Datganiad: Trwyddedau Rhwydwaith Gorsafoedd Daearol Lloeren

Cyhoeddwyd: 12 Mai 2023
Ymgynghori yn cau: 7 Gorffennaf 2023
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 15 Medi 2023

Mae lansio a gweithredu cytserau lloerenni orbit nad yw'n ddaearsefydlog (NGSO) - fel y systemau Starlink / SpaceX ac OneWeb - yn cynrychioli ffordd gymharol newydd o ddarparu gwasanaethau band eang capasiti uchel, cyflymder uchel ac oedi isel.

Rydym am annog gwasanaethau NGSO newydd, er budd defnyddwyr a busnesau'r DU, ac ar yr un pryd sicrhau y gall gwahanol systemau gydfodoli heb ymyriant gormodol neu niweidiol.

I gefnogi'r amcan hwn, gwnaethom gyhoeddi ymgynghoriad (PDF, 627.9 KB) ym mis Mai 2023 ar gynigion i ddiweddaru ein trwydded Rhwydwaith Gorsafoedd Daearol Lloeren i sicrhau bod pob darparwr gwasanaethau lloeren yn y DU - y rhai orbit daearsefydlog (GSO) a NGSO - yn gallu cael mynediad at sbectrwm radio mewn modd tebyg, gan gynnwys cysylltedd ar longau a chychod.  Mae'r datganiad isod (yn Saesneg) yn nodi ein penderfyniadau ar y cynigion hynny.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
NGSO Consultation
Spectrum Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig