
Rydym wedi cwblhau ein hasesiad o gwynion a dderbyniom am sylw a wnaed yn ystod darllediad ITV o Goroni'r Brenin Charles III, a gallwn gadarnhau na fyddwn yn mynd ymhellach ar drywydd y rhain.
Cawsom 8,371 o gwynion gan wylwyr am sylw a wnaed gan yr actores Adjoa Andoh yn ystod y darllediad byw, a fu'n canolbwyntio ar ymddangosiad y Teulu Brenhinol ar falconi Palas Buckingham.
Roedd achwynwyr hefyd yn gwrthwynebu cyfeiriadau at y sylw a wnaed gan gyflwynwyr ITV News Tom Bradby a Chris Ship.
Er i ni ddeall bod gan rai gwylwyr deimladau cryfion am y sylw hwn, ar ôl ystyried yn ofalus, rydym wedi dod i'r casgliad y bu'r sylw yn arsylwad personol fel rhan o drafodaeth banel eang a fu hefyd yn ymdrin â phynciau eraill sy'n gysylltiedig ag amrywiaeth, ac yn cynnwys ystod o safbwyntiau.
Mae ein penderfyniad i beidio â mynd ymhellach ar drywydd y cwynion hyn hefyd yn cymryd hawl darlledwyr a gwesteion i ryddid mynegiant i ystyriaeth.
Am fwy o wybodaeth gweler Bwletin Darlledu diweddaraf Ofcom.