Datganiad: Diweddaru'r fframwaith trwyddedu radio amatur

Cyhoeddwyd: 23 Mehefin 2023
Ymgynghori yn cau: 4 Medi 2023
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Datganiad wedi'i gyhoeddi 11 Rhagfyr 2023

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein penderfyniad i ddiweddaru’r fframwaith trwyddedu radio amatur i sicrhau bod y polisïau a’r trwyddedau’n diwallu anghenion amaturiaid radio y presennol a'r dyfodol, tra’n symleiddio’r broses drwyddedu. Rydym wedi canolbwyntio ar sicrhau bod ein rheolau'n addas at y diben ac yn benodol rydym yn ceisio:

  1. Moderneiddio ein polisïau a’n rheolau i ganiatáu mwy o ryddid gweithredu i amaturiaid radio tra’n cynnal rheolaeth reoleiddiol briodol dros y defnydd o sbectrwm;
  2. Gwneud ein rheolau mor glir a syml â phosibl, gan alinio â meysydd sbectrwm eraill yr ydym yn eu hawdurdodi lle bo’n briodol i wella cysondeb ac ymateboldeb.

Ochr yn ochr â’r datganiad, rydym wedi cyhoeddi Crynodeb o’r Newidiadau (PDF, 166.4 KB) (yn Saesneg); mae hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o'r newidiadau polisi yr ydym wedi'u gwneud i'r fframwaith trwyddedu radio amatur.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein Hysbysiad Cyffredinol, sy'n rhoi rhybudd o'n cynnig i amrywio'r holl drwyddedau radio amatur.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Amateur Radio Review
Ofcom                                                                                                                       
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig