Ffioedd PMSE

Cyhoeddwyd: 10 Chwefror 2015
Diweddarwyd diwethaf: 16 Mawrth 2023

Mae dwy ffordd o dalu am amleddau:

Taliad safonol - drwy gerdyn credyd/debyd, siec, arian parod neu drosglwyddiad banc
Carnet - Ein cynllun talu ymlaen llaw, sy’n cynnig gostyngiad i ddefnyddwyr â thaliadau mawr

and two charging structures, dependent on type of use:

48 awr - Ar gyfer aseiniadau dros dro neu aseiniadau pŵer uchel tymor hir yn yr awyr agored
Safle sefydlog - Ar gyfer aseiniadau pŵer isel tymor hir dan do

a dau strwythur codi tâl, yn dibynnu ar y math o ddefnydd:

Trwyddedau Meicroffon Di-wifr y DU - ledled y DU, bob blwyddyn neu bob dwy flynedd
Dolenni sain (stiwdio i drosglwyddydd) - trwyddedau RSL 30 diwrnod ar gael

Sylwer: Rhaid i ni gael taliad cyn neilltuo unrhyw amleddau.

Codir ffi sylfaenol o £28.00 am bob gwaith a gwblheir yn fewnol. Nid yw hyn yn berthnasol ar gyfer archebion ar-lein, felly gwiriwch a oes modd archebu ar-lein cyn anfon eich cais. 

Mae ffi premiwm o £55.00 yn cael ei hychwanegu at bob archeb a gwblheir gan ein cynllunydd y tu allan i oriau (ar ôl 17:00 ac ar benwythnosau)

Efallai y bydd oedi gyda cheisiadau nad oes ganddynt ddigon o fanylion i ni gwblhau’r gwaith.

Ad-daliadau

Amlinellir ein polisi ad-dalu yn y Llawlyfr Polisi Trwydded.

Bydd ad-daliadau ond yn berthnasol pan fydd ymgeisydd wedi talu am wasanaeth ond nid ydym yn gallu darparu’r gwasanaeth hwnnw oherwydd diffyg sbectrwm. Yr unig achos arall lle caniateir ad-daliad yw pan fyddwn wedi gwneud camgymeriad gweinyddol (fel codi gormod)

Gellir prynu trwydded UHF a rennir am gyfnod o flwyddyn neu ddwy.

Dim ond am flwyddyn ar y tro y mae trwydded VHF a rennir ar gael.

Trwydded Ffi ar-lein Ffi swyddfa
UHF 1 Year £75 £85
UHF 2 Year £135 £155
VHF 1 Year £75 £85
Low Power Use Typical Bandwidth Typical 48hr Charge
Wireless mic 470 - 1154 MHz (10mW) 200kHz £8.50
2 - 5 GHz analogue (100mW EXT, 1W INT) 20 MHz £51
Multi-mic use within single TV Channel (470 - 790 MHz) 200 kHz per mic £51
Multi-mic use within single 960 Channel (961 – 1154 MHz) 200 kHz per mic £25.50

Ffi = ffi fesul uned lled band x nifer yr unedau lled band sydd eu hangen x nifer y cyfnodau o 48 awr. Mae tocyn carnet yn talu am gost uned lled band am 48 awr

Frequency Range Bandwidth Unit 48hr Charge/ Bandwidth Unit Typical Bandwidth Typical 48hr Charge
         
26 - 65 MHz 12.5kHz £2.75 12.5kHz £2.75
65 - 470 MHz 12.5kHz £8.50 12.5 kHz £8.50
470 - 1000 MHz 12.5kHz £2.75 200 kHz £44
1 - 2 GHz 0.5 MHz £17 0.5 MHz £17
2 - 5 GHz (on-line only) 10 MHz £12 per 12hrs N/A N/A
2 - 5 GHz 5 MHz £28 10 MHz** £56
5 - 8 GHz 5 MHz £17 20 MHz £68
8 - 20 GHz 5 MHz £8.50 20 MHz £34

Codir ffioedd safle sefydlog am ddefnydd hirdymor mewn lleoliadau dan do.

Ar gyfer defnydd tymor byr, bydd y tariff 48 awr yn berthnasol.

Pan fydd amodau safle sefydlog yn cael eu bodloni ar gyfer aseiniadau dros dro, codir y ffi ratach.

Use Type Frequency Range Typical Bandwidth Typical Power Annual Rate
         
Talkback 450 - 470 MHz 12.5kHz 1W £28
Talkback 470 - 1000 MHz 12.5kHz 100mW £28*
Talkback 470 - 1000 MHz 200kHz 100mW £28*
         
Wireless Mic 470 - 1154 MHz 200kHz 10mW £28*
         
Special Cases
*Talkback /Wireless Mic Multi use within single TV Channel (470 – 790 MHz)     £168
Wireless Mic Multi use within single 960 Channel (961 – 1154 MHz)     £84

Mae carnet yn ffordd o dalu ymlaen llaw am neilltuo amledd.

Wrth ddefnyddio carnet, rhaid i chi wneud cais am bob aseiniad o hyd, yn union fel ar gyfer aseiniadau talu wrth ddefnyddio, ond nid oes angen i chi drefnu taliad bob tro.

Mae un tocyn carnet yn cynnwys defnyddio un aseiniad amledd am 48 awr.

Dim ond ar gyfer un aseiniad y gallwch chi ddefnyddio tocyn carnet.

Dewis o amleddau

Nid yw carnet yn nodi amledd penodol, ond band amledd cyfan: Er enghraifft, gellir defnyddio tocyn carnet yn y band 2GHz i 3.5GHz i dalu am neilltuo unrhyw amledd 2GHz neu 3.5GHz.

Nid yw’n gwarantu mynediad at unrhyw amledd penodol. Mae amleddau’n cael eu neilltuo ar y sail cyntaf i’r felin.

Os nad oes gennych chi ddigon o docynnau carnet ar gyfer yr amleddau sydd eu hangen arnoch chi, gallwch dalu am amleddau ychwanegol yn ôl yr angen; drwy gerdyn credyd, er enghraifft. Cofiwch, codir tâl sylfaenol am aseiniadau talu wrth ddefnyddio. Fel arall, gellir prynu carnet arall.

Canslo

Os byddwch yn canslo aseiniad sydd wedi cael ei wneud gyda thocyn carnet, fydd y tocyn ddim yn cael ei ‘ad-dalu’.

Hyd

Mae Carnet yn para nes bydd pob tocyn carnet wedi cael ei ddefnyddio, a gallwch gario eich tocynnau carnet sy’n weddill i drwydded flynyddol newydd.

Ffi

Mae cost carnet yn dibynnu ar y band amledd. Mae carnet 60 tocyn yn arbed 7.5% ar y ffi arferol ar gyfer 48 awr, ac mae carnet 480 tocyn yn arbed 25% ar y ffi arferol ar gyfer 48 awr.

Mae pob tocyn carnet yn cynrychioli un uned lled band safonol, felly bydd rhai gofynion yn defnyddio mwy nag un carnet fesul aseiniad, ee mae gan ddolen fideo analog 2.5 GHz nodweddiadol led band o 20 MHz, felly mae’n defnyddio 4 tocyn 5MHz. Mae pob tocyn yn talu am aseiniad am hyd at 48 awr (ac eithrio ar-lein 2GHz).

Gallwch nawr brynu a gweld y carnetau sy’n weddill ar-lein; cofrestrwch neu fewngofnodi.

Ffioedd carnet 

Frequency Range Typical
Use
Bandwidth Unit 60 Tokens/ Bandwidth Unit 480 Tokens/ Bandwidth Unit Typical Bandwidth Token
Category
             
26 - 65 MHz Talkback 12.5kHz £153 £990 12.5kHz 11W
65 - 470 MHz Talkback 12.5kHz £472 £3060 12.5 kHz 12W
470 - 1000 MHz 1W links/High Power Mics 12.5kHz £153 £990 200 kHz 13W
1 - 2 GHz  Video links/wireless cameras 0.5 MHz £944 £6120 0.5 MHz 14W
2 - 5 GHz Video links/wireless cameras
(processed in-house)
5 MHz £1554 £10080 10 MHz 15W
2 GHz digital link on-line booking 12hr  Wireless cameras
(booked online)
10 MHz £666 £4320 10 MHz 85W
5 - 8 GHz Video links/wireless cameras 5 MHz £944 £6120 20 MHz 16W
8 - 20 GHz Video links/wireless cameras 5 MHz £472 £3060 20 MHz 17W
             
Low Power            
Wireless mic (10mW) Mics and IEMS   £472 £3060 200kHz 20W

Rydym yn deall y gall fod yn anodd deall ein ffioedd weithiau, felly mae ein cyfrifianellau wedi’u llunio i wneud yr holl waith caled i chi.

Dewiswch y math o offer o'r rhestr isod a dewis eich gofynion o'r opsiynau sydd ar gael.


Cyfrifiannell Ffioedd Dosbarthu Sain

Cyfrifiannell Ffioedd Dolenni Sain

Cyfrifiannell Ffioedd Rheoli Camera

Cyfrifiannell Ffioedd Meicroffonau a Monitorau Di-wifr 

Yn ôl i'r brig