Gwneud rhaglenni a digwyddiadau arbennig (PMSE)

Cyhoeddwyd: 27 Mehefin 2010

Os ydych yn defnyddio meicroffonau di-wifr, dyfeisiau ‘talkback’ (walkie-talkie) a 
gwasanaethau cynhyrchu ar gyfer radio a theledu, bydd angen trwydded gwneud 
rhaglenni a digwyddiadau arbennig arnoch chi. Mae hyn yn ofynnol yn ôl y gyfraith os ydynt yn uniongyrchol gysylltiedig â pherfformiad neu ddigwyddiad.

Mai 2022 – Nodyn Atgoffa Pwysig

Cofiwch ein bod yn ceisio prosesu ceisiadau am drwyddedau o fewn tri diwrnod gwaith ond efallai y bydd yn cymryd mwy o amser yn ystod cyfnodau prysur (mis Ebrill i fis Medi). Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried yr amserlen hon wrth gyflwyno ceisiadau.

Mae’n ofyniad cyfreithiol bod trwydded Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr yn cael ei rhoi gan Ofcom cyn i chi ddechrau darlledu a bod eich offer yn cael ei weithredu yn unol â’ch trwydded. Mae’r cosbau am ddefnydd heb awdurdod yn amrywio ond gallant gynnwys dirwyon mawr a charchar, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno eich cais gyda digon o amser i roi’r drwydded briodol ar waith.

Gellir gwneud y rhan fwyaf o geisiadau yn gyflym ac yn effeithlon ar-lein hefyd heb fod angen aros. Tarwch olwg ar y dudalen ‘Gwneud cais am Drwydded Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig’ i gael rhagor o wybodaeth neu i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. 

Yn ôl i'r brig