Datganiad: Amrywio Trwyddedau Mynediad i Sbectrwm yn y band 3400 i 3680 MHz

Cyhoeddwyd: 18 Ebrill 2019
Ymgynghori yn cau: 19 Mai 2019
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Yn gynharach eleni, fe wnaeth pedwar gweithredwr (EE Limited, Hutchison, Telefonica, a Vodafone) wneud cais am newid (amrywio trwyddedau) eu trwyddedau sbectrwm yn yr ystod rhwng 3410 MHz a 3680 MHz. Byddai’r newidiadau hyn yn diweddaru’r amodau technegol ym mhob trwydded, i’w gwneud yn gydnaws â Phenderfyniad Cysoni diweddar yr Undeb Ewropeaidd (“Penderfyniad yr UE”) yn y band 3.4 GHz i 3.8 GHz.

Ar 18 Ebrill 2019, fe wnaethom gyhoeddi dogfen ymgynghori a oedd yn nodi penderfyniad dros dro ein bod yn ystyried cytuno â'r ceisiadau am amrywio’r drwydded, oherwydd byddai hyn yn gyson ag amodau arfaethedig y drwydded ar gyfer y band 3.6 GHz i 3.8 GHz (a nodir yn ein dogfen ymgynghori “Dyfarnu'r bandiau sbectrwm 700 MHz a 3.6-3.8 GHz” (yr “Ymgynghoriad Dyfarnu”).

Manylion cyswllt

Cyfeiriad

Elizabeth Press
Spectrum Management and Authorisation
Spectrum Group
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA

Yn ôl i'r brig