Diweddariadau trwyddedu

Cyhoeddwyd: 21 Chwefror 2024
Diweddarwyd diwethaf: 21 Chwefror 2024

Hysbysiad Cyffredinol o'r penderfyniad i amrywio trwyddedau radio amatur

Ar 11 Rhagfyr 2023 fe wnaethom gyhoeddi ein datganiad yn nodi ein penderfyniad i ddiweddaru’r fframwaith trwyddedu radio amatur i sicrhau bod y polisïau a’r trwyddedau’n diwallu anghenion amaturiaid radio heddiw ac yfory, tra’n symleiddio’r broses drwyddedu.

Ochr yn ochr â'r datganiad gwnaethom gyhoeddi Hysbysiad Cyffredinol o'r cynnig i amrywio trwyddedau radio amatur, gan roi rhybudd o’n cynnig i amrywio'r holl drwyddedau radio amatur, yn unol â pharagraffau 6 a 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006 a thelerau ac amodau’r drwydded.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein Hysbysiad Cyffredinol o'r penderfyniad i amrywio'r holl drwyddedau radio amatur. Mae’r Hysbysiad Cyffredinol hwn yn esbonio’r rhesymau dros ein penderfyniadau ac yn cadarnhau, gyda rhai diwygiadau yn sgil ymatebion rhanddeiliaid i’r ymgynghoriad, y byddwn yn amrywio’r holl drwyddedau radio amatur i weithredu ein cynlluniau i ddiweddaru’r fframwaith trwyddedau radio amatur.

Mae pob trwydded radio amatur i bob pwrpas yn cael ei hamrywio o'r dyddiad heddiw a rhaid i unrhyw ddefnydd o offer radio amatur gydweddu â'r telerau ac amodau newydd ar gyfer y dosbarth o drwydded amatur a ddelir. Cyn bo hir byddwn yn dechrau cysylltu â deiliaid trwyddedau i roi eu dogfennau trwydded newydd iddynt.

Ochr yn ochr â’n Hysbysiad Cyffredinol o benderfyniad, rydym hefyd wedi cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’r Ddogfen Trwyddedu Radio Amatur, fersiwn wedi’i diweddaru o’r Llyfryn Amodau Trwydded Telegraffiaeth Ddi-wifr Radio Amatur, fersiwn wedi’i diweddaru o’r Hysbysiad Cydlynu a fersiwn wedi’i diweddaru o’r ddogfen canllawiau radio amatur.

Yn ôl i'r brig