Casgliadau: Diwallu'r galw am ddata symudol yn y dyfodol

Cyhoeddwyd: 9 Chwefror 2022
Ymgynghori yn cau: 8 Ebrill 2022
Statws: Ar gau (yn aros datganiad)

Casgliadau wedi'u cyhoeddi 6 Rhagfyr 2022

Mae mynediad symudol i'r we wedi mynd yn wasanaeth hanfodol i bobl a busnesau. Rydym yn disgwyl i'r galw am ddata symudol barhau i dyfu wrth i fwy o ddefnydd gael ei wneud o wasanaethau sy'n llyncu data ac wrth i dechnolegau newydd alluogi defnyddiau newydd. Bydd angen i bob math o rwydwaith di-wifr esblygu i ateb y galw yn y dyfodol a darparu ansawdd y profiad sydd ei angen ar gwsmeriaid.

Ochr yn ochr â Wi-Fi, mae rhwydweithiau symudol yn chwarae rôl bwysig wrth ddarparu mynediad i'r rhyngrwyd. Rydym wedi bod yn ystyried ein hymagwedd at farchnadoedd symudol yn y dyfodol a rôl sbectrwm wrth alluogi twf symudol ar y rhyngrwyd. Fe wnaethom gyhoeddi papurau trafod ar bob un o'r meysydd hyn yn Chwefror 2022. Rydym bellach wedi nodi ein casgliadau, gan gymryd yr ymatebion a gawsom i ystyriaeth.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi diweddariad ar y defnydd o'r band 6 GHz uchaf.

Manylion cyswllt

Cyfeiriad
Mobile Spectrum Demand Team
Ofcom
Riverside House
2A Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Yn ôl i'r brig