Datganiad: Niferoedd hysbysebion teledu a'u hamserlennu ar sianeli gwasanaeth cyhoeddus

Cyhoeddwyd: 19 Ebrill 2023
Ymgynghori yn cau: 31 Mai 2023
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 19 Medi 2023

Mae sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) a ariennir yn fasnachol yn y DU wedi bod yn destun rheolau llymach o ran niferoedd hysbysebion teledu a'u hamserlennu na sianeli masnachol eraill ers 1991 - cafodd y rheolau gwahaniaethol hyn eu cyflwyno gan ragflaenydd Ofcom, y Comisiwn Teledu Annibynnol.

Bu newidiadau sylweddol yn y ffordd y mae teledu'n cael ei ddosbarthu a'i wylio ers hynny, gan gynnwys ehangu teledu aml-sianel a chyflwyno gwasanaethau teledu ar-alw a ffrydio ar-lein.

Yn dilyn ymgynghoriad ym mis Ebrill 2023 i geisio mewnbwn ar ein barn dros dro nad yw'r cyfyngiadau hysbysebu llymach ar sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi'u cyfiawnhau nac yn gymesur mwyach, rydym wedi penderfynu peidio â dileu'r rheolau hysbysebu llymach sy'n berthnasol dim ond i sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus am y tro.

Mae'r datganiad hwn yn amlinellu'r rhesymu y tu ôl i'n penderfyniad ac yn nodi ein bwriad i adolygu'r safbwynt hwn fel rhan o'n hystyriaeth o newidiadau eraill i'r system darlledu gwasanaeth cyhoeddus dros y blynyddoedd nesaf.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Content Policy
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA

Yn ôl i'r brig