Gwybodaeth am drwydded PMSE

Cyhoeddwyd: 6 Chwefror 2015

Cwestiynau Cyffredin

Trwydded tymor byr

Gallwch wneud cais am drwydded tymor byr ar-lein.

Neu, gallwch gyflwyno eich ffurflen gais drwy anfon e-bost i pmse@ofcom.org.uk. Dylech gynnwys:

  • pryd y bydd angen y drwydded arnoch
  • am ba hyd y bydd ei hangen arnoch
  • ble y byddwch yn ei defnyddio (gyda chod post)
  • teitl y digwyddiad
  • y math o offer y byddwch yn ei ddefnyddio
  • amrediad tiwnio lawn eich offer.

Cofiwch roi manylion cyswllt y trwyddedai.

Trwydded blynyddol

Gallwch lwytho ffurflen gais briodol i lawr o’r dudalen Gwneud cais am drwydded PMSE. Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi atom dros e-bost i pmse@ofcom.org.uk.

Digwyddiadau mawr

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am major events for PMSE licensees is available.

Os nad yw eich trwydded wedi dod i ben, gallwch wneud cais i’w hadnewyddu ar-lein.

Os nad oes gennych chi gyfrif yn barod ar ein porth ar-lein, anfonwch e-bost at y tîm PMSE yn pmse@ofcom.org.uk. Peidiwch â chreu cyfrif newydd.

Os yw eich trwydded wedi dod i ben, gallwch anfon e-bost at y tîm PMSE neu ein ffonio ar 0207 981 3803.

Anfonwch e-bost at y tîm PMSE yn pmse@ofcom.org.uk os bydd unrhyw newidiadau technegol i’ch trwydded neu newidiadau i fanylion cyswllt y trwyddedai.

Rydym yn trwyddedu amleddau ar gyfer y cyfnod sy’n ofynnol yn amodol ar argaeledd a chyfyngiadau a allai fod yn berthnasol. Codir y tâl lleiaf ar gyfradd o 48 awr a gall taliadau am drafodion fod yn berthnasol.

Mae rhai amleddau ar gael ar-lein ar gyfer camerâu fideo digidol di-wifr, sy’n gymwys ar gyfradd o 12 awr.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am ein ffioedd PMSE.

Bydd angen i chi dalu’r ffioedd cyn y gallwn neilltuo’r amleddau ac anfon eich trwydded atoch.

Os ydych chi eisiau canslo cais gan nad yw digwyddiad yn mynd rhagddo mwyach, mae angen i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl. Mae hyn er mwyn i ni allu rhyddhau’r amleddau a ddyrannwyd i’w hail-neilltuo.

Os ydych chi wedi gwneud cais am amleddau, a’n bod wedi rhoi eich trwydded a bod taliad wedi’i wneud, ni fydd gennych hawl i gael ad-daliad.

Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd: Access/Mastercard, Visa, Maestro (Switch, Solo). Sylwer: byddwch yn cael dolen dros e-bost i wneud taliad yn ddiogel.

Rhaid i chi beidio â chyflwyno manylion cerdyn yn ysgrifenedig i dîm PMSE Ofcom drwy’r post neu dros e-bost. Gallwch hefyd dalu drwy drosglwyddiad banc i:

National Westminster Bank Ltd, PO Box 2021, 10 Marylebone High Street, Marylebone, London W1U 4BT
Cod didoli: 60-09-15
Enw’r cyfrif: Ofcom

Rhif y cyfrif: 86462105
Rhif IBAN: GB69NWBK60091586462105
Dyfynnwch ein cyf: Jxxxxx

Os nad yw’r amledd neu’r amleddau sydd eu hangen arnoch ar gael, gallwch gysylltu â’r tîm PMSE i drafod eich cais. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes unrhyw amleddau eraill ar gael, yn amodol ar argaeledd. Gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth berthnasol wrth law (gweler Sut mae gwneud cais am drwydded PMSE? uchod).

Tarwch olwg ar ein tudalen gwybodaeth dechnegol PMSE  i gael rhagor o wybodaeth.

Rhaid i unrhyw offer nad oes angen trwydded arno, neu sydd wedi’i eithrio o drwydded, barhau i gydymffurfio â’r rheoliadau a nodir yn y Gofyniad Rhyngwyneb 2030 (IR 2030) (PDF, 921.8 KB).

Mae dau fath o Drwydded Meicroffon Di-wifr yn y DU.

UHF - Mynediad a rennir ar draws y DU at Sianel 38 (606.500-613.500 MHz) yn fewnol neu’n allanol ac wedi’i drwyddedu ar sail heb ei diogelu am un neu ddwy flynedd.

Fel arfer, gall defnyddwyr gael 10 meicroffon radio yn yr ystod hon sy’n gweithredu yn yr un lle ar yr un pryd. Fodd bynnag, gall hyn amrywio fesul achos. Nid yw mynediad wedi’i gyfyngu i amleddau penodol a gall defnyddwyr ail-diwnio o fewn yr ystod a nodwyd i unrhyw amleddau y gellir eu defnyddio.

VHF - Mynediad a rennir ar draws y DU at amleddau 15 safle yn yr ystod 175.250 i 209.800 MHz yn fewnol neu’n allanol ac wedi’i drwyddedu ar sail heb ei diogelu am un neu ddwy flynedd. 

Mae’r trwyddedau hyn yn boblogaidd oherwydd bod modd gwneud pryniant untro heb unrhyw ofyniad i roi gwybod i ni ble na phryd mae’r sianeli hyn yn cael eu defnyddio. Fodd bynnag, gan fod y sianeli’n cael eu rhannu, rhaid i ddefnyddwyr fod yn barod i ail-diwnio i amleddau eraill os ceir ymyriant gan ddefnyddwyr lleol eraill.

Cyhoeddir Trwyddedau Safonol pan fydd defnyddiwr yn dymuno cael mynediad at amleddau sy’n cael eu cydlynu â defnyddwyr neu ddefnyddiau eraill.

Defnyddir y drwydded hon ar gyfer offer fel meicroffonau radio, monitorau clust neu gamerâu di-wifr.

Gellid cydlynu gyda defnyddwyr amledd PMSE lleol eraill, neu, ar gyfer rhai offer, bydd yn cael ei gydlynu i sicrhau nad fydd darllediad teledu yn effeithio ar y defnydd.

Mae’r trwyddedau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr archebu ar sail lleoliad a dyddiad. Mae amleddau’n cael eu harchebu ar gyfer unrhyw ystod rhwng 15 munud a blwyddyn. Fodd bynnag, dim ond ar gyfer preswylydd parhaol neu berchennog y safle y caniateir mynediad safle sefydlog blynyddol yn y tymor hir.

Mae’r risg o ymyriant ar yr amleddau hyn yn fach iawn oherwydd y broses gydlynu, ond byddwn yn cefnogi achosion o ymyriant ar y sianeli hyn

Mae trwydded yn rhoi’r hawl i ddefnyddio amleddau. Mae hyn yn golygu, y tro cyntaf y bydd defnyddiwr yn gofyn am fynediad at amleddau, byddwn yn rhoi trwydded iddynt yn gyntaf. Ar ôl creu’r drwydded, bydd yr amleddau y mae defnyddiwr yn dymuno eu defnyddio yn cael eu hychwanegu at y drwydded honno.

Mae llawer o ddefnyddwyr tymor byr yn aml yn mynnu bod amleddau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at eu trwydded. Rydym yn rhoi Hysbysiad Amrywio (NoV) i’r drwydded sy’n rhoi manylion y newidiadau hyn.

Rydym yn cyhoeddi dau fath o drwydded PMSE - Trwydded Safonol a Thrwydded 
Meicroffon Di-wifr y DU.

Defnyddir Trwyddedau Meicroffon Di-wifr y DU ar gyfer rhai amleddau meicroffon di-wifr, ac maent yn para am gyfnod o flwyddyn neu ddwy. Maent yn cael eu rhoi i bob defnyddiwr sy’n defnyddio amleddau ‘sy’n cael eu rhannu’. Mae’r adran Monitorau a Meicroffonau Di-wifr yn cynnwys manylion yr amleddau a’r trwyddedau hyn. 

Mae Trwyddedau Safonol yn para am flwyddyn. Maent yn cael eu rhoi i bob defnyddiwr sy’n defnyddio amleddau ‘cydlynol’. Yn yr amleddau hyn, rydym yn cydlynu’r defnydd o amleddau rhwng defnyddwyr, a gwasanaethau eraill.

Ar ben hynny, mae trwyddedau ADS sydd â chyfyngiad ychwanegol yn Atodlen 1 yn nodi bod yn rhaid i drwyddedeion hefyd ddal Trwydded Deddf Darlledu
Yn gyffredinol, mae Trwydded yn cynnwys yr adrannau canlynol:

  • Y drwydded sy’n cynnwys telerau ac amodau trwyddedu cyffredinol.
  • Atodlen Un sy’n disgrifio'r telerau ac amodau sy’n benodol i’r amleddau a restrir yn Atodlen Dau.
  • Atodlen Dau sy’n cynnwys rhestr o'r amleddau sydd wedi cael eu neilltuo, gyda nodweddion technegol, lleoliad neu ardal y gweithredu ac amseroedd a dyddiadau.

UHF (Sianel 38)

£85.00 am flwyddyn a £155.00 am ddwy flynedd.

Os bydd defnyddwyr yn penderfynu prynu’r math hwn o drwydded, mae gostyngiad am brynu’n uniongyrchol o’n gwefan:

£75.00 am flwyddyn a £135.00 am ddwy flynedd.

VHF (15 amledd wedi’u diffinio ymlaen llaw)

£85.00 am flwyddyn.

Os bydd defnyddwyr yn penderfynu prynu’r math hwn o drwydded, mae gostyngiad am brynu’n uniongyrchol o’n gwefan:

£75.00 am flwyddyn.

I gael gwybodaeth fanylach, tarwch olwg ar yr adran ffioedd
.

Fel arfer, defnyddiwr yr offer sy’n gorfod dal y drwydded. Mae dau eithriad.

Offer sydd wedi’i eithrio rhag trwydded.

Mae offer sydd wedi’i eithrio gan drwydded yn cynnwys rhai meicroffonau di-wifr a 
rhywfaint o offer fideo. Mae manylion ar gael yn yr adran Offer ar ein gwefan, ac mae manylion llawn yr holl offer sydd wedi’i eithrio o drwydded ar gael gan Ofcom.

Trwydded Meicroffon Di-wifr y DU

Caiff unrhyw drwyddedai sydd â Thrwydded Meicroffon Di-wifr y DU logi neu fenthyg offer i’w gwsmeriaid. Ar yr amod bod y trwyddedai’n rhoi trwydded ysgrifenedig i’w gwsmer, caiff y cwsmer ddefnyddio’r offer o dan y drwydded a roddir i’r llogwr. Rydym yn darparu trwydded enghreifftiol i bob trwyddedai.

Mae’n bosibl y bydd amleddau sy’n cael eu heithrio o drwydded ac amleddau a rennir yn dioddef ymyriant gan ddefnyddwyr eraill ar yr un amledd.

Ni ddylai hyn ddigwydd gydag amleddau wedi’u cydlynu gan fod y rhain yn cael eu rheoli’n ofalus gennym ni.

Fodd bynnag, gall ymyriant ddod o nifer o ffynonellau fel goleuadau, cyfrifiaduron, amodau atmosfferig a defnyddwyr anghyfreithlon. Mae hyn yn golygu na ellir gwarantu gweithredu heb ymyriant.

Os ydych yn profi ymyriant, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Gallwn gynnig cymorth technegol i helpu i ddatrys ymyriant a ddioddefir gan gwsmeriaid trwyddedig yn gyflym.

Os oeddech yn gallu datrys y broblem eich hun, cysylltwch â ni i roi gwybod am y broblem. Gallai hyn ein helpu i ganfod problem hirdymor a helpu i atal hyn rhag digwydd eto

Mae safle sefydlog dan do yn rhywle lle byddai effaith amledd y defnydd arfaethedig yn golygu y gellid defnyddio’r un amledd mewn safle cyfagos neu yn yr awyr (er y byddwn fel arfer yn osgoi hyn).

Mae aseiniadau parhaol (blynyddol) yn bosibl mewn safleoedd sefydlog dan do lle mae perchennog / deiliad y safle yn uniongyrchol gyfrifol am ddefnyddio’r offer.

Mae safle sefydlog yn yr awyr agored yn rhywle lle mae effaith amledd y defnydd 
arfaethedig yn ymestyn i ardal y tu hwnt i ffiniau’r safle fel nad yw’n bosibl defnyddio’r un amledd yn yr ardal.

Bydd aseiniadau parhaol yn cael eu hasesu’n unigol.

Gellir capio’r ffioedd ar gyfer defnydd achlysurol ar gyfradd yr ‘Ardal’ os yw hynny’n 
briodol.

Mae’r amleddau y gallwch drwyddedu cysylltiadau pŵer uchel arnynt ar gael ar Sianel 38. Mae dwy sianel benodol y gellir eu defnyddio sef 606.700MHz a 607.000MHz

Nid oes gan ddefnyddwyr hawl i gael mynediad at y cysylltiadau pŵer uchel hyn gyda Thrwydded Meicroffon Di-wifr y DU ar gyfer Sianel 38.

Mae cysylltiad pŵer uchel yn cael ei ystyried yn ddolen sain neu’n feicroffon di-wifr cryfach sydd â mwy o bŵer na 10mW (50mW sy’n cael ei wisgo ar y corff) ond heb fod yn fwy na 1W.

Mae rhai offer sy’n cael eu gweithgynhyrchu yn gallu tiwnio i amleddau lle nad oes angen trwydded i weithredu. Mae sawl ardal wedi’i heithrio o drwydded i ddefnyddio PMSE.

Ystod eithrio’r drwydded UHF yw 863.100-864.900 MHz. Mae hyn o fewn Sianel 70.

Mae Sianel 70 yn gyfagos i’r defnydd o wasanaethau symudol yn y band 800 MHz. Ni ddylai fod unrhyw ymyriant, ond dyma’r risg a gymerir gyda’r sianeli sydd wedi’u heithrio o drwydded.

Mae’r pŵer ar sianel 70 wedi’i gyfyngu i 10mw ar gyfer dyfeisiau llaw a 50mw ar gyfer trosglwyddyddion sy’n cael eu gwisgo ar y corff yn fewnol ac yn allanol.

Nid oes cyfyngiad ar faint o amleddau y gellir eu defnyddio yn y sianel hon ar yr amod bod defnyddwyr yn aros o fewn cyfyngiadau’r band. Ar gyfartaledd, mae’n debyg y byddai defnyddwyr yn gallu defnyddio pedair uned ar yr un pryd.

Ar hyn o bryd nid oes cynlluniau i dynnu mynediad at Sianel 70; bydd yn parhau i fod wedi’i eithrio o drwydded ar gyfer defnyddwyr PMSE.

Mae ystod eithrio ar gyfer y drwydded VHF hefyd, sy’n ymestyn o 173.700 i 15.10MHz.

Mae band WiFi sydd wedi’i eithrio o drwydded yn rhedeg o 2.400 i 2.4835GHz ac mae am ddim i’w ddefnyddio ar gyfer offer sain o dan 10Mw. Mae gweithgynhyrchwyr yn awgrymu y gellid defnyddio hyd at 70 o feicroffonau radio ar un adeg yn yr amrediad, ond mae llawer o ffyrdd eraill o ddefnyddio’r band hwn fel rhwydweithiau WiFi, cysylltiadau agos Bluetooth a microdonfeydd.

Type of Activity Included Purposes Excluded Purposes
Production of a Television or Radio Programme, either at a permanent Studio or a temporary location, - whether or not it takes place at a public or private event. Radio facilities directly involved in the production or control of the programme material.

As required for the holding, managing, running and termination of the event at the event location and site management, the following activities or personnel:
Management staff
Contractors’ staff
Security
First Aid (in both cases, excluding any Safety of Life purpose)
Catering
Crowd marshals
Traffic marshals
Car parking
Barriers and Signs
Construction
Maintenance
Co-ordination with emergency services or local authorities.
Advertising
Public or private event, at any location, eg
Sporting
Music
Theatrical
Religious
Political
Hobby
Corporate
Retailing
- whether or not the event is to be broadcast.
Radio microphones.
Communications provided for exclusive use of participants.
(Incidental reception of these channels by the public is permitted, subject to the agreement of the licensee)
Vision and sound links for distribution to loudspeakers or video screens, and for public address.
As required for the holding, managing, running and termination of the event at the event location and site management, the following activities or personnel:
Management staff
Contractors’ staff
Security
First Aid (in both cases, excluding any Safety of Life purpose)
Catering
Crowd marshals
Traffic marshals
Car parking
Barriers and Signs
Construction
Maintenance
Co-ordination with
emergency services
or local authorities
Advertising
Broadcasting for reception by audiences or the general public.
Linking of programme material from one fixed site to another fixed site Annual links (designated frequencies only)
30 day links (designated frequencies only)
Occasional use tariff (all other frequencies where available)
Broadcasting for reception by audiences or the general public.
Audio Distribution System (ADS) For direct reception by a closed user group within a small defined area, typically a sports stadium or conference hall, of audio content such as a referee's comments, conference translations, audio descriptions for the visually impaired etc. ADS licensees must also be in possession of a valid ADS-RSL Broadcasting Act licence Community radio station
Radio restricted service (RSL)

Mae ‘at ddibenion sydd wedi’u cynnwys’ yn golygu'r gweithgareddau hynny y gallwn roi trwydded ar eu cyfer.

Mae ‘dibenion wedi’u heithrio’ yn golygu'r gweithgareddau hynny na allwn eu trwyddedu. Cysylltwch ag Ofcom i gael yr amleddau priodol.

Mae gwybodaeth am amledd y DU ar gael yn:

Gall y swyddfa gyfathrebu Ewropeaidd ddarparu gwybodaeth am gysylltiadau cenedlaethol a chysylltiadau ategol ar gyfer creu rhaglenni a rhaglenni darlledu

Y gynhadledd Ewropeaidd ar weinyddiaethau post a thelegyfathrebu
Yr Undeb Darlledu Ewropeaidd

Cosbau

Rydym yn rhoi trwyddedau er mwyn gallu cydlynu amleddau ac osgoi ymyriant. Drwy ddefnyddio offer didrwydded, gallwch achosi ymyriant i ddefnyddwyr trwyddedig. Gwnewch yn siŵr bod gennych y math cywir o drwydded. Os ydych yn defnyddio offer heb drwydded, gallwch wynebu dirwy o hyd at £5000 a/neu ddedfryd o garchar. Efallai y bydd eich offer yn cael ei atafaelu hefyd. Os nad ydych yn siŵr a oes angen trwydded arnoch, cysylltwch â ni.

Yn ôl i'r brig