Mae’r adroddiad hwn yn nodi i ba raddau roedd sianeli teledu sy’n cael eu darlledu a gwasanaethau rhaglenni ar-alw wedi darparu is-deitlau, disgrifiadau sain a/neu iaith arwyddion (“gwasanaethau mynediad”, gyda’i gilydd) rhwng mis Ionawr a mis Rhagfyr 2023.
Mae’r rheolau statudol ar gyfer gwasanaethau sy’n cael eu darlledu yn wahanol i’r rhai ar gyfer gwasanaethau ar-alw. O dan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, mae’n rhaid i sianeli teledu sy’n cael eu darlledu sicrhau bod cyfran benodol o’u rhaglenni’n hygyrch; mae Cod Ofcom ar Wasanaethau Mynediad ar gyfer Teledu yn nodi’r rhwymedigaethau hyn.
Nid yw gwasanaethau ar-alw (gan gynnwys gwasanaethau dal-i-fyny) o dan unrhyw rwymedigaeth statudol i ddarparu gwasanaethau mynediad ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae Ofcom wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl anabl, cyn belled ag y bo modd, yn gallu cael gafael ar wasanaethau teledu a gwasanaethau ar-alw, gan eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn bywyd cymdeithasol a diwylliannol. Mae Bil y Cyfryngau yn cael ei ystyried gan Senedd y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, ac mae’n cynnwys gofynion hygyrchedd ar gyfer rhai gwasanaethau ar-alw, yn dilyn cyfres o argymhellion gan Ofcom (ym mis Rhagfyr 2018 a mis Gorffennaf 2021).
Targedau ar gyfer sianeli teledu sy’n cael eu darlledu
Mae’n rhaid i ddarlledwyr gyrraedd targedau ar gyfer y gwahanol wasanaethau mynediad maen nhw’n eu darparu ar eu sianeli. Mae’r targedau hyn yn cael eu cyfrifo ar sail fforddiadwyedd ac am faint o amser y mae’n rhaid i’r sianel ddarparu gwasanaethau mynediad. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae’r cwotâu hyn yn cael eu cyfrifo ar gael yng Nghod Gwasanaethau Mynediad Ofcom (PDF, 350.5 KB).
Mae’r cwotâu blynyddol ar gyfer sianeli sy’n cael eu darlledu yn cael eu dangos fel canran o’r oriau y mae’n rhaid eu darparu gyda phob gwasanaeth mynediad. Er hwylustod, mae Ofcom yn nodi un ffigur ar gyfer y ddarpariaeth o wasanaethau mynediad ar gyfer pob sianel. Fodd bynnag, mae’r cwotâu’n berthnasol ar bob llwyfan darparu lle mae gwasanaeth yn cael ei reoleiddio.
Gall sianeli gyda rhwng 0.05% a 1% o gyfran y gynulleidfa naill ai ddarlledu 75 munud o raglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion bob mis neu gymryd rhan yn nhrefniadau amgen sydd wedi’u cymeradwyo gan Ofcom, sy’n cyfrannu at sicrhau bod rhaglenni ar gael sy'n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion.
Pan fydd "Cyfraniad BSLBT" yn cael ei ddangos yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y darlledwr wedi gwneud cyfraniad i Ymddiriedolaeth Darlledu Iaith Arwyddion Prydain (BSLBT), sy'n comisiynu rhaglenni sy’n cael eu cyflwyno drwy iaith arwyddion ac sy’n cael eu darlledu ar sianeli Film4 a Together.
Pan fydd “Eithriad” yn cael ei nodi yn yr adroddiad, mae hyn yn dangos bod y sianeli hyn wedi’u heithrio rhag darparu disgrifiadau sain. Mae hyn oherwydd natur y cynnwys sy’n cael ei ddarlledu ar y gwasanaethau hyn sy’n golygu nad oes llawer o le yn y deunydd sain i ddarparu disgrifiadau sain.
Darpariaeth ar draws 2023
Yn 2023, roedd pob sianel ond un yn bodloni neu’n rhagori ar eu gofynion i ddarparu gwasanaethau mynediad. Nid oedd Discovery Corporate Services Limited wedi darparu’n ddigonol yn erbyn ei ofyniad o 10% o ddisgrifiadau sain ar y gwasanaeth DMAX, gan ddarparu 9.1%. Byddwn yn dilyn y gweithdrefnau perthnasol (PDF, 296.7 KB) i ymchwilio i’r ffaith nad yw gwasanaethau mynediad wedi cael eu darparu’n ddigonol.
Mae Ofcom yn falch o weld bod llawer o sianeli’n parhau i ragori ryw faint ar y gofynion sylfaenol, yn enwedig mewn perthynas â disgrifiadau sain lle mae 13 o sianeli bellach yn darparu disgrifiadau sain ar dros 50% o’u rhaglenni. Mae hyn wedi cynyddu o saith sianel yn 2022.
Mae Ofcom yn rheoleiddio ystod eang o wasanaethau rhaglenni ar-alw, gan gynnwys gwasanaethau dal-i-fyny darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a gwasanaethau ffilm i danysgrifwyr. Nid yw gwasanaethau rhaglenni ar-alw o dan unrhyw rwymedigaeth statudol i ddarparu gwasanaethau mynediad ar hyn o bryd. Serch hynny, rydyn ni’n gofyn i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw gyflwyno data ynghylch i ba raddau maen nhw’n sicrhau bod eu gwasanaethau yn hygyrch i bobl sydd â nam ar eu clyw a/neu ar eu golwg. Gall nifer y darparwyr sy’n ymateb – a pha ddarparwyr sy’n ymateb – amrywio, ac mae hyn yn golygu bod unrhyw dueddiadau rydyn ni’n eu nodi yma yn debyg o ddigwydd.
Roedd cyfran y darparwyr a ymatebodd i’r cais hwn a oedd yn cynnig pob gwasanaeth mynediad, wedi cynyddu’n sylweddol rhwng 2022 a 2023. Yn 2023, roedd 89.1% o’r darparwyr a ymatebodd yn cynnig isdeitlau (wedi cynyddu o 79.6% yn 2022). Roedd 22.6% o’r darparwyr a ymatebodd yn cynnig gwasanaeth iaith arwyddion (wedi cynyddu o 14.8% yn 2022) ac roedd 32.1% yn cynnig disgrifiadau sain (i fyny o 22.2% yn 2022).
Gan edrych yn unig ar y gwasanaethau lle roedd gwasanaethau mynediad yn cael eu cynnig, daliwyd i weld cynnydd yn 2023 yng nghyfran y cynnwys sydd ag isdeitlau: cafodd 83.3% o oriau rhaglenni eu hisdeitlo gan y rheini a ymatebodd yn 2023 (i fyny o 71.9% yn 2022), a chafodd 25.8% o oriau rhaglenni ddisgrifiadau sain (wedi cynyddu o 15.8% yn 2022). Fodd bynnag, roedd canran yr oriau rhaglenni sydd ag iaith arwyddion wedi gostwng rhywfaint o 2.2% yn 2022 i 1.9% yn 2023.
Ochr yn ochr â’n cais am wybodaeth, fe wnaethom ofyn i ddarparwyr nodi beth oedd y rhwystrau rhag darparu mwy o wasanaethau mynediad. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, y rhwystr mwyaf cyffredin a nodwyd oedd cost, gan gynnwys adnoddau a hyfforddi staff. Tynnodd llawer o ddarparwyr sylw at fethiant darparwyr cynnwys trydydd parti i gynnwys ffeiliau gwasanaeth mynediad gyda chynnwys wedi’i brynu adeg gwerthu rhaglenni (sy’n golygu bod angen i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw greu gwasanaethau mynediad o’r newydd hyd yn oed pan fyddan nhw eisoes yn bodoli).
Cyfeiriodd ymatebwyr hefyd at ddiffyg atebion safonol ar gyfer galluogi gwasanaethau mynediad ar lwyfannau trydydd parti (er enghraifft, blychau pen-set, setiau teledu clyfar, consolau gemau, ac ati). Mae hyn yn gallu golygu costau datblygu technegol ychwanegol a mwy cymhleth i ddarparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw. Soniodd darparwyr eraill am broblemau parhaus gyda rhai hen lwyfannau nad ydynt yn cefnogi rhai ffeiliau gwasanaeth mynediad. Serch hynny, mae’r ffigurau o 2023 yn dal i awgrymu bod darparwyr yn cynyddu’r amrywiaeth o lwyfannau maen nhw’n gallu eu defnyddio i gynnig gwasanaethau mynediad. Mae cyfran y darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw a wnaeth ymateb, sy’n darparu isdeitlau ar fathau penodol o lwyfannau bellach yn amrywio o 76.9% ar gonsolau gemau i 94.7% ar setiau teledu wedi’u cysylltu a 95.8% ar apiau dyfeisiau symudol.
Bydd Ofcom yn parhau i hwyluso trafodaethau ar draws y diwydiant ynghylch rhannu arferion gorau a’r potensial ar gyfer safoni prosesau ac atebion technegol, drwy weithgor o lwyfannau a darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw. Yn ein canllawiau arferion gorau ar hygyrchedd (PDF, 328.6 KB), a gafodd eu diweddaru a’u datblygu ym mis Ebrill 2024, rydyn ni’n argymell bod darparwyr a chyflenwyr cynnwys yn rhoi ffeiliau gwasanaeth mynediad fel rhan o’r broses o gaffael neu werthu cynnwys fel nad oes costau o ran dyblygu ffeiliau gwasanaeth mynediad.
Yn olaf, fe wnaethom ofyn i ddarparwyr yn gyfrinachol am unrhyw gynlluniau gweithredu ynghylch hygyrchedd sydd ganddynt ar waith ar hyn o bryd. Rydyn ni’n annog darparwyr i ddatblygu cynlluniau o’r fath gyda’r bwriad o fynd ati’n barhaus ac yn raddol i wneud eu gwasanaethau’n fwy hygyrch i bobl anabl. Hoffem weld ystyriaethau am hygyrchedd yn cael eu gwreiddio mewn strategaethau a chynlluniau ehangach i ddatblygu cynnyrch. Mae’n ddyletswydd statudol ar ddarparwyr i roi copi o unrhyw gynlluniau o’r fath i Ofcom.
Adroddiad rhyngweithiol
Rydym wedi darparu’r adroddiad hwn mewn fformat rhyngweithiol er mwyn i chi allu cymharu hygyrchedd gwasanaethau darlledu ac ar-alw ar draws amrywiaeth o lwyfannau.
I gael y profiad gorau, ehangwch i'r sgrin lawn (cliciwch y botwm yn y gornel dde isaf).
Mae’r set ddata lawn hefyd ar gael i’w lawrlwytho ar ffurf CSV.
Os oes gennych chi ofynion hygyrchedd nad ydynt yn cael eu bodloni gan y cyhoeddiadau hyn, a’ch bod yn dymuno gofyn am yr wybodaeth hon mewn fformat gwahanol, gallwch anfon e-bost at accessibility@ofcom.org.uk neu ffonio ein Tîm Cynghori o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00 ar 020 7981 3040 neu 0300 123 3333. Os ydych chi’n fyddar neu â nam ar eich lleferydd, gallwch ddefnyddio ein rhifau ffôn testun, sef 020 7981 3043 neu 0300 123 2024.