Gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion, ymchwiliadau a sancsiynau ar y teledu, radio a gwasanaethau fideo-ar-alw

Cyhoeddwyd: 12 Ionawr 2016
Diweddarwyd diwethaf: 22 Tachwedd 2024

Trwyddedeion teledu a radio

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Gweithdrefnau Ofcom ar gyfer delio â chwynion a datrys cwynion (neu ar gyfer cynnal ei ymchwiliadau ei hun) ynghylch cydymffurfiad darlledwyr1 â'r safonau cynnwys sydd wedi cael eu gosod o dan adran 319 Deddf Cyfathrebiadau 2003 (“Deddf 2003”). Daeth y Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i dorri safonau cynnwys ar gyfer teledu a radio (PDF, 287.2 KB)

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu gweithdrefnau Ofcom ar gyfer ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion Tegwch a Phreifatrwydd mewn perthynas â rhaglenni a ddarlledir ar y teledu ac ar y radio, a chydymffurfiaeth darlledwyr â “chod tegwch” Ofcom o dan adran 107 Deddf Darlledu 1996 (fel y’i diwygiwyd), (“Deddf 1996”) gweler y “fframwaith statudol” isod. Daeth y Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

Gweithdrefnau ar gyfer ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion Tegwch a Phreifatrwydd (PDF, 269.7 KB)

Ffurflen Gwyno Tegwch a Phreifatrwydd (PDF, 157.8 KB)

Mae Ofcom wedi cynhyrchu gweithdrefnau penodol sy’n berthnasol i ymchwiliadau i achosion posibl o dorri categorïau penodol o ofynion rheoleiddiol nad ydynt yn dod o dan y gweithdrefnau isod.

Categori gofyniad rheoleiddio

Gweithdrefn benodol

Amcanion safonau o ran cynnwys a nodir o dan adran 319 Deddf 2003 ac wedi'u cymhwyso yng Nghod Darlledu Ofcom a chodau eraill.

Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i dorri safonau cynnwys ar gyfer teledu a radio.

Gofynion o ran tegwch a/neu breifatrwydd a nodir o dan Ran 5 Deddf 1996 ac wedi'u cymhwyso yng Nghod Darlledu Ofcom.

Gweithdrefnau ar gyfer ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion Tegwch a Phreifatrwydd.

Amodau trwydded a chodau perthnasol i sicrhau cystadleuaeth deg ac effeithiol wrth ddarparu gwasanaethau darlledu.

Gweithdrefnau gorfodi: canllawiau Ofcom ar gyfer ymdrinâ chwynion am gystadleuaeth a chwynion o ran rheolau rheoleiddio.

Y gweithdrefnau cyffredinol a nodir yn y ddogfen hon yw'r rhai y bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn wrth ymchwilio i ddarganfod a dorrwyd “gofyniad perthnasol” (fel y nodir ym mharagraff 1.13 isod), cyn y gellir cymryd unrhyw gamau dan y gweithdrefnau ar gyfer ystyried sancsiynau statudol mewn achosion o dorri amodau trwyddedau darlledu (“y gweithdrefnau sancsiynau”).

Gall Ofcom lansio ymchwiliadau ar ei menter ei hun yn ogystal ag ymchwilio i gwynion a wnaed gan bobl eraill. Mae’r gweithdrefnau cyffredinol mewn ymchwiliad a ysgogir gan gan gŵyn ac ymchwiliad a ddechreuwyd gan Ofcom yr un fath.

Daeth y gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017. Gallan nhw, ac unrhyw arweiniad cysylltiedig, gael eu hadolygu a'u diwygio ar unrhyw adeg.

Gweithdrefnau cyffredinol ar gyfer ymchwilio i achosion o dorri amodau trwyddedau darlledu
(PDF, 309.6 KB)

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu'r gweithdrefnau y bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn wrth ystyried penderfyniad ar sancsiwn yn erbyn darlledwyr am dorri unrhyw un o ofynion ei drwydded; neu yn achos y BBC neu S4C, nad ydynt yn dal trwydded, unrhyw ofyniad perthnasol y gellir ei orfodi. Daeth y gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

Gweithdrefnau ar gyfer ystyried sancsiynau statudol mewn achosion o dorri amodau trwyddedau darlledu (PDF, 246 KB)

Mae'r Canllawiau hyn yn amlinellu sut y bydd Ofcom yn ymchwilio i gydymffurfiaeth ag amodau gysylltedig â chystadleuaeth mewn trwyddedau o dan y Ddeddf Darlledu ac yn ymdrin â gorfodi yn y cyswllt hwn.

Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i dorri amodau gysylltiedig â chystadleuaeth mewn trwyddedau o dan y Ddeddf Ddarlledu (PDF, 784.7 KB) (Saesneg yn unig)


Gweithdrefnau'r BBC

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Gweithdrefnau Ofcom ar gyfer trin a datrys cwynion (neu gynnal ei hymchwiliadau ei hun) ynghylch cydymffurfiaeth y BBC â'r safonau cynnwys a bennwyd o dan adran 319 Deddf Cyfathrebiadau 2003 (“Deddf 2003”) a Siarter a Chytundeb y BBC. Daeth y Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i achosion o dorri safonau cynnwys ar wasanaethau darlledu’r BBC a gwasanaethau rhaglenni ar-alw y BBC (PDF, 223.2 KB) (22 Tachwedd 2024)

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r Gweithdrefnau y bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn wrth ystyried penderfynu ynghylch sancsiwn yn erbyn y BBC mewn perthynas â thorri safonau cynnwys (gan gynnwys mewn perthynas â Thegwch a Phreifatrwydd) ar Wasanaethau Darlledu Cyhoeddus yn y DU (“gwasanaethau darlledu’r BBC”) a Gwasanaethau Rhaglenni Ar-alw Cyhoeddus yn y DU (“gwasanaethau rhaglenni ar-alw y BBC”) a ddarperir gan y BBC. Daeth y Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

Gweithdrefnau sy’n cael eu cynnig ar gyfer ystyried sancsiynau am dorri safonau cynnwys ar wasanaethau darlledu’r BBC a gwasanaethau rhaglenni ar-alw y BBC (PDF, 227.4 KB)

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r Gweithdrefnau y bydd Ofcom yn eu defnyddio i ystyried a dyfarnu ar gwynion sy’n ymwneud â Thegwch a Phreifatrwydd mewn perthynas â chydymffurfiaeth y BBC â “chod tegwch” Ofcom a bennwyd o dan adran 107 Deddf Darlledu 1996 (“Deddf 1996”) a Siarter a Chytundeb y BBC. Daeth y Gweithdrefnau hyn i rym ar 3 Ebrill 2017.

Gweithdrefnau ar gyfer ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion sy’n ymwneud â Thegwch a Phreifatrwydd ar wasanaethau darlledu’r BBC a gwasanaethau rhaglenni ar-alw y BBC (PDF, 293.0 KB)

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu ein gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i:

  • achosion lle mae'r BBC wedi torri gofynion penodol a ddisgrifiwyd yn y Cytundeb; a
  • methiant ar ran y BBC i gydymffurfio â chamau gorfodi Ofcom yn unol ag unrhyw un o gamau gorfodi Ofcom y gellir eu cymhwyso i'r BBC.

Gweithdrefnau ar gyfer gorfodi gofynion yng Nghytundeb y BBC a chydymffurfiaeth â chamau gorfodi Ofcom
(PDF, 234.2 KB)
(Saesneg yn unig)

Mae'r ddogfen hon yn amlinellu sut mae Ofcom yn gorfodi cydymffurfiaeth â'r gofynion cystadleuaeth sy'n berthnasol i'r BBC.

Gweithdrefnau ar gyfer gorfodi gofynion cystadleuaeth y BBC (Saesneg yn unig)

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gweithdrefnau y bydd Ofcom yn eu dilyn fel rheol wrth ymdrin â chwynion am safonau golygyddol deunydd ar-lein y BBC.

Gweithdrefnau ar gyfer trin cwynion safonau golygyddol deunydd ar-lein y BBC

Darparwyr Gwasanaethau Ar-Alw (ODPS)

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu Gweithdrefnau Ofcom ar gyfer trin a datrys cwynion (neu gynnal ei hymchwiliadau ei hun) am achosion posib o dorri rheolau sy’n berthnasol i wasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS). Daeth y Gweithdrefnau i rym ar 11 Medi 2023.

Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i dorri’r rheolau ar gyfer gwasanaethau rhaglenni ar-alw (PDF, 273.7 KB)

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gweithdrefnau bydd Ofcom fel rheol yn eu dilyn wrth ystyried penderfynu ar sancsiwn yn erbyn darparwr gwasanaeth rhaglenni ar-alw am fynd yn groes i un (neu ragor) o’r gofynion a bennwyd ar ei gyfer o dan Ran 4A Deddf Cyfathrebiadau 20032 (y “Ddeddf”). Yn y ddogfen hon, cyfeirir at y gofynion hyn fel “gofynion perthnasol."

Gweithdrefnau Ofcom ar gyfer ystyried sancsiynau statudol sy’n codi yng nghyd-destun gwasanaethau rhaglenni ar-alw (PDF, 177.8 KB)

Yn ôl i'r brig