw'n teimlo.
Cael gwybod mwy am yr ymchwil, gydag esboniad pam ei fod o bwys i'n gwaith ar safonau darlledu.
Beth yw'r trothwy?
Mae rheolau llym ynglŷn â'r hyn y gellir ei ddangos ar y teledu cyn y trothwy 9pm - dyma'r amser y gall darlledwyr ddangos rhaglenni teledu a allai fod yn anaddas i blant. Yn yr un modd mae rheolau llym ynglŷn â'r hyn y gellir ei ddarlledu ar y radio ar adegau pan fydd plant yn fwyaf tebygol o fod yn gwrando, megis ar y daith i'r ysgol ac amser brecwast, ond mae'n gallu cynnwys amserau eraill.
I gael gwybod mwy am y trothwy a beth mae'n ei olygu i ddarlledwyr a gwylwyr, bwrw golwg ar ein herthygl esboniadol.