Datganiad: Adolygiad Ofcom o'r sianel deledu BBC Three arfaethedig

Cyhoeddwyd: 16 Medi 2021
Ymgynghori yn cau: 14 Hydref 2021
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad a gyhoeddwyd 25 Tachwedd 2021

Mae'r BBC wedi cyflwyno cynnig i ail-lansio BBC Three fel sianel ddarlledu. Mae wedi ymgynghori ac wedi hynny ymgymryd â Phrawf Lles y Cyhoedd (‘PIT’) ar ei chynlluniau.

Yn unol â gofynion Siarter a Chytundeb y BBC, rydym wedi cyflawni asesiad cystadleuaeth. Rydym wedi adolygu sut mae'r BBC wedi datblygu ei chynigion a'i hasesiad o'u gwerth cyhoeddus, yn ogystal ag asesu effaith cynigion y BBC ar gystadleuaeth. Gwnaethom ymgynghori ar ein penderfyniad dros dro y gallai'r BBC fwrw ymlaen â'r cynlluniau ac rydym wedi ystyried adborth gan randdeiliaid mewn ymateb.

Yn y ddogfen hon rydym yn esbonio ein penderfyniad terfynol y gall y BBC fwrw ymlaen â'i chynnig.

Yn unol  â gofynion  Siarter a Chytundeb y BBC, rydym yn ystyried cynigion y BBC trwy asesiad cystadleuaeth o'r BBC (BCA).

Rydym wedi cyhoeddi ein casgliadau dros dros y dylid caniatáu i'r BBC ail-lansio BBC Three fel sianel deledu ddarlledu. Rydym yn awr yn ceisio barn gan sefydliadau ac unigolion sydd â diddordeb neu sydd wedi'u heffeithio ar ein casgliadau dros dro.

Rydym wedi cwblhau ein hasesiad cychwynnol o gynnig y BBC i lansio BBC Three fel sianel deledu yn Ionawr 2022.

Er mwyn diogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol, mae’n rhaid i Ofcom archwilio unrhyw newidiadau arwyddocaol y mae’r BBC yn dymuno eu gwneud i’w gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein. Cyhoeddodd y BBC gynnig i lansio BBC Three fel sianel deledu yn Ionawr 2022. Mae wedi ymgymryd â phrawf lles y cyhoedd ac mae Bwrdd y BBC wedi dod i’r casgliad bod y cynnig yn pasio’r prawf lles y cyhoedd.

Ar 8 Gorffennaf 2021, bu i ni gyhoeddi ‘gwahoddiad i roi sylwadau’ ar ddechrau ein hasesiad o gynnig y BBC. Rydym yn nawr wedi ysgrifennu at y BBC i gyflwyno ein casgliadau o’n hasesiad cychwynnol a’r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd.

Contact information

Yn ôl i'r brig