Cysylltiadau daearol sefydlog

Cyhoeddwyd: 20 Mehefin 2023
Diweddarwyd diwethaf: 9 Ionawr 2025

Mae cysylltiadau daearol sefydlog neu systemau di-wifr sefydlog (FWS) yn systemau di-wifr daearol, sy’n gweithredu rhwng dau neu fwy o bwyntiau sefydlog.

Maent yn cael eu defnyddio i ddarparu rhaglenni mynediad i gwsmeriaid a seilwaith 
rhwydwaith ar draws amrywiaeth o fandiau amleddau, yn amrywio o 450 MHz i 86 GHz ar hyn o bryd.

Nid ydym bellach yn derbyn ceisiadau newydd am drwyddedau cysylltiad sefydlog yn y band 26 GHz. Nid ydym chwaith yn derbyn unrhyw geisiadau newydd am amrywiad technegol ar gyfer trwyddedau presennol yn y band.

Sylwch ar ein gwaith parhaus ar ein strategaeth data symudol. Mae ein strategaeth yn ystyried yr heriau y gallai’r galw cynyddol am wasanaethau data symudol eu codi a beth allai hyn ei olygu i waith Ofcom dros y blynyddoedd nesaf. Yn benodol, rydym yn nodi ac yn blaenoriaethu nifer o fandiau sbectrwm lle rydym yn gwneud rhagor o waith ynghylch eu hargaeledd posibl ar gyfer defnyddio data symudol yn y dyfodol, gan gydnabod yr holl alwadau eraill sy’n cystadlu am sbectrwm. Cyhoeddwyd ein datganiad ym mis Mai 2014.

Fe wnaethom ddiweddaru ein strategaeth ym mis Mehefin 2016 (PDF, 363.4 KB) i ystyried datblygiadau newydd fel datblygiadau mewn technoleg 5G.

Y Diweddaraf: 2 Chwefror 2018

Ym mis Hydref 2017, fe wnaethom ddechrau’r broses statudol i gynnig dirymu trwyddedau cysylltiadau sefydlog yn y band 3.6 i 3.8 GHz. Mae ein diweddariad ar amseriad argaeledd sbectrwm (PDF, 367.6 KB)  yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y penderfyniadau rydym wedi’u gwneud fel rhan o’r broses honno

Diweddariad: 5 Ebrill 2017

Ar ôl cyhoeddi ein Diweddariad ar y sbectrwm 5G yn y DU (PDF, 2.9 MB),cynghorir ymgeiswyr am drwyddedau cysylltiad sefydlog yn y band 26 GHz i nodi bod y band 26 GHz wedi cael ei nodi gan y Grŵp Polisi Sbectrwm Radio Ewropeaidd (RSPG) fel band arloesol yn Ewrop (ac yn ehangach) ar gyfer 5G (Barn RSPG ar agweddau sy’n gysylltiedig â sbectrwm ar gyfer systemau di-wifr y genhedlaeth nesaf (5G)). Mae’r DU yn cefnogi’r cam gweithredu hwn ac ar hyn o bryd mae’n gweithio yn CEPT i ymateb i’r Mandad Ewropeaidd diweddar ar y mesurau cysoni technegol ar gyfer y band hwn. Fel y nodwyd yn ein diweddariad 5G, mae Ofcom yn bwriadu ymgynghori yn ystod y cyfnod nesaf ar opsiynau i sicrhau bod rhywfaint neu’r cyfan o’r sbectrwm hwn ar gael ar gyfer gwasanaethau symudol. 
Felly, cynghorir ymgeiswyr am gysylltiadau sefydlog i ystyried hyn mewn unrhyw geisiadau ar gyfer y band hwn yn y dyfodol a, lle bo modd, efallai y byddant yn dymuno ystyried bandiau cysylltiad sefydlog eraill i fodloni eu gofynion.

Diweddariad: 6 Hydref 2016

Rydym wedi cyhoeddi dogfen ymgynghori Gwella mynediad defnyddwyr at wasanaethau symudol rhwng 3.6 a 3.8 GHz. Os ydych yn ystyried gwneud cais i ddefnyddio’r band 3.6 GHz i 3.8 GHz, darllenwch Adran 10 y ddogfen ymgynghori hon (PDF, 5985 KB) i gael esboniad o sut gallai argaeledd aseiniadau yn y band hwn newid yn y dyfodol a rhai mesurau interim sy’n berthnasol o ddyddiad yr ymgynghoriad hwn

Ffurflenni cysylltiadau o bwynt-i-bwynt microdonfedd daearol sefydlog ar gyfer seilwaith di-wifr a mynediad i gwsmeriaid.

OfW 85: Point to point fixed link licence application form (PDF, 1.4 MB)

Diweddariad 5 Mawrth 2021: Band 1492 – 1517 MHz

Mae Penderfyniad yr UE 2018/661, ynghyd â Rheoliad 4 Band Amledd 1452-1492 MHz a 3400-3800 MHz (Rheoli) 2016/495 (fel y’u diwygiwyd), yn cysoni’r band 1492 – 1517 MHz ar gyfer band eang di-wifr cysylltiad i lawr yn unig ar draws yr Undeb Ewropeaidd a’r DU. Ar ôl mabwysiadu’r rheoliadau hyn a dechrau’r broses o ddarparu’r sbectrwm hwn ar gyfer systemau symudol, mae Ofcom wedi:

  • cau’r band 1498.5 i 1517 MHz a 1356.5 i 1375 MHz i geisiadau cysylltiad di-wifr sefydlog newydd ac amrywiadau technegol ar 5 Ionawr 2019 fel y nodwyd yn ein datganiad adolygu gwasanaethau di-wifr sefydlog;
  • ysgrifennu at bob trwyddedai sydd â thrwyddedau cysylltiad sefydlog 1.4 GHz yn y band 1492 – 1517 MHz i roi gwybod iddynt am benderfyniad terfynol Ofcom i ddirymu pob trwydded cysylltiad sefydlog 1.4 GHz yn y band 1492 – 1517 MHz yn ogystal â’r is-fand 1350 – 1375 MHz.

Diweddariad 5 Chwefror 2020: Sianeli cul yn y band 6GHz uchaf

Heddiw, mae Ofcom wedi sicrhau bod opsiynau sianel gul newydd ar gael o fewn sbectrwm 2 X 14MHz yn y band amledd 6GHz uchaf presennol. Mae’r sianeli newydd hyn yn darparu opsiynau lle mae angen cysylltedd capasiti is ac maent ar gael i’w neilltuo fel rhan o ddull Ofcom at geisiadau a neilltuo cysylltiad sefydlog safonol. Mae rhagor o fanylion am y sianeli sydd ar gael a’r amodau technegol ar gael yn OFW446 (PDF, 1.4 MB).

Diweddariad 9 Rhagfyr 2019: Band 8 GHz newydd ar gael ar gyfer neilltuo cysylltiad sefydlog

Mae Ofcom wedi agor sbectrwm ychwanegol yn y band 8 GHz i’w neilltuo i gysylltiadau sefydlog fel rhan o ddull safonol Ofcom at wneud cais a neilltuo. Mae’r sbectrwm newydd hwn, sy’n rhan o Raglen Rhyddhau Sbectrwm y Sector Cyhoeddus, yn cynrychioli hyd at 2 x 84 MHz sbectrwm dwplecs yn y band 7.9 i 8.4 GHz ar sail wedi’i chydlynu/rhannu gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae rhagor o fanylion am y sianeli sydd ar gael a’r amodau technegol ar gael yn OfW 446: Technical Frequency Assignment Criteria for Fixed Point-to-Point Radio Services with Digital Modulation (PDF, 1.4 MB).

Tarwch olwg ar ein guidance for 8 GHz applicants (PDF, 300.1 KB).

Diweddariad 2 Medi 2019: Band 70/80 GHz

Yn ddiweddar, mae Ofcom wedi diweddaru (cynyddu) nifer y sianeli sydd ar gael i’w neilltuo yn rhan gydgysylltiedig Ofcom o’r band 70 / 80 GHz. Mae’r diweddariad, sy’n golygu bod y 2 x 2 GHz o sbectrwm sydd ar gael i’w neilltuo, yn caniatáu i’r sianeli ychwanegol gael eu hystyried yn awtomatig ar gyfer pob cais am drwydded yn unol â’n polisi neilltuo presennol. Mae rhagor o fanylion am y sianeli sydd ar gael yn OfW 446 (PDF, 1.4 MB).

Diweddariad 27 Tachwedd 2018: 64-66 GHz

Fel y nodwyd yn ein datganiad adolygu gwasanaethau di-wifr sefydlog, rydym wedi penderfynu newid yr awdurdodiad yn y band hwn i esemptiad trwydded o dan benderfyniadau technegol newydd (sydd wedi’u nodi yn y Gofynion Rhyngwyneb diweddaraf, IR 2030 ac IR 2078). Er mwyn gweithredu’r penderfyniad hwn, rydym wedicreu rheoliadau newydd a ddaeth i rym ar 27 Tachwedd 2018. Ni fydd angen trwydded ar offer sy’n cydymffurfio â’r amodau technegol newydd i weithredu yn y band 64 - 66 GHz mwyach.

Cysylltiadau analog pwynt-i-bwynt daearol sefydlog sy’n darparu seilwaith ar gyfer systemau teledu cylch cyfyng.

Application for Point to Point CCTV Services Link licence  (PDF, 220.3 KB)

Guidance Notes for Application Form for a CCTV Link Licence  (PDF, 690.3 KB)

Cysylltiadau pwynt-i-bwynt tonnau milimedr daearol sefydlog, fel arfer ar gyfer 
rhwydweithiau seilwaith a mynediad di-wifr capasiti uchel pellter byr

Mae’r band 73.375 – 75.875 GHz a 83.375 – 85.875 GHz ar gael yn y DU o dan broses trwydded ysgafn ar gyfer rhaglenni di-wifr sefydlog pwynt-i-bwynt

Ar hyn o bryd, mae’r band yn cael ei weinyddu dan brosesau trwyddedu dros dro a chofrestru cysylltiad. Bydd y gweithdrefnau dros dro sy’n cynnwys gweithdrefnau â llaw yn bennaf ar waith nes bydd Ofcom yn cyhoeddi’r gweithdrefnau parhaol ar gyfer y band hwn y bwriedir iddynt fod drwy adnodd ar y we.

OfW368 - Application form for a Self Co-ordinated Links Licence (PDF, 413.9 KB)

OfW 383: Form for Link Registration in the 73.375 – 75.875 GHz and 83.375 – 85.875 GHz bands
(PDF, 195.5 KB)

Os ydych chi eisiau cofrestru mwy nag un cysylltiad, llenwch ein ffurflen cofnodi data ar gyfer ceisiadau aml-gysylltiad 70 – 80 GHz (XLSX, 483.9 KB)  a’i chyflwyno ynghyd ag OfW 383 (adrannau A a G yn unig).

70/80 GHz section of the Wireless Telegraphy Register (XLSX, 1.4 MB)
Diweddarwyd 4 Rhagfyr 2024

Ceisiadau pwynt daearol sefydlog i gysylltiadau amlbwynt ar gyfer mynediad o bell i 
oruchwylio, rheoli a chaffael data (SCADA).

Scanning Telemetry Link Licence Application Form (PDF, 177.4 KB)

Fees information


Prynu a gwerthu sbectrwm

Ein Desg Prynu a Gwerthu Sbectrwm yw’r pwynt cyswllt cyntaf i gael rhagor o wybodaeth ac eglurhad am brynu a gwerthu sbectrwm, neu os hoffech fasnachu. Mae modd cysylltu â’r Ddesg drwy:

post: Spectrum Trading Desk, Ofcom, Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, London SE1 9HA

e-bost: spectrum.tradingdesk@ofcom.org.uk

ffôn: 020 7981 3083

ffacs: 020 7981 3052


Trading guidance notes (PDF, 668.3 KB)


Application for Spectrum Trading (Lease) (OfW512) (PDF, 220.7 KB)

Application for Spectrum Trading (OfW206)  (PDF, 211.8 KB)

Application for Spectrum Trading (Outright Transfer) (OfW437)  (PDF, 209.1 KB)

Due diligence form (PDF, 235.6 KB)

Meini Prawf Neilltuo Amledd Technegol

OfW446 - Technical Frequency Assignment Criteria for Fixed Point-to-Point Radio Services with Digital Modulation (PDF, 1.4 MB)

OfW31 - Fixed Point-to-Point Radio Services with Analogue Modulation Operating in the Frequency Ranges 31.0 to 31.3 GHz paired with 31.5 to 31.8 GHz  (PDF, 287.2 KB)
Yn y ddogfen hon, dylid disodli pob cyfeiriad at Ddeddfau Telegraffiaeth Ddi-wifr gyda “Deddf Telegraffiaeth Ddi-Wifr 2006”

OfW 49 - Fixed Point-to-Point and Point-to- Multipoint Scanning Telemetry Radio Services with Analogue Modulation Operating in the Frequency Ranges 457.5 to 458.5 MHz paired with 463.0 to 464.0 MHz (PDF, 1.4 MB)


Codau Cyfeirnod Offer ac Antena

Guidance on Equipment and Antenna Reference Codes (PDF, 41.0 KB)

Antenna Reference Codes (XLSX, 1.7 MB)
Diweddarwyd 12 Mawrth 2024

Equipment Reference Codes (XLSX, 406.1 KB)
Diweddarwyd 12 Mawrth 2024


Gofynion rhyngwyneb

IR 2000 Point-to-Point Fixed Wireless Systems Operating in Fixed Service Frequency Bands Administered by Ofcom
(PDF, 207.6 KB)

IR 2078 - Fixed Wireless Systems in the 57.1 - 70.875 GHz band
(PDF, 184.4 KB)


Gwybodaeth dechnegol arall

OfW48 UK Frequency Allocations for Fixed (Point-to-Point) Wireless Services and Scanning Telemetry
(PDF, 439.0 KB)

OfW557 - Guidance for fixed link assignment requests in the 1.4 GHz band from 29 May 2015 - Mitigation measures to achieve compatibility between base stations in 1452-1452 MHz and fixed links in 1498.5-1517 MHz
(PDF, 422.9 KB)

Rain-rate map used by Ofcom in fixed link frequency assignment procedures (MAP, 354.2 KB)

Opening of 8 GHz for civil users: Guidance for applicants (PDF, 300.1 KB)

Sylwch nad yw Ofcom yn darparu cyfleuster cydlynu penodol ar gyfer ffermydd gwynt mwyach.

Yn hytrach, gall rhanddeiliaid nawr gael gafael ar wybodaeth am drwyddedau Ofcom drwy the System Gwybodaeth Sbectrwm Ofcom (SIS). M. Mae’r SIS yn cynnwys data trwydded ar gyfer cysylltiadau sefydlog yn y DU sy’n cael eu neilltuo a’u cydlynu gan Ofcom

Wrth ddefnyddio’r SIS, dylid nodi bod nifer o fandiau amledd sydd bellach wedi’u 
hawdurdodi ar sail bloc, hy mae’r bandiau hyn yn cael eu rheoli a’u neilltuo gan y 
trwyddedeion eu hunain ac nad yw’r wybodaeth gyswllt unigol ar gyfer y bandiau hyn (lle mae band yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cysylltiad sefydlog) yn cael ei chadw yng nghronfa ddata trwyddedu a neilltuo Ofcom nac yn cael ei chyhoeddi ar y SIS. Mae rhagor o wybodaeth am y bandiau hyn a manylion y trwyddedeion ar ein gwefan.

Hefyd, mae cysylltiadau Telemetreg Sganio, a ddefnyddir gan y cyfleustodau a’r 
gwasanaethau eraill (sy’n gweithredu yn y bandiau 457.5 – 458.5 MHz a 463 – 464 MHz), yn cael eu rheoli’n allanol gan Atkins Limited a’r Joint Radio Company (JRC), a gellir cysylltu â nhw fel a ganlyn:

Atkins Limited
200 Broomielaw
Glasgow
G1 4RU
E-bost: windfarms@atkinsglobal.com

JRC (Joint Radio Company)
Friars House
Manor House Drive
Coventry
CV1 2TE
E-bost : windfarms@jrc.co.uk
Gwefan: www.jrc.co.uk/what-we-do/wind-farms

Mae tîm Gwasanaethau Di-wifr Sefydlog Ofcom yn rhedeg nifer o grwpiau diwydiant, gan hyrwyddo’r defnydd o’r sbectrwm a hwyluso’r broses o brynu a gwerthu sbectrwm. Maent yn helpu i gyfathrebu’n uniongyrchol â’r diwydiant, gan ddylunio fforwm i gyfnewid gwybodaeth, syniadau a dadansoddi cysyniadau newydd. Maent yn helpu FWS i gyflawni ei brif nod sef cydbwyso nifer o amcanion sy’n cystadlu â’i gilydd, fel cynyddu effeithlonrwydd sbectrwm, hyblygrwydd defnydd i ddefnyddwyr, gofynion y farchnad a mwy.

Mae Ofcom ac aelodau’r diwydiant yn cael cyfle i drafod materion sy’n ymwneud â’r farchnad, cyfnewid syniadau a rhannu adborth ar brosiectau presennol sy’n ymwneud â rheoli’r sbectrwm di-wifr sefydlog.

Mae’r rhai sy’n bresennol yn elwa o gael mwy o wybodaeth a dealltwriaeth o faterion sy’n ymwneud â’r diwydiant. Yn fwy penodol, fe’u defnyddir i wella gwasanaethau a chynnyrch, meithrin perthnasoedd a datrys problemau’n well.

Mae’r grwpiau’n gyfle gwerthfawr i Ofcom ac aelodau’r diwydiant ryngweithio’n 
uniongyrchol â’i gilydd, gan ddatblygu dealltwriaeth fwy trylwyr o ddulliau gweithio a blaenoriaethau ei gilydd. Mae Ofcom yn canfod ei fod yn magu hyder cwsmeriaid sy’n helpu i nodi a thrafod materion allweddol ac, yn sgil hynny, mae’n arwain at ddatblygu atebion sydd o fudd i’r naill ochr a’r llall.

Dyma’r grwpiau diwydiant ar gyfer FWS:

Fforwm Cyswllt y Diwydiant Di-wifr Sefydlog (FWILF)
Grŵp Gorchwyl Adolygiad Technegol Di-wifr Sefydlog (FWTRTG)
Gweithgorau (WP)
Grŵp Gorchwyl Gwasanaeth Sefydlog (FSTG)

Fforwm Cyswllt y Diwydiant Di-wifr Sefydlog (FWILF)

FWILF yw’r prif fforwm. Mae fel arfer yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, mae’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y datblygiadau sy’n ymwneud â materion technegol amarchnad cyfredol ac mae’n cydlynu digwyddiadau’r grwpiau eraill. Os ydych chi eisiau cael trosolwg o ddatblygiadau diweddar i wella effeithlonrwydd sbectrwm ar gyfer gwasanaethau di-wifr sefydlog, polisïau masnachu a materion cyffredinol a allai effeithio ar y diwydiant cyfan, mae’n well mynychu’r fforwm hwn.

Grŵp Gorchwyl Adolygiad Technegol Di-wifr Sefydlog (FWTRTG)

Mae FWTRTG yn is-grŵp o’r FWILF. Mae’n grŵp llai sy’n trafod materion technegol yn fanwl. Mae’r grŵp yn cael ei ddefnyddio fel hwylusydd i adrodd ar gynnydd prosiectau technegol sy’n cael eu rhedeg gan Ofcom ac aelodau o FWILF..

Gweithgorau (WP)

Timau prosiect bach yw’r rhain sy’n ymchwilio i faterion penodol a godwyd yn FWILF boed hynny’n dechnegol neu fel arall. Eu nod yw canfod atebion posibl. Mae’r gweithgorau’n adrodd i’r FWILF.

Grŵp Gorchwyl Gwasanaeth Sefydlog (FSTG)

Mae hwn yn is-grŵp arall o FWILF sy’n casglu ynghyd y gymuned wyddonol i edrych ar a datrys materion lluosogi a chynllunio a godwyd gan aelodau’r diwydiant yn FWILF. Mae’r grŵp yn gyfle i drafod syniadau a materion gydag aelodau sydd â gwybodaeth dechnegol fanwl a lefel uchel o arbenigedd radio gwyddonol.

Sut mae cymryd rhan

Os ydych chi eisiau cael rhagor o wybodaeth am Fforwm Cyswllt y Diwydiant Di-wifr Sefydlog (FWILF) neu un o’i is-bwyllgorau, neu os ydych chi eisiau dod i un o’n cyfarfodydd, cysylltwch ag ysgrifennydd y diwydiant, christian.songue@ofcom.org.uk a rhoi ‘Grwpiau Diwydiant’ yn y blwch pwnc, gan roi eich manylion cyswllt a’r grŵp sydd o ddiddordeb i chi.

Yn ôl i'r brig