Nod yr adran hon yw sicrhau bod darlledwyr yn osgoi trin unigolion neu sefydliadau'n anghyfiawn neu'n annheg mewn rhaglenni teledu
Mae’r adran hon a’r adran ddilynol ar breifatrwydd yn wahanol i adrannau eraill y Cod. Maent yn ymwneud â’r modd y mae darlledwyr yn trin yr unigolion neu gyrff y mae rhaglenni’n effeithio arnynt yn uniongyrchol, yn hytrach na’r hyn y mae’r cyhoedd yn ei weld a/neu ei glywed fel gwylwyr a gwrandawyr.
Yn ogystal â chynnwys egwyddor a rheol, mae’r adran hon yn cynnwys “arferion i’w dilyn” gan ddarlledwyr wrth ddelio ag unigolion a chyrff sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni neu’n dod yn uniongyrchol dan eu heffaith fel arall fel y’u darlledwyd. Ni fydd dilyn yr arferion hyn yn fodd i osgoi mynd yn groes i’r adran hon o’ch Cod o reidrwydd (Rheol 7.1). Fodd bynnag, ni fydd methu â dilyn yr arferion hyn ond yn groes i’r Cod os yw’n arwain at annhegwch ag unigolyn neu sefydliad yn y rhaglen. Mae’n bwysig nodi nad yw’r Cod yn gallu nac yn ceisio nodi’r holl “arferion i’w dilyn” er mwyn osgoi triniaeth annheg.
Mae’r darpariaethau canlynol yn yr adran nesaf ar breifatrwydd hefyd yn berthnasol i’r adran hon:
- yr esboniad o fudd cyhoeddus sy'n ymddangos yn ystyr “gyda chyfiawnhad” o dan Reol 8.1 yn Adran wyth: Preifatrwydd;
- ystyr ffilmio neu recordio llechwraidd sy'n ymddangos o dan “arferion i’w dilyn” 8.13 yn Adran Wyth: Preifatrwydd.
(Ymhlith yr eitemau deddfwriaeth perthnasol y mae, yn benodol, adrannau 3(2)(f) a 326 Deddf Cyfathrebiadau 2003 ac adrannau 107(1) a 130 Deddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd), Erthygl 8 y Confensiwn Ewropeaidd ar Deledu Trawsffiniol (ar gyfer Gwasanaethau ECTT yn unig), Erthygl 28 y Gyfarwyddeb Gwasanaethau Cyfryngau Clyweled, Erthygl 10 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a Siarter a Chytundeb y BBC.)
Egwyddor
Sicrhau bod darlledwyr yn osgoi trin unigolion neu gyrff yn anghyfiawn neu’n annheg mewn rhaglenni.
Rheol
7.1 Mae'n rhaid i ddarlledwyr osgoi trin unigolion neu gyrff yn anghyfiawn neu’n annheg mewn rhaglenni.
Arferion i’w dilyn (7.2 i 7.15)
Delio â chyfranwyr yn deg a chael cydsyniad gwybodus
7.2 Fel arfer dylai darlledwyr a gwneuthurwyr rhaglenni ddelio’n deg â chyfranwyr posibl i raglenni oni bai fod cyfiawnhad dros wneud fel arall mewn achosion eithriadol.
7.3 Pan wahoddir rhywun i gyfrannu at raglen (heblaw pan fo’r deunydd yn ddibwys neu’r rhan y mae’n ei chymryd ynddi’n fach) dylid gwneud y canlynol fel arfer ar adeg briodol:
- eu hysbysu am natur a phwrpas y rhaglen, yr hyn sydd dan sylw yn y rhaglen a rhoi eglurhad clir iddynt am y rheswm dros ofyn iddynt gymryd rhan a pha bryd (os yw’n hysbys) ac ym mhle y mae’n debygol o gael ei darlledu gyntaf;
- rhoi gwybod iddynr am y math o gyfraniad a ddisgwylir ganddynr, er enghraifft, p'un a fydd byw, wedi’i recordio ymlaen llaw, cyfweliad, trafodaeth, wedi’i olygu, heb ei olygu, ayb.;
- eu hysbysu am y meysydd y bydd y cwestiynau’n ymwneud â hwy a, phryd bynnag y bo’n bosibl, natur y cyfraniadau tebygol eraill;
- eu hysbysu am unrhyw newidiadau pwysig yn y rhaglen wrth iddi ddatblygu a allai effeithio’n rhesymol ar y cydsyniad gwreiddiol i gymryd rhan, ac a allai achosi annhegwch materol;
- eu hysbysu am natur eu hawliau a’u rhwymedigaethau contractol a'r rhai sy'n berthnasol i wneuthurwr y rhaglen a’r darlledwr mewn cysylltiad â’u cyfraniad;
- rhoi gwybodaeth glir, os cynigir cyfle i weld y rhaglen cyn ei darlledu, p'un a fyddant yn gallu peri unrhyw newidiadau ynddi ai beidio; a
- chael eu hysbysu am risgiau posib a allai ddeillio o'u cyfranogiad mewn rhaglen a allai effeithio ar eu llesiant (i'r graddau y gellir rhagweld y rhain yn rhesymol ar y pryd) ac unrhyw gamau y mae'r darlledwr a/neu wneuthuwr rhaglen yn bwriadu eu cymryd i liniaru'r rhain.[1]
Drwy gymryd y camau hyn, mae’n debygol y bydd y cydsyniad a roddir yn ‘gydsyniad gwybodus’ (a elwir yn yr adran hon ac yng ngweddill y Cod yn “gydsyniad”).
Gallai fod yn deg atal y cwbl neu rywfaint o’r wybodaeth hon os oes cyfiawnhad dros wneud hynny er lles y cyhoedd neu o dan ddarpariaethau eraill yr adran hon o’r Cod.
7.4 Os yw'r sawl sy'n cyfrannu o dan un ar bymtheg oed, dylid cael cydsyniad fel arfer gan riant neu warcheidwad, neu gan rywun arall sy’n ddeunaw oed neu’n hŷn yn lle rhiant. Yn benodol, ni ddylid gofyn i rywun o dan un ar bymtheg oed am eu barn am faterion sy’n debygol o fod y tu hwnt i’w gallu i ateb yn briodol heb gael cydsyniad o’r fath.
7.5 Yn achos pobl dros un ar bymtheg oed nad ydynt mewn sefyllfa i roi cydsyniad, dylai rhywun sy’n ddeunaw oed neu’n hŷn sydd â’r prif gyfrifoldeb dros eu gofal roi cydsyniad ar eu rhan fel arfer. Yn benodol, ni ddylid gofyn i bobl nad ydynt mewn sefyllfa i roi cydsyniad am eu barn am faterion sy’n debygol o fod y tu hwnt i’w gallu i ateb yn briodol heb gael y fath gydsyniad.
7.6 Os yw rhaglen wedi’i golygu, dylid cyfleu cyfraniadau’n deg.
7.7 Fel arfer dylid anrhydeddu gwarantau a roddir i gyfranwyr, er enghraifft, ynghylch cynnwys rhaglen, cyfrinachedd neu anhysbysrwydd.
7.8 Dylai darlledwyr sicrhau na fydd ailddefnyddio deunydd, h.y. defnyddio deunydd a gafodd ei ffilmio neu ei recordio’n wreiddiol at un diben a’i ddefnyddio wedyn at ddiben arall neu ei ddefnyddio mewn rhaglen ddiweddarach neu un wahanol, yn creu annhegwch. Mae hyn yn berthnasol i ddeunydd a gafwyd gan eraill a deunydd y darlledwr ei hun.
Cyfle i gyfrannu a rhoi ystyriaeth briodol i ffeithiau
7.9 Cyn darlledu rhaglen ffeithiol, gan gynnwys rhaglenni sy’n edrych ar ddigwyddiadau yn y gorffennol, dylai darlledwyr gymryd gofal rhesymol i’w bodloni eu hunain:
- nad yw ffeithiau perthnasol wedi’u cyflwyno, eu diystyru neu eu gadael allan mewn modd sy’n annheg ag unigolyn neu gorff; a
- y cynigiwyd cyfle i gyfrannu i unrhyw un y byddai ei adael allan yn gallu bod yn annheg i unigolyn neu sefydliad.
7.10 Ni ddylai rhaglenni – fel dramâu a dramâu sydd â sail ffeithiol – bortreadu ffeithiau, digwyddiadau, unigolion neu gyrff mewn modd sy’n annheg i unigolyn neu gorff.
7.11 Os bydd rhaglen yn gwneud honiadau am ddrwgweithredu neu diffyg cymhwystra neu’n gwneud honiadau arwyddocaol eraill, dylid fel arfer roi cyfle priodol ac amserol i ymateb i’r rhai dan sylw.
7.12 Os bydd rhywun y cysylltwyd ag ef i ofyn iddynt gyfrannu at raglen yn dewis peidio â gwneud sylw neu’n gwrthod ymddangos mewn darllediad, dylai’r darllediad egluro bod yr unigolion dan sylw wedi dewis peidio ag ymddangos a dylai roi eu heglurhad os byddai’n annheg peidio â gwneud hynny.
7.13 Os yw’n briodol cyfleu barn rhywun neu gorff nad yw’n cymryd rhan yn y rhaglen, rhaid gwneud hynny mewn modd teg.
Twyll, dal pobl yn annisgwyl a galwadau ‘cynhyrfu’
7.14 Fel arfer ni ddylai darlledwyr neu wneuthurwyr rhaglenni gael neu geisio gwybodaeth, sain, lluniau neu gytundeb i gyfrannu drwy gamliwio neu dwyll. (Mae twyll yn cynnwys ffilmio neu recordio llechwraidd.) Fodd bynnag:
- mae’n bosibl y byddai cyfiawnhad dros ddefnyddio deunydd a gafwyd drwy gamliwio neu dwyll heb ganiatâd os yw er lles y cyhoedd ac os na ellir ei gael yn rhesymol fel arall;
- os nad oes cyfiawnhad digonol ar sail budd cyhoeddus, er enghraifft, rhai galwadau cynhyrfu nas gofynnir amdanynt neu drefniadau i ddal pobl yn annisgwyl er mwyn difyrrwch, dylid cael cydsyniad gan yr unigolyn a/neu gorff dan sylw cyn darlledu’r deunydd;
- os na ellir adnabod yr unigolyn a/neu sefydliad yn y rhaglen, ni fydd angen cael cydsyniad i ddarlledu;
- gellir defnyddio deunydd sy’n cynnwys pobl enwog a’r rhai sydd yn llygad y cyhoedd heb gael cydsyniad i ddarlledu, ond ni ddylid ei ddefnyddio heb fod cyfiawnhad ar sail budd cyhoeddus os yw’n debygol o’u gwneud yn destun gwawd cyhoeddus neu o beri gofid personol nad oes modd eu cyfiawnhau. (Fel arfer, felly, dylid recordio cyfraniadau o’r fath cyn eu darlledu.)
(Gweler “arferion i’w dilyn” 8.11 i 8.15 yn Adran Wyth: Preifatrwydd.)
7.15: Dylai darlledwyr gymryd gofal dyladwy dros lesiant cyfrannwr a allai wynebu risg o niwed sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglen, ac eithrio pan fo'r pwnc yn ddibwys neu fod eu cyfranogiad yn fach.
Gellir ystyried bod cyfrannwr yn wynebu risg o niwed sylweddol o ganlyniad i gymryd rhan mewn rhaglen am resymau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y canlynol:
- fe'i ystyrir yn rhywun sy'n agored i niwed;
- nid yw wedi'i arfer â bod yn llygad y cyhoedd;
- mae'r rhaglen yn ymwneud â chael ei ffilmio mewn amgylchedd sy'n artiffisial neu ffuantus;
- mae'r rhaglen yn debygol o ddenu lefel uchel o ddiddordeb gan y wasg, y cyfryngau a chyfryngau cymdeithasol;
- mae elfennau golygyddol allweddol y rhaglen o bosib yn cynnwys cyfwynebiad, gwrthdaro neu sefyllfaoedd emosiynol heriol; neu
- mae'r rhaglen yn mynnu iddynt drafod, datgelu neu fynd i'r afael ag agweddau sensitif, trawsnewidiol neu breifat ar eu bywydau.[2]
Ystyr "person sy'n agored i niwed
Am ystyr "agored i niwed" gweler Arferion 8.21 ac 8.22 mewn perthynas â "phobl sy'n agored i niwed".
Dylai darlledwyr gynnal asesiad risg i nodi unrhyw risg o niwed sylweddol i'r cyfrannwr, oni ellir cyfiawnhau ei fod er budd y cyhoedd i beidio â gwneud hynny.
Bydd lefel y gofal sy'n ddyledus i'r cyfrannwr yn gymesur â lefel y risg sy'n gysylltiedig â'i gyfranogiad yn y rhaglen.
(Gweler "arferion i'w dilyn" 7.3, 8.21 ac 8.2).
Troednodiadau:
[1] Daw'r mesur terfynol hwn i rym ar gyfer rhaglenni y dechreuir ar y gwaith o'u cynhyrchu ar neu ar ôl dydd Llun 5 Ebrill 2021.
[2] Daw'r Arfer i'w Ddilyn hwn i rym ar gyfer rhaglenni y dechreuir ar y gwaith o'u cynhyrchu ar neu ar ôl dydd Llun 5 Ebrill 2021.