Ymgynghoriad: Adnewyddu trwyddedau radio masnachol lleol

Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr 2024
Ymgynghori yn cau: 5 Chwefror 2025
Statws: Agor

Mae Deddf y Cyfryngau 2024 yn gwneud nifer o newidiadau i’r ffordd y caiff y sector radio masnachol ei reoleiddio.

Mae hyn yn cynnwys llwybr newydd ar gyfer adnewyddu trwyddedau masnachol analog lleol.  Hyd yn hyn, dim ond os yw deiliad y drwydded analog hefyd yn darlledu gwasanaeth radio digidol ar amlblecs DAB perthnasol y mae adnewyddu wedi bod ar gael. Fodd bynnag, o dan y Ddeddf, gall trwyddedai bellach wneud cais am adnewyddu os nad oes amlblecs DAB ‘addas’ ar gael.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi sut rydym yn bwriadu penderfynu a yw amlblecs yn ‘addas’. Rydym yn croesawu safbwyntiau gan randdeiliaid ar ein cynigion ac unrhyw ffactorau eraill sy’n werth eu hystyried wrth benderfynu a yw amlblecs yn addas ar gyfer anghenion trwyddedai o dan y Llwybr Adnewyddu Newydd a nodir yn ein hymgynghoriad.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad.

Sut i ymateb

Cyfeiriad

Ymgynghoriad ar Ran 5 o’r Ddeddf Cyfryngau
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
Llundain SE1 9HA

Yn ôl i'r brig