Gwella mynediad defnyddwyr at wasanaethau symudol o 3.6GHz i 3.8GHz

Cyhoeddwyd: 28 Gorffennaf 2017
Ymgynghori yn cau: 22 Medi 2017
Statws: Ar gau (cyhoeddwyd y datganiad)

Mae'r ddogfen hon yn datgan sut mae Ofcom yn bwriadu ymestyn mynediad sbectrwm ar gyfer gwasanaethau symudol yn y dyfodol yn y band 3.6GHz i 3.8GHz. Mae'r DU a’r Undeb Ewropeaidd wedi nodi’r band hwn fel rhan o’r prif fand ar gyfer 5G.

Byddwn nawr yn dechrau’r broses ffurfiol i gynnig (i) diddymu trwyddedau cysylltiadau sefydlog yn y band 3.6 i 3.8 GHz a (ii) amrywio trwyddedau a dyfarniadau Mynediad Sbectrwm Cydnabyddedig ar gyfer gorsafoedd daear lloeren fel na fyddai Ofcom mwyach yn ystyried gorsafoedd daear lloeren cofrestredig gyda chydran derbyn yn y band at ddibenion rheoli amledd.

Byddwn nawr yn ysgrifennu at y rheini sy’n dal trwyddedau a dyfarniadau gan nodi ein cynigion; byddan nhw’n cael cyfle pellach i gyflwyno sylwadau cyn i ni wneud y penderfyniadau terfynol ynghylch trwyddedau unigol a grantiau RSA.

Ymatebion

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Alberto Fernandes
Floor 3:126
Spectrum Group
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London
SE1 9HA
Yn ôl i'r brig