Cyfrifoldeb y darlledwr yw cydymffurfio â’r Cod. Os oes ar wneuthurwyr rhaglenni angen cyngor pellach ynghylch cymhwyso’r Cod hwn, dylent siarad, yn y lle cyntaf, â’r rhai sydd â chyfrifoldeb golygyddol dros y rhaglen a swyddogion cyfreithiol a chydymffurfio’r darlledwr.
Gall Ofcom gynnig arweiniad cyffredinol ar ddehongli’r Cod. Fodd bynnag, rhoddir unrhyw gyngor o’r fath ar yr amod glir na fydd yn effeithio ar ddisgresiwn Ofcom i farnu ynghylch achosion a chwynion ar ôl darlledu ac na fydd yn effeithio ar yr arfer ar gyfrifoldebau rheoleiddio Ofcom. Dylai darlledwyr geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain ar unrhyw faterion sy’n codi ynghylch cydymffurfio. Ni fydd Ofcom yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a geir o ddibynnu ar arweiniad anffurfiol.