Mae Ofcom wedi rhoi cosb ariannol o £100,000 i GB News am dorri rheolau didueddrwydd dyladwy.
Canfu ymchwiliad cynharach Ofcom na chafodd ystod digon eang o safbwyntiau arwyddocaol eu cyflwyno na chael digon o bwys yn People’s Forum: The Prime Minister – rhaglen materion cyfoes fyw, awr o hyd a ddarlledwyd ar 12 Chwefror 2024 – ac ni chafwyd diwydrwydd dyladwy drwy raglenni amserol a oedd wedi’u cysylltu’n glir.
O ganlyniad, daethom i’r casgliad bod y Prif Weinidog bryd hynny, Rishi Sunak, wedi cael llwyfan diwrthwynebiad gan fwyaf i hyrwyddo polisïau a pherfformiad ei Lywodraeth mewn cyfnod cyn Etholiad Cyffredinol yn y DU yn y rhaglen hon, a oedd yn torri Rheolau 5.11 a 5.12 o’r Cod Darlledu.
Ac ystyried difrifoldeb a natur ailadroddus torri’r Rheolau hyn, mae Ofcom wedi rhoi cosb ariannol o £100,000 i GB News Limited. Rydym hefyd wedi rhoi cyfarwyddyd i GB News ddarlledu datganiad o’n canfyddiadau yn ei herbyn, ar ddyddiad ac mewn fformat byddwn ni’n penderfynu arnynt.
Mae GB News yn herio ein penderfyniad gwreiddiol y torrwyd y rheolau yn yr achos hwn drwy adolygiad barnwrol, ac rydym yn amddiffyn hynny. Ni fydd Ofcom yn gorfodi’r penderfyniad sancsiwn hwn nes bydd yr achos hwnnw wedi dod i ben.