Ymgynghoriad: Sicrhau ansawdd gwasanaethau mynediad teledu ac ar-alw

Cyhoeddwyd: 13 Gorffennaf 2023
Ymgynghori yn cau: 21 Medi 2023
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Rydym yn cynnig rhai newidiadau i'n cod gwasanaethau mynediad teledu, gan gynnwys egluro bod angen i wasanaethau mynediad fod o ansawdd digonol i gyfrif tuag at y targedau y gellir eu gorfodi.

Rydym hefyd yn cynnig newidiadau i'n canllawiau arfer gorau, gan eu hehangu i gynnwys cyngor i ddarparwyr gwasanaethau fideo-ar-alw ("VoD") ac i ystyried ffyrdd gwahanol o wylio rhaglenni (e.e. drwy lwyfannau symudol neu ar y we). Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn, rydym yn cynnal ymchwil ymhlith cynulleidfaoedd anabl i gyfeirio ein penderfyniadau terfynol ar y canllawiau ymhellach.

Rydym yn cynnig ehangu ein canllawiau cyffredinol ar wneud rhaglenni'n hygyrch i gynnwys cyngor ychwanegol ar:

  • wasanaethu pobl sydd ag anableddau gwybyddol a niwroddatblygiadol
  • dulliau amgen o wneud rhaglenni'n hygyrch (e.e. gwella hygrededd deialog)
  • cyflunio, opsiynau a dewis ar gyfer gwylwyr
  • gwneud gwybodaeth frys yn hygyrch
  • darparu gwasanaethau mynediad amserol ar gyfer cynnwys VoD
  • monitro ansawdd, gan gynnwys ceisio adborth
  • ystyried materion hygyrchedd yn gynnar yn y broses gynhyrchu cynnwys

Rydym hefyd yn cynnig newidiadau i'r canllawiau penodol mewn perthynas â gwahanol wasanaethau mynediad, gan gynnwys ar gyfer:

Isdeitlo

  • disodli canllawiau penodol ar y ffordd y dylid cyflwyno is-deitlau (e.e. ffontiau/lliwiau penodol) gyda disgrifiad o ganlyniadau allweddol i gynulleidfaoedd, gan gynnwys is-deitlau sy'n hawdd eu darllen, yn amlwg yn erbyn y cefndir ac adnabod siaradwyr yn glir
  • diweddaru'r canllawiau ar yr uchafswm oedi posib mewn isdeitlo byw i ffigur mwy cyraeddadwy (oedi cyfartalog o 4.5 eiliad) i roi cymhelliant i gynnydd
  • disodli'r canllawiau presennol ar gyflymder isdeitlo uchaf gydag egwyddor y dylid cysoni isdeitlo â'r sain yn gyffredinol

Disgrifiadau Sain (AD)

  • cydnabod gwahanol ymagweddau at arddulliau AD
  • cefnogi disgrifiadau o nodweddion gweledol y tu hwnt i'r rhai sy'n uniongyrchol berthnasol i'r plot, gan gynnwys nodweddion amrywiaeth
  • hyrwyddo hygyrchedd ar gyfer mathau o raglenni sy'n llai addas ar gyfer AD traddodiadol, fel newyddion

Iaith arwyddion

  • ychwanegu canllawiau ar gyfer darparwyr VoD, gan gynnwys ymgynghori â defnyddwyr BSL wrth flaenoriaethu gwahanol fathau o gynnwys wedi'i arwyddo
  • ychwanegu y dylai darparwyr ystyried gwahanol ffyrdd o gyrchu cynnwys (e.e. apiau symudol) wrth bennu maint yr arwyddwr
  • dileu'r awgrym y gallai Makaton a Saesneg â chefnogaeth arwyddion gyfrannu at y gofynion iaith arwyddion (ond gan gadw anogaeth i ddarparu'r gwasanaethau hyn yn ychwanegol).

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (ODT, 53.3 KB) (yn Saesneg).

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Accessibility Team, Content Policy
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig