Penderfyniad – Word Network Operating Company Inc

Cyhoeddwyd: 11 Mawrth 2025

Mae Ofcom wedi rhoi cosb ariannol o £150,000 i Word Network Operating Company Inc (“y Trwyddedai”) ar ôl i’n hymchwiliad ganfod bod ei wasanaeth, The Word Network, yn torri ein rheolau darlledu.

Roedd dwy bennod o Peter Popoff Ministries, rhaglen grefyddol a gyflwynir gan Peter Popoff, yn cynnwys honiadau a allai fod yn niweidiol – sef y gallai gwylwyr wella sefyllfaoedd ariannol neu gyflyrau iechyd difrifol drwy gysylltu â gweinyddiaeth y cyflwynydd, neu drwy archebu ei “Miracle Spring Water”. Roedd Ofcom yn arbennig o bryderus bod y rhaglenni’n cynnwys datganiadau a thystebau a oedd yn cael eu hailadrodd dro ar ôl tro am effeithiolrwydd y dŵr – gyda phobl yn honni neu’n awgrymu’n gryf bod y dŵr yn gwella cyflyrau difrifol, gan gynnwys canser. Canfu ein Penderfyniad ynghylch Toramod, a gyhoeddwyd ar 4 Rhagfyr 2023, fod y rhaglenni hyn yn torri Rheolau 2.1, 4.6 a 9.4 y Cod Darlledu.

Er ein bod wedi ystyried hawliau’r darlledwr a’r gynulleidfa i ryddid mynegiant a chrefydd, roeddem o’r farn bod yr honiadau y gellid gwella cyflyrau meddygol difrifol neu anawsterau ariannol drwy gysylltu â’r weinyddiaeth neu ddefnyddio ei “Miracle Spring Water”, yn mynd y tu hwnt i ddatganiadau ffydd a dysgeidiaeth ac arferion crefyddol. Roeddem o’r farn bod yr honiadau hyn yn manteisio’n amhriodol ar deimladau gwylwyr a bod ganddynt y potensial i achosi niwed heb i’r Trwyddedai ddarparu digon o warchodaeth (e.e. drwy beidio â chynnwys gwybodaeth am bwysigrwydd ceisio cyngor gan weithwyr proffesiynol cymwys).

O ystyried difrifoldeb y toramodau ac er mwyn unioni’r niwed posibl i wylwyr, mae Ofcom hefyd wedi mynnu bod y Trwyddedai yn peidio ag ailadrodd y rhaglenni, a’i fod yn darlledu datganiad o ganfyddiadau’r achos hwn – ar ddyddiad ac ar ffurf i’w pennu gan Ofcom.

Penderfyniad Sancsiwn - The Word Network Operating Company (PDF, 353.41 KB)

Yn ôl i'r brig