Mae'r Goruchaf Lys wedi cadarnhau na fydd yn clywed apêl gan RT yn erbyn penderfyniadau Ofcom fu'n canfod tor rheolau difrifol a niferus gan RT o'n rheolau didueddrwydd dyladwy.
Yn 2019, bu i ni roi dirwy o £200,000 i RT ar ôl i ni nodi yn 2018 iddi fethu dro ar ôl tro â chynnal didueddrwydd dyladwy mewn saith rhaglen newyddion a materion cyfoes a ddarlledwyd ym misoedd Mawrth ac Ebrill 2018.
Roedd y rhaglenni hyn yn ymwneud yn bennaf â materion o ddadl wleidyddol a pholisi cyhoeddus pwysig - sef ymateb Llywodraeth y DU i achosion o wenwyno yng Nghaersallog yn 2018, a gwrthdaro yn Syria.
Fe wnaeth RT herio penderfyniadau Ofcom yn yr Uchel Lys a'r Llys Apêl ac fe wrthododd y ddau Lys heriau RT ar bob sail. Gofynnodd RT am ganiatâd i ddod ag apêl i'r Goruchaf Lys, ond mae'r Goruchaf Lys wedi cadarnhau iddo wrthod cais RT am wneud apêl.
Ni fu ymddiriedaeth mewn newyddion a materion cyfoes erioed yn bwysicach, ac roedd methiannau RT i gynnal didueddrwydd dyladwy yn ddifrifol ac yn niferus.
Rydym yn croesawu gwrthodiad y Goruchaf Lys i glywed apêl RT yn erbyn ein penderfyniadau, a oedd yn ymateb teg a chymesur i'w methiannau, gan roi ystyriaeth lawn i'r hawl i ryddid mynegiant.
Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu a Chynnwys Ar-lein Ofcom